Tudalen 2 o 9

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Gwe 26 Awst 2011 8:39 pm
gan Macsen
Rhywun isio ymuno gyda cynghrair ffantasi Cwpan Rygbi'r Byd 2007? 1352 yw'r PIN.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Maw 30 Awst 2011 10:04 am
gan Duw
2007??

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Mer 31 Awst 2011 9:18 am
gan ceribethlem
Duw a ddywedodd:2007??

:lol:

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Mer 31 Awst 2011 12:16 pm
gan Macsen
ceribethlem a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:2007??

:lol:


Wps, 2015 wrth gwrs. ;)

Da chi'm yn cael ymuno rwan. :crio:

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sul 04 Medi 2011 6:42 pm
gan ceribethlem
Stephen Jones a Ryan Jones mas o'r gem cynta. Gethin Jenkins hefyd os gofiaf yn iawn.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sul 04 Medi 2011 7:21 pm
gan Josgin
A yw anaf Stephen Jones yn waeth nac y datgelwyd ? - mae gryn amser ers iddo gael yr anaf . Ni fydd wedi chwarae ers misoedd erbyn iddo fod yn holliach.
Mae'r holl gemau paratoi yma , a'r grwpiau mawr, yn golygu mai'r gwledydd gyda carfanau cryf sy'n debyg o lwyddo . Bydd y ' Boks' yn sicr o dargedu'r sgrymiau.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Maw 06 Medi 2011 7:43 pm
gan Macsen
Dylai Hook ddechrau yn rhif 10 yn erbyn De Affrica beth bynnag. Angen rhywun ychydig yn fwy creadigol a bydd angen i rhywbeth arbennig ddigwydd os ydyn nhw am faeddu'r Boks. Gwell chwarae Stephen Jones yn erbyn Fiji a Samoa lle mae angen chwarae gem mwy ceidwadol.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Iau 08 Medi 2011 3:21 pm
gan ceribethlem
Macsen a ddywedodd:Dylai Hook ddechrau yn rhif 10 yn erbyn De Affrica beth bynnag. Angen rhywun ychydig yn fwy creadigol a bydd angen i rhywbeth arbennig ddigwydd os ydyn nhw am faeddu'r Boks. Gwell chwarae Stephen Jones yn erbyn Fiji a Samoa lle mae angen chwarae gem mwy ceidwadol.

Tase Stephen Jones yn holliach, bydden i'n dechre fe gan ddod a Hook mlaen yn yr ail hanner wrth i'r gem dorri lan a'n ffitrwydd ni dechre dangos.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Gwe 09 Medi 2011 1:21 pm
gan Macsen
Priestland yn rhif 10 a hook yn 15, te! Hmmm, bydd angen priest arnon ni i ddweud gweddi fach os yden ni am faeddu'r Boks.

Cymryd bod Gatland yn meddwl fod De Affrica yn mynd i gicio'r bel bob gafael a bod angen par saff o ddwylo yn rhif 15.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Gwe 09 Medi 2011 2:04 pm
gan Jams
Son bod Ryan Jones mas am rhai wythnose eto. Os dyw e ddim yn gallu ware bydde fe yn golled - Jonathan Thomas fel eilydd? Dim llawer o ddewis ar ol hynny.