Tudalen 7 o 9

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sad 08 Hyd 2011 6:48 am
gan Doctor Sanchez
Udish i do :winc:

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sad 08 Hyd 2011 1:24 pm
gan Macsen
Doctor Sanchez a ddywedodd:Udish i do :winc:

Wel doedd hi ddim yn 'gweir' nagoedd. Ond os oes gen ti rifau loteri i'w hawgrymu, neges breifat plz. ;)

Dw i wedi dysgu efo Cymru ei fod yn well bod yn weddol besimistaidd a chael syrpreis neis na bod yn or-hyderus a torri calon. :seiclops:

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sad 08 Hyd 2011 4:51 pm
gan dil
se 10 pwynt arall wedi edrych mwy fel cweir alle. ond aru cymru hitio postyn dwywaith a c erbyn y diwedd roedd llwyr reolaeth. roedd y rheolaeth yn gweir alle...

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sul 09 Hyd 2011 12:47 am
gan Doctor Sanchez
Macsen a ddywedodd:Wel doedd hi ddim yn 'gweir' nagoedd.

Dim o ran y sgor ella. On o ran ymrwymiad, calon, disgyblaeth a 'mental toughness', mi rothon ni gweir iddyn nhw. Ma O'Brien, Ferris a Heaslip yn reng ol o'r safon uchaf, yn y tri uchaf yn y byd.

Welish i mo'r tri ohonyn nhw bron heddiw, a ma hynna'n ganmol uffernol ar dim Cymru. Roth Jamie, O'Callaghan ar i din o fewn y ddwy funud gyntaf. Oedd Charteris di gneud 16 tacl yn yr hanner cyntaf, ma hynnna'n anhygoel bron. Ma Lydiate yn nytar, mi daclith o drw dydd. Di Faletou ddim di methu tacl hyd yn hyn (A mae o di gneud 50 tacl + heb fethu mor belled). A ma Warburton yn edrych fatha fod o'n mynd i fod yn un o'r cewri rhyngwladol am y ddegawd nesaf. Un o'r seithiau gorau Cymreig erioed?

Ma rhaid fi ddeud am Werddon. O'Connell dros i dri deg, O'Driscoll dros i dri deg, O'Gara dros i dri deg. Ma nhw'n uffernol o hen o ran tim ar y cyfan, a do'n i'm yn meddwl fod ganddyn nhw gyfle yn erbyn y tim ifanc cyfforus yma. Dwi'm yn gweld Werddon yn cystadlu am flwyddyn neu ddwy rwan yn ym Mhencamparwiraeth y Chwe Gwlad. Mae raid iddyn nhw adeiladu tim newydd.

Mi ddylian ni guro Ffrainc. Mi nathon nhw'n dda yn erbyn tim Lloegr ar eu gwaetha. Odd Lloegr yn uffernol heddiw. Dwi di gweld tim dan 18 Pwllheli yn pasio'n well na hynna.

Mi geith Ffrainc ddipyn o hyder. Ond mi ddylian ni guro nhw dal.

Dwi'n disgwyl i Awstralia guro De Affrica bore fory, a Seland Newydd i golbio'r Ariannin. Os di hynna'n digwydd, dwi'n meddwl y trechith Awtralia Seland Newydd, a trechith Cymru Ffrainc.

Ac os di hynny'n digwydd, dwi ar y ffleit gynta allan i Seland Newydd. Ma gin Gymru obaith go iawn o guro'r bencampwriareth.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sul 09 Hyd 2011 5:38 pm
gan ceribethlem
Macsen a ddywedodd:
Doctor Sanchez a ddywedodd:Udish i do :winc:

Wel doedd hi ddim yn 'gweir' nagoedd. Ond os oes gen ti rifau loteri i'w hawgrymu, neges breifat plz. ;)

Dw i wedi dysgu efo Cymru ei fod yn well bod yn weddol besimistaidd a chael syrpreis neis na bod yn or-hyderus a torri calon. :seiclops:

Odd hwnna'n stwffad go iawn. Fe nath Cymro jobyn gwych o chwalu bron a bod pob cyfle cafodd y Gwyddelod!

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sul 09 Hyd 2011 6:21 pm
gan Doctor Sanchez
A dwi £250 i fyny :D

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Llun 10 Hyd 2011 12:24 pm
gan Macsen
Dim gobaith da Cymru yn erbyn Ffrainc penwythnos nesa. :(

Hei, ma'r pesimistiaeth ma'n gweithio hyd belled. ;)

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Llun 10 Hyd 2011 6:22 pm
gan Macsen
Doctor Sanchez a ddywedodd:Ma gin Gymru obaith go iawn o guro'r bencampwriareth.

Does dim angen mynd dros ben llestri. Mae Cymru wedi cyrraedd rownd y pedwar olaf am yr eildro erioed, ond y prif reswm am hynny oedd bod timoedd cryfach na Iwerddon yn ein disgwyl ni yn 1999 a 2003, sef y ddau dim aeth ymlaen i ennill y gystedleuaeth.

Pe baen ni'n curo Ffrainc, fe fyddai camp y tim yma ar tua'r un lefel a thimoedd 05 a 08 - fe fydden ni wedi ennill ryw fath o 'mini chwe gwlad' fel petai. Ond dim ond dau beth fydd yn fy argyhoeddi fod Cymru wedi 'troi cornel' go iawn - maeddu'r Tair Gwlad yn weddol gyson (byddai un buddugoliaeth bob hydref yn ddigon), ac hefyd cynnal y safon yma dros y blynyddoedd nesaf, rhywbeth na lwyddon ni i'w wneud yn 06 a 09.

Dw i ddim eisiau piso ar y pared ond y gwir ydi nad yw Seland Newydd wedi colli yn Eden Park ers 1994. Carter neu beidio mae hynny'n annhebygol iawn o newid yn ystod y pythefnos nesaf. Fe fyddwn i wrth fy modd yn bwyta fy ngeiriau wrth gwrs. :ffeit:

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Maw 11 Hyd 2011 4:43 pm

Cyruno gyda pob gair, Macsen. OS gurwn ni Ffrainc (ac mae hwnna'n OS Anferth), yna'r gobaith gorau fydde Awstralia i guro Seland Newydd.
Fi'n credu bod gwell gobaith gyda ni i guro Awstralia na Seland Newydd, am fod sgrym Awstralia mor llipa.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Maw 11 Hyd 2011 11:41 pm
gan Dylan
Dw i'n credu bod gennym well siawns o guro Ffrainc nag on i'n meddwl oedd gennym o guro'r Iwerddon. Dw i ddim yn meddwl gwnaeth Ffrainc ddangos unrhyw beth ddydd Sadwrn a ddylai beri gormod o nosweithiau di-gwsg. Wrth gwrs mae'r Ffrancwyr yn enigmas ac mae popeth yn dibynnu o ba ochr y gwely maent wedi codi ar fore unrhyw gêm. Ond os mai dydd Sadwrn oedd eu "gêm fawr", dw i'n dawel hyderus. Dw i'n tueddu tuag at besimistiaeth fel arfer (gan olygu bod rhai buddugoliaethau'n felysach na phetawn i'n disgwyl ennill pob gêm) ac roeddwn i'n hanner-disgwyl i ni golli o drwch blewyn erbyn yr Iwerddon. Ond roedd 'na rhywbeth gwahanol am y perfformiad yna sydd wir wedi codi disgwyliadau.

Wedi dweud hyn i gyd mae Macsen yn llygad ei le. Mae'r gystadleuaeth wedi bod yn garedig iawn efo ni hyd yn hyn. Yn yr wythnosau yma rydym wedi lleihau'r bwlch rhyngom ni a'r Tair Gwlad efallai. Ond byddai curo Seland Newydd (gan gymryd mai nhw wnaiff ennill y gêm arall) yn dasg anferthol.