Rygbi Gogledd Cymru i fynd i'r gynghrair

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Rygbi Gogledd Cymru i fynd i'r gynghrair

Postiogan ceribethlem » Sad 13 Awst 2011 10:03 am

Bydd RGC 1404 yn cael ymuno a'r gynghrair yn nhymor 2012-13. Byddant yn ymuno ac adran un Dwyrain. Ni fydd unrhywun o Ganad yn cymryd rhan yn y flwyddyn nesaf (sydd am fod yn flwyddyn o gemau cyfeillgar eto).

Yn dilyn marwolaeth rygbi'r gynghrair (a diolch byth am hynny) a thrafferthion clwb pel droed Recsam (ddim yn diolch am hyn), ai dyma'r unig obaith am chwaraeon lefel uchel yn y Gogledd (er mae dipyn o waith i'w wneud i ddyrchafu o'r adran hwnnw a chael rygbi proffesiynol go iawn yna)? Ydy Morgannwg yn parhau i chwarae ambell i gem griced yng Nghonwy?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Rygbi Gogledd Cymru i fynd i'r gynghrair

Postiogan rygbigog » Sul 14 Awst 2011 7:19 am

ceribethlem a ddywedodd:Bydd RGC 1404 yn cael ymuno a'r gynghrair yn nhymor 2012-13. Byddant yn ymuno ac adran un Dwyrain. Ni fydd unrhywun o Ganad yn cymryd rhan yn y flwyddyn nesaf (sydd am fod yn flwyddyn o gemau cyfeillgar eto).

Yn dilyn marwolaeth rygbi'r gynghrair (a diolch byth am hynny) a thrafferthion clwb pel droed Recsam (ddim yn diolch am hyn), ai dyma'r unig obaith am chwaraeon lefel uchel yn y Gogledd (er mae dipyn o waith i'w wneud i ddyrchafu o'r adran hwnnw a chael rygbi proffesiynol go iawn yna)? Ydy Morgannwg yn parhau i chwarae ambell i gem griced yng Nghonwy?


Newyddion dda am Gogledd Cymru (i'r siaradwyr saesneg mae'r llythrennau a rhifau Ceri) yn cael mynediad i'r gynghreiriau, ond ddim i adran lleol Dwyrain.

Gyda haner dwsin o Canwcs (i llenwi mewn am rhai o'r Gogs yn y De) bydd y tim yn gystadleuol yn y Brif Cynghrair.

Heb y Canwcs bydd y Gogs lleol yn gystadleuol yn yr ail adran genedlaethol, sef y Pencampwriaeth newydd mae son am sefydlu.

Ond bydd Gogledd Cymru yn Dwyrain 1 yn wastraff amser, well i'r Gogs gorau aros gyda'r clybiau lleol yn Gogledd 1 yn hytrach na chwarae yn Dwyrain 1.

Fellu os mae'r Pencampwriaeth hefyd yn dechrau, y drefn cywir fydd:

Prif Gynghrair Cymru: Aberafan, Abertawe, Caerdydd, Croes Allweddau, Llanymddyfri, Llanelli, Castell Nedd, Casnewydd, Penybont, Pontypridd.

Pencampwriaeth Cymru: Bedwas, Caerfyrddin, Crwydriaid Morgannwg, Glyn Ebbwy, Gogledd Cymru, Merthyr, Narberth, Pontypwl, Tonmawr, Trecelyn.

Heb Gogledd Cymru yn yr Pencampwriaeth bydd rhaid rhoi pentref bach fel Gilfach Goch neu Bargoed, mae'n amlwg mae Joe Lydon byth wedi bod i'r llefydd ma'!
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm


Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai