Tudalen 6 o 9

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Maw 04 Hyd 2011 5:09 pm
gan ceribethlem
dil a ddywedodd:ose ddim llawer o wahaniaeth yn y ffordd ma Werddon, lloegr ar Alban yn chware dwi meddwl.
mar saeson yn dangor mwy o hyder yn Werddon na Cymru oherwydd arddull i chware nhw.
ar y cyfan negyddol uffernol ydir arddull. canolbwyntio ar gryfder blaenwyr a lladd gem y lleill.
delwedd eitha crap i rygbi gogledd y byd.
Bolycs llwyr. MAe'r tri yn hollol wahanol.
1. Yr Alban - Mae'r Alban yn crap, ac yn trial arafu'r gem a thynnu ppopeth mewn i'r gwter.
2. Lloegr - Bwlis yw Lloegr. Os yw eu pac nhw'n well o lawer na'r gwrthwynebwyr, yna byddant yn ennill yn hawdd. Un problem gyda nhw yw maswr; mae Wilkinson yn chwarae'n ddwfn iawn, sy'n golygu fod e'n anodd iawn i'r cefnwyr greu patrwm; mae Flood yn chwarae'n llawer mwy fflat, ac yn cael y cefnwyr i symud. Problem Flood yw ei fod yn gallu dewis y penderfyniad anghywir, bydde Wilkinson yn sicrhau pwyntiau.
3. Iwerddon - Mae gan Iwerddon gem effeithiol iawn. Rheng ol anferth a chryf. Bowe yn dod mewn ar yr ongl i greu lle. Yn amddiffynol mae'r tacteg o gadw'r dyn a'r bel ar ei draed er mwyn arafu'r bel ac o bosib troi'r bel drosodd drwy orfodi sgrym. Mae'r linell yn wych gyda POC yn medru darllen yn linell mor effeithiol.

dil a ddywedodd:ma Cymru wedi bod yn wych ar adegau a prin di cael tim llawn.
ma Werddon wedi bod yn dda ar adegau ond yn gyson ddiflas uffernol.
Hmmm, mae Bowe yn dangos donie gwych. Mae BOD dal i fod yn fygythiad anferth, bydden i ddim yn gweud fod nhw'n ddiflas o gwbwl. Mae Cymru wedi bod yn hynod gystadleuol, ac yn ffit ryfedda, bydden i ddim yn darllen gormod mewn i gemau Namibia a Ffiji. Doedd dim gormod o geisiau (na chyfle am geisiau) yn erbyn y Bokkes a Samoa.

dil a ddywedodd:dim curo nhw ydir gol ond chwalu nhw yn racs.
i neud hynu ma anghen ffendio ffordd rownd y tactegau negyddol.
Bydden i ddigon hapus i ennill yn negyddol. Unrhyw fuddugoliaeth yn neud y tro mewn gem gwpan.

dil a ddywedodd:Cymru yn edrych yn dda ir ffeinal dwi meddwl.
pam ddim!

O'r iesu mae'r optimism gnome yn byw yno ti! :lol:

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Maw 04 Hyd 2011 5:18 pm
gan ceribethlem
Gwahaniaeth arall yw'r ffordd o osod phases at ei gilydd. Mae Iwerddon yn tueddu i ddefnyddio'r rheng ol i dynnu mewn yr amddiffyn, ac yna'r ail reng yn gyrru drosodd i sicrhau'r bel. Mae hwn yn golygu eu bod yn ennill y bel y mwyafrif o'r amser, ond eu fod yn araf. Mae Cymru ar y llaw arall yn gyrru lan gyda'r ail reng (AWJ a Bradley neu Charteris) gyda'r rheng ol yn clirio. Mae hwn yn gallu arwain at pel llawer cyflymach sy'n golygu fod Jamie Roberts a/neu North (a/neu Jon Davies am hynny) yn gallu targedu unigolyn penodol yn yr amddiffyn yn hytrach na ailgylchu eu hunain.

Ffactor arall yw'r asgellwyr. Mae Bowe a North yn chwarae rol debyg iawn yn dod mewn i ganol cae er mwyn ecsploitio gwendidau yn yr amddiffyn. Mae Earls yn fwy traddodiadol ac yn aros mas yn agosach i'r asgell (ac yn gallu cael brain fart yn amddiffynol). Mae Shane Williams yn gallu dod mewn a chwaraer rol unigryw o dynnu mewn yr amddiffyn a rhyddhau chwareuwyr o'i gwmaps, neu defnyddio'i ddonie i faeddu ei wrthwynebydd.

Yn bersonol fi'n gobeithio bydd Halfpenny yn dechrau fel cefnwr. Fi'n ffan mawr ohono fe!

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Mer 05 Hyd 2011 9:33 am
gan dil
be ma gogs yn wbod am rygbi de.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Mer 05 Hyd 2011 1:44 pm
gan Josgin
Pam mae angen i Gogs wybod am rygbi ?
(Pa mor hir wnaiff y sylw yma aros nes bod y duwiau wy'n cael eu cythruddo a dial arnom !)

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Iau 06 Hyd 2011 7:24 am
gan ceribethlem
15: Halfpenny
14: North
13: Davies
12: Roberts
11: Shane Williams
10: Priestland
9: Phillips

1: Jenkins
2: Bennett
3: Adam Jones
4: AW Jones
5: Charteris
6: Lydiate
8: Faletau
7: Warburton

Dim hyd yn oed lle i Stephen Jones (y chwareuwr mwyaf profiadol yn hanes rygbi Cymru) ar y fain :ofn:

Yr eildyddion yw:
Lloyd Burns, Paul James, Bradley Davies, Ryan Jones, Lloyd Williams, James Hook, Scott Williams.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Iau 06 Hyd 2011 8:33 am
gan ceribethlem
Tim y Gwyddelod i'n gwynebu:

15: R Kearney
14: T Bowe
13: B O'Driscoll
12: G D'Arcy
11: K Earls
10: R O'Gara
9: C Murray

1: C Healy
2: R Best neu S Cronin
3: M Ross
4: D O'Callaghan
5: P O'Connell
6: S Ferris
7: S O'Brien
8: J Heaslip

Eilyddion: S Cronin neu D Varley, T Court, D Ryan, D Leamy, E Reddan, J Sexton, A Trimble.

Diddorol gweld fod Rory Best wedi ei enwi, er fod son rhai dyddie nol ei fod wedi torri pont ei ysgwydd!

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Iau 06 Hyd 2011 2:51 pm
gan Hen Rech Flin
dil a ddywedodd:be ma gogs yn wbod am rygbi de.


Bydd Carwyn Jones yn agor maes rygbi newydd y Gogledd ar yr Dachwedd 11eg
http://www.dailypost.co.uk/news/north-w ... -29531697/

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Gwe 07 Hyd 2011 1:32 pm
gan ceribethlem
Hen Rech Flin a ddywedodd:
dil a ddywedodd:be ma gogs yn wbod am rygbi de.


Bydd Carwyn Jones yn agor maes rygbi newydd y Gogledd ar yr Dachwedd 11eg
http://www.dailypost.co.uk/news/north-w ... -29531697/


Fi'n ame falle dy fod wedi colli lleoliad y tafod yn fynna :winc:

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Gwe 07 Hyd 2011 4:21 pm
gan Doctor Sanchez
Gin i deimlad fod Cymru'n mynd i roi cweir i Werddon.

Dwi di rhoi combo bet ar Seland Newydd, Cymru, Ffrainc ag Awstralia i'r semis.

£20 yn talu £230 yn ol. Dwi'n croesi bob dim rhag ofn.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Gwe 07 Hyd 2011 9:06 pm
gan Macsen
Doctor Sanchez a ddywedodd:Gin i deimlad fod Cymru'n mynd i roi cweir i Werddon.

Hmmm... dw i ddim yn meddwl rywsut. Os curo yna gem agos iawn... mae'r cweir yn fwy tebygol o fynd y ffordd arall yn anffodus os oes un o gwbwl! :?