Tudalen 4 o 9

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sul 18 Medi 2011 7:57 pm
gan ceribethlem
Macsen a ddywedodd:Newydd gael hunllef fod De Affrica yn mynd i 'daflu' y gem yn erbyn Samoa er mwyn osgoi Awstralia a Seland Newydd yn y chwarteri a rownd y pedwar olaf. :ing:

Nagyn, bydde hwna'n ormod o risg. Tase rhywbeth yn mynd ychydig o'i le gallen nhw golli mas yn llwyr. Mynd am y fuddugoliaeth byddan nhw'n ei neud.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sul 25 Medi 2011 4:33 pm
gan Mali
Ydi Cymru yn chwarae heddiw / heno / bore fory ? :winc:
Welais i'r gêm yn erbyn Samoa . Digwydd bod ymlaen ar adeg resymol am wyth y nôs PST. :D

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sul 25 Medi 2011 4:43 pm
gan ceribethlem
Mali a ddywedodd:Ydi Cymru yn chwarae heddiw / heno / bore fory ? :winc:
Welais i'r gêm yn erbyn Samoa . Digwydd bod ymlaen ar adeg resymol am wyth y nôs PST. :D

Bore fory, hanner awr wedi saith amser ni.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sul 25 Medi 2011 5:12 pm
gan Mali
ceribethlem a ddywedodd:Bore fory, hanner awr wedi saith amser ni.


Ah diolch ! Amser gwely ni ..... :ing:

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Llun 26 Medi 2011 10:19 am
gan ceribethlem
Cymru wedi rhoi toncad i Namibia. 81 - 7
Hyn yn golygu os yw Cymru'n curo Ffiji (ac fe ddylen ni wneud) a De'r Affig yn curo Samoa (ac fe fyddan nhw'n neud), yna De'r Affrig bydd yn mynd drwyddo fel y tim cyntaf, a Chymru fel yr ail dim.

Grwp Lloegr, yr Ariannin a'r Alban yn ddiddorol. Os yw Lloegr yn curo'r Alban, yna Lloegr a'r Ariannin eiff drwodd. Os yw'r Alban yn curo Lloegr, yna bydd pwyntiau bonws a gwahaniaeth pwyntiau yn dechre chware rol.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Llun 26 Medi 2011 3:20 pm
gan Macsen
Dw i'n casau pan mae Lloegr neu Iwerddon yn rhoi toncad i dim sy'n 67fed ar y rhestr IRB a mae'r sylwebwyr i gyd yn ymddwyn fel pe baen nhw'n wy... 81 - 7 i Gymru?!
C'mon bois!!! Ni'n sicr yn mynd i ennill Cwpan y Byd Nawr ar ôl maeddu Namibia! 8)

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Llun 26 Medi 2011 3:53 pm
gan ceribethlem
Macsen a ddywedodd:Dw i'n casau pan mae Lloegr neu Iwerddon yn rhoi toncad i dim sy'n 67fed ar y rhestr IRB a mae'r sylwebwyr i gyd yn ymddwyn fel pe baen nhw'n wy... 81 - 7 i Gymru?!
C'mon bois!!! Ni'n sicr yn mynd i ennill Cwpan y Byd Nawr ar ôl maeddu Namibia! 8)


Eh?

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Mer 28 Medi 2011 8:52 am
gan ceribethlem
Bydd Cymru'n gwybod cyn gem Ffiji beth bydd angen ei wneud i oroesi i'r rownd nesaf. Yn syml, os byddwn yn cael cystal a Samoa byddwn drwyddo. H.y. Os yw Samoa'n ennill, rhaid i ni ennill; os yw Samoa'n cael pwynt bonws, rhaid i ni gael lleiafswm o bwynt bonws ayyb

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Iau 29 Medi 2011 12:02 pm
gan Macsen
De Affrica 48 - Samoa 13

Cymru 27 -Ffiji 14

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Gwe 30 Medi 2011 10:53 am
gan Macsen
Cymru yn y rownd nesaf i bob pwrpas, angen osgoi colli o 38 pwynt yn erbyn Ffiji er mwyn mynd drwodd... Ar y llaw arall mae angen iddyn nhw faeddu Ffiji yn reit gyffyrddus er mwyn magu hyder cyn gemau rownd yr wyth olaf.