Tudalen 3 o 9

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Llun 12 Medi 2011 6:05 pm
gan ceribethlem
Jams a ddywedodd:Son bod Ryan Jones mas am rhai wythnose eto. Os dyw e ddim yn gallu ware bydde fe yn golled - Jonathan Thomas fel eilydd? Dim llawer o ddewis ar ol hynny.

:ofn:

Delve?

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Llun 12 Medi 2011 6:35 pm
gan Hedd Gwynfor
Cytuno'n llwyr, Delve yw'r opsiwn amlwg. OND yn ôl sôn pan gafodd Ryan Jones anaf cyn gêm Ariannin, Delve oedd fod cychwyn yn rhif 8, ond ddigwyddodd rhywbeth (dim syniad beth) a dewiswyd Andy Powell yn lle. Ydy Gatland a Delve wedi cwmpo mas neu rhywbeth?

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Llun 12 Medi 2011 7:21 pm
gan ceribethlem
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Cytuno'n llwyr, Delve yw'r opsiwn amlwg. OND yn ôl sôn pan gafodd Ryan Jones anaf cyn gêm Ariannin, Delve oedd fod cychwyn yn rhif 8, ond ddigwyddodd rhywbeth (dim syniad beth) a dewiswyd Andy Powell yn lle. Ydy Gatland a Delve wedi cwmpo mas neu rhywbeth?

Yr unig beth i fi ei glywed oedd fod ffitrwydd Delve ddim lan i'r safon. Mae'n debyg fod anaf wedi (ac efallai yn parhau) i fod gyda'i benglin.
Doedd Gatland et al ddim yn meddwl lot o'i berfformiad i'r Melbourne Rebels yn erbyn Caerfaddon, o'r hyn glywes i.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Mer 14 Medi 2011 5:08 pm
gan ceribethlem
Stephen Jones a Gethin Jenkins nol yn ymarfer, ac yn ol y son yn holliach am y gem fawr ar y penwythnos.
Parthed y gem fawr, fe gurodd Samoa Namibia o 49 i 12. Yn anffodus iddyn nhw fe anafwyd dau o'u prif chwareuwyr, gan gynnwys eu maswr.
Yn fy marn i, os yw Cymru'n chwarae gem strwythedig a thynn fe ddylem ni guro nhw heb ormod o broblem. Fi'n darogan gem agos am 60-65 munud, wedyn ddylem ni rheoli'r chwarter awr olaf.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Mer 14 Medi 2011 7:59 pm
gan Macsen
Bydd Cymru yn maeddu Samoa yn weddol gyffyrddus yn fy nhyb i. Mae’r sylwebwyr i weld yn eithaf sicr y gallai Samoa fynd a hi, ond dydw i ddim yn cytuno am sawl rheswm.

1.) Mae Samoa ar tua’r un lefel a’r Eidal yn rhestr IRB. Fe allai’r Eidal ein maeddu ni hefyd, ond 8 gwaith ym mhob 10 fe fyddwn ni’n eu maeddu nhw.

2.) Heblaw am y fuddugoliaeth enwog yna erbyn ail dim Awstralia, mae eu record nhw'n eithaf gwael. Fe gollon nhw yn erbyn Tonga a Fiji ym mis Gorffennaf.

3.) Dyw record Cymru yn erbyn Fiji a Samoa ddim yn wych, ond rydyn ni fel arfer wedi chwarae tîm gwannach yn eu herbyn nhw yng ngemau'r hydref.

4.) Rydyn ni wedi cael ambell sioc yn y gorffennol wrth beidio a’u cymryd nhw o ddifrif, rywbeth sy'n annhebygol iawn y tro yma.

5.) Oherwydd amserlen braidd yn annheg mae’n rhaid i Samoa chwarae dwy gêm mewn pum diwrnod, ac yn debygol o fod wedi ymlâdd cyn cyrraedd y cae. Neu o leiaf ar ôl gorffen y haka.

6.) Maen nhw wedi colli dau o’u chwaraewyr gorau nhw yn erbyn Namibia.

7.) Dyw rhoi 49 pwynt ar Namibia ddim yn llawer o gamp. Mae Sbaen a Portiwgal wedi eu curo nhw o dros ddeg pwynt yn ddiweddar.

8.) Doedd Samoa ddim yn arbennig o ddisgybledig yn erbyn Namibia. Fe fyddai unrhyw dim arall wedi eu cosbi nhw am hynny.

9.) Synnwn i ddim bod Warren Gatland wedi treulio cymaint o amser yn cynllunio ar gyfer y gêm yma a gem De Affrica, gan fod ei swydd yn dibynnu ar ennill! Dysgu o gamgymeriadau Gareth Jenkins.

10.) Mae’r tîm sydd gennym ni ar hyn o bryd ymysg y gorau ers blynyddoedd lawer, ac os ydyn ni’n gallu dod o fewn pwynt i faeddu De Affrica fe ddylen ni allu roi 30 pwynt ar Samoa. A bydd dau Lew, Stephen Jones a Gethin Jenkins, yn ôl hefyd.

Wrth gwrs falle fydda i'n bwyta fy het am 6am fore Sul... :ffeit:

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Mer 14 Medi 2011 8:31 pm
gan ceribethlem
Macsen a ddywedodd:Bydd Cymru yn maeddu Samoa yn weddol gyffyrddus yn fy nhyb i. Mae’r sylwebwyr i weld yn eithaf sicr y gallai Samoa fynd a hi, ond dydw i ddim yn cytuno am sawl rheswm.

1.) Mae Samoa ar tua’r un lefel a’r Eidal yn rhestr IRB. Fe allai’r Eidal ein maeddu ni hefyd, ond 8 gwaith ym mhob 10 fe fyddwn ni’n eu maeddu nhw.

2.) Heblaw am y fuddugoliaeth enwog yna erbyn ail dim Awstralia, mae eu record nhw'n eithaf gwael. Fe gollon nhw yn erbyn Tonga a Fiji ym mis Gorffennaf.

3.) Dyw record Cymru yn erbyn Fiji a Samoa ddim yn wych, ond rydyn ni fel arfer wedi chwarae tîm gwannach yn eu herbyn nhw yng ngemau'r hydref.

4.) Rydyn ni wedi cael ambell sioc yn y gorffennol wrth beidio a’u cymryd nhw o ddifrif, rywbeth sy'n annhebygol iawn y tro yma.

5.) Oherwydd amserlen braidd yn annheg mae’n rhaid i Samoa chwarae dwy gêm mewn pum diwrnod, ac yn debygol o fod wedi ymlâdd cyn cyrraedd y cae. Neu o leiaf ar ôl gorffen y haka.

6.) Maen nhw wedi colli dau o’u chwaraewyr gorau nhw yn erbyn Namibia.

7.) Dyw rhoi 49 pwynt ar Namibia ddim yn llawer o gamp. Mae Sbaen a Portiwgal wedi eu curo nhw o dros ddeg pwynt yn ddiweddar.

8.) Doedd Samoa ddim yn arbennig o ddisgybledig yn erbyn Namibia. Fe fyddai unrhyw dim arall wedi eu cosbi nhw am hynny.

9.) Synnwn i ddim bod Warren Gatland wedi treulio cymaint o amser yn cynllunio ar gyfer y gêm yma a gem De Affrica, gan fod ei swydd yn dibynnu ar ennill! Dysgu o gamgymeriadau Gareth Jenkins.

10.) Mae’r tîm sydd gennym ni ar hyn o bryd ymysg y gorau ers blynyddoedd lawer, ac os ydyn ni’n gallu dod o fewn pwynt i faeddu De Affrica fe ddylen ni allu roi 30 pwynt ar Samoa. A bydd dau Lew, Stephen Jones a Gethin Jenkins, yn ôl hefyd.

Wrth gwrs falle fydda i'n bwyta fy het am 6am fore Sul... :ffeit:

Parthed pwynt 9, fi o'r farn fod Gatland wedi cynllunio gameplan, a'i ddefnyddio dros y blynyddoedd diwethad yn unswydd ar gyfer curo Samoa a Ffiji.
Gameplan trefnus yw'r ffordd gore i dim fel Cymru i guro Samoa. Y mwy agored yw'r gem, y gore bydd e i Samoa.
Bydd ffitrwydd yn chware rol pwysig i ni. Fel wedes i eisoes, fi'n ame byddwn ni'n dechre agor lan yn y chwarter awr olaf, ond yn gwneud hynny dan ein amodau ni.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sad 17 Medi 2011 1:21 pm
gan Macsen
Os ydi Cymru yn maeddu Fiji a Samoa fydda i'n eithaf balch ein bod ni wedi colli yn erbyn De Affrica! Maeddu Iwerddon a Lloegr/Ffrainc i gyrraedd y ffeinal dipyn haws na Awstralia a Seland Newydd!

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sad 17 Medi 2011 7:07 pm
gan ceribethlem
Macsen a ddywedodd:Os ydi Cymru yn maeddu Fiji a Samoa fydda i'n eithaf balch ein bod ni wedi colli yn erbyn De Affrica! Maeddu Iwerddon a Lloegr/Ffrainc i gyrraedd y ffeinal dipyn haws na Awstralia a Seland Newydd!

Mae'n dyfodol yn ein dwylo nawr yn sicr. Rhaid canolbwyntio'n llwyr fory, a chadw at cynllyn Gatland. Nath Ffiji ddysgu gwers galed i ni yng nghwpan y Byd dwetha, rhaid i ni cadw trefn a disgyblaeth a pheidio colli pennau a dechre rhedeg hi o bobman.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sul 18 Medi 2011 2:13 pm
gan ceribethlem
Bydde'r fuddugoliaeth wedi bod ychydig yn haws (yn erbyn Samoa) tase'r ref wedi penderfynnu cosbi ardal y ryc yn fwy cywir.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sul 18 Medi 2011 7:26 pm
gan Macsen
Newydd gael hunllef fod De Affrica yn mynd i 'daflu' y gem yn erbyn Samoa er mwyn osgoi Awstralia a Seland Newydd yn y chwarteri a rownd y pedwar olaf. :ing: