Tudalen 1 o 1

Pel-droed ryngwladol: Cymru - Montenegro

PostioPostiwyd: Llun 29 Awst 2011 1:08 pm
gan Mackem
Shwmae pawb

Dw i wedi prynu tocyn i gem nesaf Cymru yn y grwp rhagbrofol ar gyfer Euro 2012, yn erbyn Montenegro, nos Wener nesaf yng Nghaerdydd. Dyma fydd y tro cyntaf i fi weld y tim cenedlaethol yn chwarae :D . Tybed oes na dafarn(dai) rhywle yn y ddinas ble mae'r cefnogwyr yn ymgasglu cyn y gem, lle(fydd) sydd a bach o awyrgylch? Oes na gynigion 'da unrhywun mas fan'na?

Diolch ymlaen llaw

Andy
Swydd Gaerloyw

Re: Pel-droed ryngwladol: Cymru - Montenegro

PostioPostiwyd: Llun 29 Awst 2011 3:54 pm
gan ceribethlem
Mackem a ddywedodd:Shwmae pawb

Dw i wedi prynu tocyn i gem nesaf Cymru yn y grwp rhagbrofol ar gyfer Euro 2012, yn erbyn Montenegro, nos Wener nesaf yng Nghaerdydd. Dyma fydd y tro cyntaf i fi weld y tim cenedlaethol yn chwarae :D . Tybed oes na dafarn(dai) rhywle yn y ddinas ble mae'r cefnogwyr yn ymgasglu cyn y gem, lle(fydd) sydd a bach o awyrgylch? Oes na gynigion 'da unrhywun mas fan'na?

Diolch ymlaen llaw

Andy
Swydd Gaerloyw

Y City Arms yw'r dafarn agosaf at y Stadiwm, er galle hwnna fod yn llawn os oes torf mawr.
Mae'r Fuwch Goch yn dafarn bach Gymreigaidd iawn nepell i ffwrdd, ond sai'n siwr pa amser mae'n agor.

Re: Pel-droed ryngwladol: Cymru - Montenegro

PostioPostiwyd: Llun 29 Awst 2011 7:56 pm
gan Doctor Sanchez
Tria Dempseys. Cerdded heibio'r City Arms a Clwb Ifor Bach. Pyb Gwyddelig ar y gornel. Atmos da yn fana bob tro

Re: Pel-droed ryngwladol: Cymru - Montenegro

PostioPostiwyd: Maw 30 Awst 2011 1:20 am
gan ceribethlem
Doctor Sanchez a ddywedodd:Tria Dempseys. Cerdded heibio'r City Arms a Clwb Ifor Bach. Pyb Gwyddelig ar y gornel. Atmos da yn fana bob tro

Tafarn da, ond ydyw e'n debygol o fod yn llawn ysbryd ar gyfer gem pel droed Cymru?

Re: Pel-droed ryngwladol: Cymru - Montenegro

PostioPostiwyd: Maw 30 Awst 2011 11:33 pm
gan osian
Mae'r Fuwch Goch wedi cau yn anffodus.

Re: Pel-droed ryngwladol: Cymru - Montenegro

PostioPostiwyd: Mer 31 Awst 2011 9:19 am
gan ceribethlem
osian a ddywedodd:Mae'r Fuwch Goch wedi cau yn anffodus.

Ydyw e :ofn: Ers pryd?

Re: Pel-droed ryngwladol: Cymru - Montenegro

PostioPostiwyd: Mer 31 Awst 2011 8:55 pm
gan osian
ceribethlem a ddywedodd:
osian a ddywedodd:Mae'r Fuwch Goch wedi cau yn anffodus.

Ydyw e :ofn: Ers pryd?

http://www.golwg360.com/bwyd/blas/42161-y-fuwch-goch-yn-cael-ei-rhoi-allan-i-bori
Trist iawn :(