Tudalen 9 o 9

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Iau 20 Hyd 2011 10:42 am
gan ceribethlem
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Cytuno Ceri, cysondeb yw'r broblem. Ond o ddarllen y rheolau yn ofalus dwi ddim 100% yn sicr fod Rolland yn gywir yn llygad y ddeddf hyd yn oed. Cerdyn coch os 1, taro'r chwaraewyr i'r llawr o'r awyr 2, eu ollwng o 'uchder' heb ddod a fe nol i'r llawr yn saff. O edrych (sawl tro) ar y dacl eto, gollyngwyd y chwaraewyr o llai na throdfedd o'r llawr, a hynny (mae'n ymddangos) i geisio atal niwed. Cerdyn melyn ar y gwaethaf, a fyswn i'n cytuno gyda hynny, ond cerdyn goch yn syth heb hyd yn oed trafod y mater gyda'r gyda'r dyfarnwyr eraill, NA. Ond beth bynnag, fe ddylen ni fod wedi ennill y gem. Rhaid gofyn pam fod chwaraewyr rhyngwladol fel Hook a Jones yn methu ciciau gymharol hawdd. 2 gic gosb, trosiad a dau gyfle wych am gol adlam, dyna gollodd y gem i Gymru :crio:

Ddyle Hook wedi cael o leia un ohonynt! Fi'n tybio fod anaf Stephen Jones dal heb wella'n llawn.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Gwe 21 Hyd 2011 1:15 pm
gan ceribethlem
Hook yn warth eto, a Stephen Jones dim lot gwell. Rhyfedd i feddwl, petai Biggar yn y sgwad yn lle un ohonynt, bydden ni siwr o fod yn y rownd derfynnol!

Ta beth, nath y gem yn erbyn Awstralia ddangos bod ni ddim wir yn dim da iawn. Gethon ni daith lwcus i'r rownd gynderfynnol. Pe bai Pocock yn chwarae, bydde Awstralia wedi curo Iwerddon.
Nath y tim Ffrainc gwaethaf i fi gofio guro'r tim Saesneg gwaethaf i fi gofio. Nethon ni guro tim Iwerddon oedd yn mynd yn hen.
Nath Awstralia ddangos i ni heddi fod dipyn o ffordd i ni fynd cyn bod yn un o'r goreuon.
Y peth arall nethon ni ffindo mas yw cyn lleied o ddyfnder sydd gyda ni.
Heb Adam Jones does neb arall yn gallu gwenud y gwaith o fod yn brop pen tynn.
Warburton o beth wmbreth yw'n blaenasgellwr gorau. Mae gyda ni ddewis yn 6 ac 8, ond mae Warburton yn bell tu hwnt i bawb fel 7.
Mae Hook yn shit. Mae Stephen Jones yn rhy hen.

1: Gethin Jenkins, Paul James, ambell un arall.
2: Huw Bennett, Matthew Rees (pan fydd yn holliach),
3: Adam Jones - neb arall
4: Charteris,
5: AWJ, Bradley
6: Lydiate, Ryan Jones (er fod yntau'n heneiddio - mae McCusker gyda'r Scarlets a Pretorius gyda'r Gleision)
8: Toby Faletau, Ryan Jones, Ben Morgan o bosib, er ei fod yn wael ar hyn o bryd
7: Warburton, yr unig ddewis arall o bosib bydde Tirpuric

9: Phillips, sneb arall yn agos ato ar hyn o bryd
10: Priestland, sneb arall yn agos ato ar hyn o bryd
11: Shane, sneb arall yn agos ato ar hyn o bryd
12: Roberts, Scott Williams
13: Jon Davies, Scott Williams
14: North, sneb arall yn agos ato ar hyn o bryd
15: Halfpenny, sneb arall yn agos ato ar hyn o bryd

Mae hyn yn golygu os oes anaf i 3, 7, 9, 10, 11, 14, 15 ni mewn twll, ac mae'r tim yn troi o dim gweddol i tim itha crap.

Jiawcs fi'n ddigalon, fi ddim ishe mynd drwy chwarter canrif arall o wylio'r un hen shit!

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Gwe 21 Hyd 2011 2:35 pm
gan Doctor Sanchez
Sa gynno ni rywun sy'n medru cicio, sa ni di curo De Affrica, Ffrainc a Awstralia :drwg:

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Gwe 21 Hyd 2011 3:34 pm
gan ceribethlem
Doctor Sanchez a ddywedodd:Sa gynno ni rywun sy'n medru cicio, sa ni di curo De Affrica, Ffrainc a Awstralia :drwg:

Hook gollodd y gemau yn erbyn Ffrainc ac Awstralia. Dyw Hook ddim yn faswr, dyw Hook byth wedi bod yn faswr, a fydd Hook byth yn faswr.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Gwe 28 Hyd 2011 4:32 pm
gan Dylan
ceribethlem a ddywedodd:9: Phillips, sneb arall yn agos ato ar hyn o bryd


Peel

Wedi dweud hynny, er nad ydw i'n ffan mawr o Phillips, fe gafodd gystadleuaeth digon boddhaol chwarae teg

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sad 29 Hyd 2011 6:03 pm
gan Duw
Sori pawb, jest rhag ofn dych chi heb ei weld:



Crynodeb eitha da.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sad 29 Hyd 2011 6:10 pm
gan ceribethlem
Dylan a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:9: Phillips, sneb arall yn agos ato ar hyn o bryd


Peel

Wedi dweud hynny, er nad ydw i'n ffan mawr o Phillips, fe gafodd gystadleuaeth digon boddhaol chwarae teg

Na, dim Peel, dim o gwbwl, na

Dyw Peel heb fod ar ei ore ers cryn dipyn. Hyd yn oed pe bai e ar ei ore bydde fe ddim patsh ar Phillips yn y patrwm ma Cymru'n chware. Bydde Peel ar ei ore yn well yn pasio na Phillips, ond yr unig elfen bydde Peel yn well. Mae Phillips yn hollol hanfodol i'r ffordd mae Cymru'n chwarae, mae ei waith amddiffynol yn rhagorol, ac bydd Peel cryn dipyn gwannach yn y rol yna.