Dechrau poeni y gallai Lloegr ennill Cwpan Rygbi'r Byd nawr. Mae ganddyn nhw lwybr weddol rhwydd i'r ffeinal (Ffrainc sydd newydd golli yn erbyn Tonga, a wedyn Iwerddon neu Gymru) a dyw Awstralia na chwaith De Affrica wedi bod yn arbennig hyd yma. A nawr mae Seland Newydd wedi colli Carter. Mae Lloegr heb chwarae yn dda ond maen nhw wedi ennill yn gyson dros y flwyddyn ddiwethaf, a dyna sy'n cyfri yn y diwedd.
