ceribethlem a ddywedodd:Faint wyt ti'n credu, o ddifri, bydde maint torfeydd Rygbi Gogledd Cymru?
Bydd hyn yn dderbyniol ar ddau ffactor:
1.
Pa adran mae Rygbi Gogledd Cymru yn ymuno yn Medi 2012. Heb mewnbwn o chwaraewyr dda bydd y tim ddim digon dda i'r Uwch Gynghrair - a does neb yn cefnogi tim sy'n colli bob wythnos.
Bydd yr adran Dwyrain 1 ddim yn llwyddianus o herwydd bydd llawer o'r chwaraewyr gorau yn aros yn Gogledd 1 gyda'r clybiau lleol.
Ond bydd yr Pencampwriaeth newydd yn safon gyraethadwy i gystadlu ond dal gyda timau enwog fel Glyn Ebwy, fellu yma bydd y man mynediad delfrydol.
2.
Safon y Rheolwr Cyffredinol newydd. Bydd y person yma yn gyfrifol am marchnata'r gemau Chwe Gwlad dan 20 a wedyn cynnal y diddordeb i''r dorfeudd dychwelyd i wylio rygbi fuw o safon dda gyda RGC.
Efallai bydd Llandudno yn ddisgyn tymor yma fellu dim un tim o'r arfordir (Bangor, Llandudno, Bae Colwyn, Abergele, Rhyl) ar ol yn Gogledd 1, ac yn hawddach i ddenu chefnogwyr i Barc Eirias.
Gyda'r tim yn cystadlu yn y Phencampwriaeth a marchnata dda byddai'n rhagfynegi rhwng 500 a 1,000, ond heb y rhain bydd y dorfeudd yn isel.