Jams a ddywedodd:Son bod Ryan Jones mas am rhai wythnose eto. Os dyw e ddim yn gallu ware bydde fe yn golled - Jonathan Thomas fel eilydd? Dim llawer o ddewis ar ol hynny.
Delve?
Cymedrolwr: eusebio
Jams a ddywedodd:Son bod Ryan Jones mas am rhai wythnose eto. Os dyw e ddim yn gallu ware bydde fe yn golled - Jonathan Thomas fel eilydd? Dim llawer o ddewis ar ol hynny.
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Cytuno'n llwyr, Delve yw'r opsiwn amlwg. OND yn ôl sôn pan gafodd Ryan Jones anaf cyn gêm Ariannin, Delve oedd fod cychwyn yn rhif 8, ond ddigwyddodd rhywbeth (dim syniad beth) a dewiswyd Andy Powell yn lle. Ydy Gatland a Delve wedi cwmpo mas neu rhywbeth?
Macsen a ddywedodd:Bydd Cymru yn maeddu Samoa yn weddol gyffyrddus yn fy nhyb i. Mae’r sylwebwyr i weld yn eithaf sicr y gallai Samoa fynd a hi, ond dydw i ddim yn cytuno am sawl rheswm.
1.) Mae Samoa ar tua’r un lefel a’r Eidal yn rhestr IRB. Fe allai’r Eidal ein maeddu ni hefyd, ond 8 gwaith ym mhob 10 fe fyddwn ni’n eu maeddu nhw.
2.) Heblaw am y fuddugoliaeth enwog yna erbyn ail dim Awstralia, mae eu record nhw'n eithaf gwael. Fe gollon nhw yn erbyn Tonga a Fiji ym mis Gorffennaf.
3.) Dyw record Cymru yn erbyn Fiji a Samoa ddim yn wych, ond rydyn ni fel arfer wedi chwarae tîm gwannach yn eu herbyn nhw yng ngemau'r hydref.
4.) Rydyn ni wedi cael ambell sioc yn y gorffennol wrth beidio a’u cymryd nhw o ddifrif, rywbeth sy'n annhebygol iawn y tro yma.
5.) Oherwydd amserlen braidd yn annheg mae’n rhaid i Samoa chwarae dwy gêm mewn pum diwrnod, ac yn debygol o fod wedi ymlâdd cyn cyrraedd y cae. Neu o leiaf ar ôl gorffen y haka.
6.) Maen nhw wedi colli dau o’u chwaraewyr gorau nhw yn erbyn Namibia.
7.) Dyw rhoi 49 pwynt ar Namibia ddim yn llawer o gamp. Mae Sbaen a Portiwgal wedi eu curo nhw o dros ddeg pwynt yn ddiweddar.
8.) Doedd Samoa ddim yn arbennig o ddisgybledig yn erbyn Namibia. Fe fyddai unrhyw dim arall wedi eu cosbi nhw am hynny.
9.) Synnwn i ddim bod Warren Gatland wedi treulio cymaint o amser yn cynllunio ar gyfer y gêm yma a gem De Affrica, gan fod ei swydd yn dibynnu ar ennill! Dysgu o gamgymeriadau Gareth Jenkins.
10.) Mae’r tîm sydd gennym ni ar hyn o bryd ymysg y gorau ers blynyddoedd lawer, ac os ydyn ni’n gallu dod o fewn pwynt i faeddu De Affrica fe ddylen ni allu roi 30 pwynt ar Samoa. A bydd dau Lew, Stephen Jones a Gethin Jenkins, yn ôl hefyd.
Wrth gwrs falle fydda i'n bwyta fy het am 6am fore Sul...
Macsen a ddywedodd:Os ydi Cymru yn maeddu Fiji a Samoa fydda i'n eithaf balch ein bod ni wedi colli yn erbyn De Affrica! Maeddu Iwerddon a Lloegr/Ffrainc i gyrraedd y ffeinal dipyn haws na Awstralia a Seland Newydd!
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 43 gwestai