Tudalen 8 o 9

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Iau 13 Hyd 2011 8:20 am
gan Macsen
Arrrgh dw i'n nerfus a y gem yma. Roeddwn i'n hapus fy myd cyn y gem Iwerddon gan wybod fod Cymru yn dim gwell nag oedd sawl sylwebydd yn ei gydnabod, ond dw i'n teimlo eu bod nhw wedi mynd yn rhy bell i'r cyfeiriad arall a fod yna ormod o 'heip' wedi bod cyn y gem yn erbyn Ffrainc. Dw i'n dechrau deall sut brofiad yw bod yn gefnogwr Lloegr, ac yn sgil eu hymadawiad nhw o'r gystadleuaeth mae fel petai cyfryngau Llundain wedi penderfynu adrodd hanes Cymru yn yr un modd gor-hyderus a haerllug.

Digwydd bod fe gefais i freuddwyd am y gem yma neithiwr ac roedd Cymru ar y blaen ar ol 40 munud ond sgoriodd Maxime Medard gais cyn chwiban hanner amser, 14-10 a Hook wedi methu dwy gic gosb. :/

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sul 16 Hyd 2011 6:39 pm
gan Chickenfoot
Neb am drafod spear tackles felly ? SIwr fod y rhn fwyaf wedi gwneud mewn tafarndai dros y wlad yn barod.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sul 16 Hyd 2011 7:38 pm
gan ceribethlem
Chickenfoot a ddywedodd:Neb am drafod spear tackles felly ? SIwr fod y rhn fwyaf wedi gwneud mewn tafarndai dros y wlad yn barod.

Beth yw dy farn di?

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Llun 17 Hyd 2011 7:18 am
gan Macsen
Wedi blogio ar y mater fan hyn.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Maw 18 Hyd 2011 2:13 pm
gan Jams
Ma llawer o drafod wedi bod ar gerdyn coch, a byddwn ni'n trafod am flynyddoedd i ddod dim dowt. Newydd gofio am rhai o benillion Max Boyce....hmmmmm.

I am an entertainer
And I sing for charity,
For Oxfam and for Shelter,
For those worse off than me.

Bangladesh, Barnardo's Homes,
And though I don't get paid
It does one good to do some work
For things like Christian Aid.

But of all the concerts that I've done
For the homeless overseas
The one I did that pleased me most
Was not for refugees.

'Twas for a home in Ireland
That stands amongst the trees,
The Sunshine Home in Dublin
For blind Irish Referees!

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Maw 18 Hyd 2011 10:15 pm
gan Duw
I mi roedd yn gerdyn melyn. YN syml oherwydd dyna'r ffordd y mae wedi'i ddyfarnu hyd y cwpan byd. Mae Monsieur Rolland ar y 'sbectrwm' awtistaidd dwi'n meddwl - gweld popeth mewn du a gwyn (i gyfieithu geiriau Kingley Jones ar Scrum V). Dwi ddim yn credu fy mod i erioed wedi gweld dyfarnwr â chyn lleied o empathi â'r gêm o'i flaen. Fel barnwr yn dedfrydu troseddwyr, mae dyfarwr yna i osod synnwyr cyffredin i bob digwyddiad unigol. Oes mae fframwaith, cyfreithiau, rheolau, dictats, tictacs ac ebyst. OND, os cysondeb oedd y nod, ni chafwyd yng Nghwpan y Byd eleni. Hyd yma, dyw Rolland heb gysylltu â'r llumanwyr, heb gysylltu â'r TMO. Mae fel petai'n wendid i ofyn am gymorth neu gyngor. "Edrychwch arna' i". Wel, mae pawb wedi edrych arnat ti gwd boi, a heb law nifer o Saeson uchel eu clochau ar wefan y Guardian a'u math, mae pob cefnogwr annibynnol wedi gwrthod â derbyn y penderfyniad fel un doeth.

Nid i ddweud taw hwn oedd ar fai am golli'r gêm, ond pan fydd Roberts allan o'r platfform ymosod oherwydd bod angen iddo bacio lawr fel blaen asgellwr, dim anodd yw ystyried yr amhawsterau. Do cawsom gyfleoedd. Mae llawer o dimoedd yn derbyn cyfleoedd i ennill gemau agos. Y peth sy'n fy lladd i yw ... beth os (na)... Sawl cais? Sawl turnover? Sawl llinell gadarn? Sawl sgrym cadarn? Pwy a wyr?

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Mer 19 Hyd 2011 1:30 pm
gan Chickenfoot
ceribethlem a ddywedodd:
Chickenfoot a ddywedodd:Neb am drafod spear tackles felly ? SIwr fod y rhn fwyaf wedi gwneud mewn tafarndai dros y wlad yn barod.

Beth yw dy farn di?


Dw i'm yn arbennigwr o bell ffordd, ond o wrando ar drafodaethau pobl doethach na fi, credaf ei fod yn dechnegol gywir i ddangos cerdyn goch, ond nad oedd Mr Rolland wedi rhoi digon o ystyraeth i fwriad Warburton. Dywedodd rhywun ar wefan y Guardian fod Clerc wedi tycio'i be i fewn i'w frest i osgoi taro'i ben ar y llawr, on 'dwn i'm os fyddai hyn wedi cael effaith ar benderfyniad y ref.

Ond eto, ail ddweud dipyn o'r hyn sydd wedi'i ddweud yn barod ydw i.

O wel, nol i wylio spear tackles cyfreithlon yn y WWE dw i rwan.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Mer 19 Hyd 2011 3:18 pm
gan ceribethlem
Chickenfoot a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
Chickenfoot a ddywedodd:Neb am drafod spear tackles felly ? SIwr fod y rhn fwyaf wedi gwneud mewn tafarndai dros y wlad yn barod.

Beth yw dy farn di?


Dw i'm yn arbennigwr o bell ffordd, ond o wrando ar drafodaethau pobl doethach na fi, credaf ei fod yn dechnegol gywir i ddangos cerdyn goch, ond nad oedd Mr Rolland wedi rhoi digon o ystyraeth i fwriad Warburton. Dywedodd rhywun ar wefan y Guardian fod Clerc wedi tycio'i be i fewn i'w frest i osgoi taro'i ben ar y llawr, on 'dwn i'm os fyddai hyn wedi cael effaith ar benderfyniad y ref.

Ond eto, ail ddweud dipyn o'r hyn sydd wedi'i ddweud yn barod ydw i.

O wel, nol i wylio spear tackles cyfreithlon yn y WWE dw i rwan.

Yn anffodus, mae'r gyfraith yn glir nad yw bwriad yn berthnasol. yn ôl geiriad y gyfraith, roedd Rolland yn gywir. Cysondeb yw'r broblem i fi, buodd dau dacl (o leiaf) tebyg cyn y gêm yna, ac un arll y diwrnod wedyn. Dim carden coch am un ohonynt, dim hyd yn oed cic gosb mewn un!

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Mer 19 Hyd 2011 8:19 pm
gan Hedd Gwynfor
Cytuno Ceri, cysondeb yw'r broblem. Ond o ddarllen y rheolau yn ofalus dwi ddim 100% yn sicr fod Rolland yn gywir yn llygad y ddeddf hyd yn oed. Cerdyn coch os 1, taro'r chwaraewyr i'r llawr o'r awyr 2, eu ollwng o 'uchder' heb ddod a fe nol i'r llawr yn saff. O edrych (sawl tro) ar y dacl eto, gollyngwyd y chwaraewyr o llai na throdfedd o'r llawr, a hynny (mae'n ymddangos) i geisio atal niwed. Cerdyn melyn ar y gwaethaf, a fyswn i'n cytuno gyda hynny, ond cerdyn goch yn syth heb hyd yn oed trafod y mater gyda'r gyda'r dyfarnwyr eraill, NA. Ond beth bynnag, fe ddylen ni fod wedi ennill y gem. Rhaid gofyn pam fod chwaraewyr rhyngwladol fel Hook a Jones yn methu ciciau gymharol hawdd. 2 gic gosb, trosiad a dau gyfle wych am gol adlam, dyna gollodd y gem i Gymru :crio:

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Mer 19 Hyd 2011 9:26 pm
gan ap Dafydd
Chickenfoot a ddywedodd:Mr Rolland


M Rolland, _os gwelwch yn dda_...