Tudalen 1 o 2

Parc Eirias

PostioPostiwyd: Sad 19 Tach 2011 6:49 am
gan rygbigog
Llongyfarchiadau i bawb sy'n gysylltiedig gyda'r ddatblygiad gorau i ranbarth Gogledd Cymru - erioed yn fy mharn i:

http://www.wru.co.uk/eng/matchdaytv/Index/index/id/9839

Byddsodiad fydd yn dychwelyd gowbrau tymor hi i Rygbi Cymru - llawer well na ranbarthau yn wastraffu arian mawr ar hen chwaraewyr dramor sy'n aml mor siomedig.

Re: Parc Eirias

PostioPostiwyd: Sad 19 Tach 2011 3:13 pm
gan Macsen
Pwy fydd yn chwarae yno felly? Oes rhanbarth gogledd Cymru i fod? Dw i'n cefnogi'r Scarlets ar hyn o bryd ond fe fyddwn i'n sicr yn trosglwyddo fy nghefnogaeth i'r gogs pe bai yna dim rygbi'r undeb i'w gael yno!

Wnes i dalu i ymaelodi gyda tim o'r enw Rygbi Gogledd Cymru ychydig flynyddoedd yn ol, ond ers hynny wedi derbyn llythyr yn awgrymu fod y tim wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Wyddost ti beth yw'r diweddaraf?

Re: Parc Eirias

PostioPostiwyd: Llun 21 Tach 2011 5:22 pm
gan ceribethlem
rygbigog a ddywedodd:Llongyfarchiadau i bawb sy'n gysylltiedig gyda'r ddatblygiad gorau i ranbarth Gogledd Cymru - erioed yn fy mharn i:

http://www.wru.co.uk/eng/matchdaytv/Index/index/id/9839

Byddsodiad fydd yn dychwelyd gowbrau tymor hi i Rygbi Cymru - llawer well na ranbarthau yn wastraffu arian mawr ar hen chwaraewyr dramor sy'n aml mor siomedig.

Fi'n ame bod y rhanbarthau'n derchrau dilyn esiampl y Sgarlets o fuddsoddi mewn mwy o dalent ifanc. Efallai fod y datblygiad yma i fod yn ffordd o gyflymu'r broses hynny. Bydden i'n hoffi gweld cynghrair Academi Eingl-Gymreig yn cael eu greu, efallai mewn dau pwl, gyda ffleioff ar y diwedd.

Re: Parc Eirias

PostioPostiwyd: Llun 21 Tach 2011 8:34 pm
gan rygbigog
Macsen a ddywedodd:Pwy fydd yn chwarae yno felly? Oes rhanbarth gogledd Cymru i fod? Dw i'n cefnogi'r Scarlets ar hyn o bryd ond fe fyddwn i'n sicr yn trosglwyddo fy nghefnogaeth i'r gogs pe bai yna dim rygbi'r undeb i'w gael yno!

Wnes i dalu i ymaelodi gyda tim o'r enw Rygbi Gogledd Cymru ychydig flynyddoedd yn ol, ond ers hynny wedi derbyn llythyr yn awgrymu fod y tim wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Wyddost ti beth yw'r diweddaraf?

Bydd tim Rygbi Gogledd Cymru yn dechrau'r flwyddyn newydd gyda gemau gyfeillgar cyn dechrau gemau cystadleuol tymor nesaf, ond llawer dal i drafod a phenderfynnu yn y misoedd nesaf. Cwmni cymunedol i helpu arianu'r tim roedd wedi cau lawr, problem gyda'r hyfforddwyr ar y pryd yn mynnu talu gormod o arian yn hytrach na parhau'r ddatblygiad yn naturiol. O herwydd hyn mae'r ddau hyfforddwr wedi cael ei disodli, gyda cyn prop Cymru Chris Horsman wrth y lliw.

Re: Parc Eirias

PostioPostiwyd: Maw 22 Tach 2011 8:47 pm
gan ceribethlem
rygbigog a ddywedodd:

Mae'n amlwg wedi ei greu yn bennaf i feithrin talent ifanc, drwy gael setyp proffesiynol i hyfforddi.
Faint mor llwyddianus wyt ti'n credu bydd e fel lle i wylio rygbi? Mae 'na drac rhedeg o gwmpas y cae, gyda chefnogwyr yn bell o'r chwarae. Lle i faint sydd yna i esitedd? Mae'r eisteddle i weld yn fach iawn. Oes cyfle i ddatblygu cyfleusterau i'r dorf pe bai angen?

Re: Parc Eirias

PostioPostiwyd: Maw 22 Tach 2011 10:22 pm
gan rygbigog
ceribethlem a ddywedodd: Mae'n amlwg wedi ei greu yn bennaf i feithrin talent ifanc, drwy gael setyp proffesiynol i hyfforddi.
Faint mor llwyddianus wyt ti'n credu bydd e fel lle i wylio rygbi? Mae 'na drac rhedeg o gwmpas y cae, gyda chefnogwyr yn bell o'r chwarae. Lle i faint sydd yna i esitedd? Mae'r eisteddle i weld yn fach iawn. Oes cyfle i ddatblygu cyfleusterau i'r dorf pe bai angen?

Hen eisteddle, ond rwan gyda 8 ystafell lletygarwch newydd ac eisteddle newydd ochr arall gyda 2,000 o seti uchwanegol. Hefyd 3,000 i sefyll ar beth sydd ar ol o'r hen teras fellu cyfanswm o 6,000 gyda bosib o 8,000 efo eisteddleudd dros dro tu ol i'r pyst. Mae'r trac rhedeg ddim yn broblem o herwydd mae'r dorf dal yn agosach na 90% syn gwylio yn Stadiwn y Mileniwm ac mae'r amffitheatr naturiol yn cadw'r awyrgylch mewn.

Gyda'r gemau Chwe Gwlad o dan 20 yn dod i Barc Eirias yn y flwyddyn newydd, bydd modd i farchnata'r cyfleuster a berswadio'r dorf i dychwelyd i wylio Rygbi Gogledd Cymru sy'n ymuno gyda'r gynghreiriau flwyddyn nesaf.

Re: Parc Eirias

PostioPostiwyd: Mer 23 Tach 2011 4:47 pm
gan ceribethlem
rygbigog a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd: Mae'n amlwg wedi ei greu yn bennaf i feithrin talent ifanc, drwy gael setyp proffesiynol i hyfforddi.
Faint mor llwyddianus wyt ti'n credu bydd e fel lle i wylio rygbi? Mae 'na drac rhedeg o gwmpas y cae, gyda chefnogwyr yn bell o'r chwarae. Lle i faint sydd yna i esitedd? Mae'r eisteddle i weld yn fach iawn. Oes cyfle i ddatblygu cyfleusterau i'r dorf pe bai angen?

Hen eisteddle, ond rwan gyda 8 ystafell lletygarwch newydd ac eisteddle newydd ochr arall gyda 2,000 o seti uchwanegol. Hefyd 3,000 i sefyll ar beth sydd ar ol o'r hen teras fellu cyfanswm o 6,000 gyda bosib o 8,000 efo eisteddleudd dros dro tu ol i'r pyst.

Digon o le felly, yn arbennig o feddwl pa lefel byddan nhw'n cystadlu (i gychwyn o leia)

rygbigog a ddywedodd:Mae'r trac rhedeg ddim yn broblem o herwydd mae'r dorf dal yn agosach na 90% syn gwylio yn Stadiwn y Mileniwm ac mae'r amffitheatr naturiol yn cadw'r awyrgylch mewn.
Fi ddim yn siwr fod y cymhariaeth gyda'r Stadiwm yn un dilys, o feddwl faint sy'n mynychu'r gemau hynny, ac mae achlysur yw'r stadiwm i'r mwyafrif, nid dilyn y rygbi o reidrwydd.

rygbigog a ddywedodd:Gyda'r gemau Chwe Gwlad o dan 20 yn dod i Barc Eirias yn y flwyddyn newydd, bydd modd i farchnata'r cyfleuster a berswadio'r dorf i dychwelyd i wylio Rygbi Gogledd Cymru sy'n ymuno gyda'r gynghreiriau flwyddyn nesaf.

Gobeithio, ond mae'r ffactor o achlysur yn un pwysig. Mae pob un o "ranbarthau" Cymru yn cael torfeydd swmous am y gemau achlysur mawr, ond mae eu torfeydd cyson dipyn yn llai.
Faint wyt ti'n credu, o ddifri, bydde maint torfeydd Rygbi Gogledd Cymru?

Re: Parc Eirias

PostioPostiwyd: Mer 23 Tach 2011 8:47 pm
gan rygbigog
ceribethlem a ddywedodd:Faint wyt ti'n credu, o ddifri, bydde maint torfeydd Rygbi Gogledd Cymru?

Bydd hyn yn dderbyniol ar ddau ffactor:

1. Pa adran mae Rygbi Gogledd Cymru yn ymuno yn Medi 2012.

Heb mewnbwn o chwaraewyr dda bydd y tim ddim digon dda i'r Uwch Gynghrair - a does neb yn cefnogi tim sy'n colli bob wythnos.
Bydd yr adran Dwyrain 1 ddim yn llwyddianus o herwydd bydd llawer o'r chwaraewyr gorau yn aros yn Gogledd 1 gyda'r clybiau lleol.
Ond bydd yr Pencampwriaeth newydd yn safon gyraethadwy i gystadlu ond dal gyda timau enwog fel Glyn Ebwy, fellu yma bydd y man mynediad delfrydol.

2. Safon y Rheolwr Cyffredinol newydd.
Bydd y person yma yn gyfrifol am marchnata'r gemau Chwe Gwlad dan 20 a wedyn cynnal y diddordeb i''r dorfeudd dychwelyd i wylio rygbi fuw o safon dda gyda RGC.
Efallai bydd Llandudno yn ddisgyn tymor yma fellu dim un tim o'r arfordir (Bangor, Llandudno, Bae Colwyn, Abergele, Rhyl) ar ol yn Gogledd 1, ac yn hawddach i ddenu chefnogwyr i Barc Eirias.

Gyda'r tim yn cystadlu yn y Phencampwriaeth a marchnata dda byddai'n rhagfynegi rhwng 500 a 1,000, ond heb y rhain bydd y dorfeudd yn isel.

Re: Parc Eirias

PostioPostiwyd: Mer 23 Tach 2011 9:39 pm
gan Macsen
Ydych chi wedi ystyried (drumroll) cystadlu yn un o gynghreiriau gogleddol undeb rygbi Lloegr? Byddai'r safon yn uwch na Gogledd 1 ond byddai'n haws cyrraedd y gemau ar hyd yr A55.

Dw i'n gwybod nad yw hyn yn ddelfrydol ond datblygiad y clwb sy'n bwysig nes eu bod nhw'n ddigon da i gystadlu yn yr Uwchgynghrair.

Re: Parc Eirias

PostioPostiwyd: Mer 23 Tach 2011 10:10 pm
gan ceribethlem
Macsen a ddywedodd:Ydych chi wedi ystyried (drumroll) cystadlu yn un o gynghreiriau gogleddol undeb rygbi Lloegr? Byddai'r safon yn uwch na Gogledd 1 ond byddai'n haws cyrraedd y gemau ar hyd yr A55.

Dw i'n gwybod nad yw hyn yn ddelfrydol ond datblygiad y clwb sy'n bwysig nes eu bod nhw'n ddigon da i gystadlu yn yr Uwchgynghrair.

Bydde dim hawl gwneud hynny am bydden nhw'n perthyn i URC nid yr RFU, fi'n credu.