Tudalen 2 o 2

Re: Parc Eirias

PostioPostiwyd: Mer 23 Tach 2011 10:56 pm
gan rygbigog
Macsen a ddywedodd:Ydych chi wedi ystyried (drumroll) cystadlu yn un o gynghreiriau gogleddol undeb rygbi Lloegr? Byddai'r safon yn uwch na Gogledd 1 ond byddai'n haws cyrraedd y gemau ar hyd yr A55.

Dw i'n gwybod nad yw hyn yn ddelfrydol ond datblygiad y clwb sy'n bwysig nes eu bod nhw'n ddigon da i gystadlu yn yr Uwchgynghrair.

Roedd hyn yn digwydd cyn i'r cynghreiriau genedlaethol dechrau - ond bron chwarter canrif yn ol.

Mae rygbi Lloegr (hyd yn oed adran 4 neu 5) yn bodoli o herwydd arian. ond mae'n mwy bwysig i chwaraewyr ifainc y Gogledd anelu at chwarae yn y Pencampwriaeth > Uwch Gynghrair > Pro 12 > Cymru, yn hytrach na pa clwb sy'n cynig yr arian mwyaf tymor nesaf.

Re: Parc Eirias

PostioPostiwyd: Iau 24 Tach 2011 8:53 pm
gan ceribethlem
Mae RGC wedi danfon e-byst i holl gemau'r de, yn dweud na fyddan nhw'n chwarae gemau eleni. Dim rheswm pam. Amseru od o feddwl am y cyhoeddiad ar y dudalen blaenorol. Mae son fod Clive Griffiths am hyfforddi'r crwsadwyr (ta beth sydd ar ol ohonyn nhw).
Rhyfedd iawn.

Re: Parc Eirias

PostioPostiwyd: Gwe 25 Tach 2011 9:04 pm
gan rygbigog
ceribethlem a ddywedodd:Mae RGC wedi danfon e-byst i holl gemau'r de, yn dweud na fyddan nhw'n chwarae gemau eleni. Dim rheswm pam. Amseru od o feddwl am y cyhoeddiad ar y dudalen blaenorol. Mae son fod Clive Griffiths am hyfforddi'r crwsadwyr (ta beth sydd ar ol ohonyn nhw).
Rhyfedd iawn.

Mae'r holl clubiau sy'n debygol o fynd i'r Pencampwriaeth yn 'Phoney War' ar y cae tymor yma. Canlyniadau y gemau gyda dim dylanwad ar tymor nesaf fellu mae llawer yn wneud dim mwy na rhoi 15 ar y cae am gemau gynghrair ac arbed arian tan i'r Pencampwriaeth dechrau, fellu mae gemau gyfeillgar yn mwy di bwrpas nac erioed.

Sibrydion fod Caerfyrddin a Phenybont yn aros yn yr Uwch Gynghrair a dwi'n clywed son mae rhai clybiau llai yn Gorllewin 1 / Dwyrain 1 yn poeni am teithio mwy a colli gemau 'derby' yn yr Pencampwriaeth. Dal yn obeithiol bydd RGC yn y Pencampwraeth, o herwydd dwi'n weld ein chwaraewyr yn aros yn Gogledd 1 yn hytrach na teithio i Dwyrain 1.

Re: Parc Eirias

PostioPostiwyd: Sad 26 Tach 2011 12:25 am
gan ceribethlem
rygbigog a ddywedodd:

Fi'n ame mae dadl i gael yr un nifer glybie bwydo (sori am gyfieithu idiom Saesneg) i bob rhanbarth yw'r ddadl am yr uwch gynghrair.

Mae'n ddealladwy pam fod clybiau ishe cadw gemau darbi, nhw yw'r gemau pwysica i unrhyw glwb. Mae teithio yn broblem mawr (un mwy i dim o'r Gogledd wrth reswm).
Fel wedes i eisoes, angen datblygu system eingl-gymreig gyda'r Acadamiau yw'r dyfodol (i Loegr yn ogystal a ni).

Re: Parc Eirias

PostioPostiwyd: Llun 28 Tach 2011 6:09 pm
gan rygbigog
ceribethlem a ddywedodd:Mae son fod Clive Griffiths am hyfforddi'r crwsadwyr (ta beth sydd ar ol ohonyn nhw).
Rhyfedd iawn.

Mae Clive gyda hanes anffodus o symud ymlaen bob 2 flynedd ar ol syrthio mas neu methu dderbyn yr angen i cadw tu fewn i cyllidebau arianol. Yr ail oedd y broblem gyda RGC ac o herwydd hyn caeodd y CIC.

Roeddwn yn gobeithio bydd y cystadleuaeth gyda'r Crusaders ydi codi safonau RGC oddi ar y cae a ddychryn y De i adael RGC i mewn i'r Pencampwriaeth, ond tim tafarn ydi beth sydd ar ol o'r Crusaders, gyda farchnata gan rhywun sy'n breuddwydio mae nhw ar planed arall. Byddai'n rhoi flwyddyn neu ddwy cyn i'r Cynghrair gadael Cymru yn gyfan gwbwl.

Re: Parc Eirias

PostioPostiwyd: Llun 28 Tach 2011 6:29 pm
gan rygbigog
ceribethlem a ddywedodd:Fi'n ame mae dadl i gael yr un nifer glybie bwydo (sori am gyfieithu idiom Saesneg) i bob rhanbarth yw'r ddadl am yr uwch gynghrair.

Mae'n ddealladwy pam fod clybiau ishe cadw gemau darbi, nhw yw'r gemau pwysica i unrhyw glwb. Mae teithio yn broblem mawr (un mwy i dim o'r Gogledd wrth reswm).
Fel wedes i eisoes, angen datblygu system eingl-gymreig gyda'r Acadamiau yw'r dyfodol (i Loegr yn ogystal a ni).

Mae ranbarth y Gleision gyda 2 Prif Clwb yn unig, fellu os niferoedd pob ranbarth oedd y rheswm bydden nhw wedi cael 3ydd yn hytrach na'r Gweilch yn cael 4ydd. Y sybrid ydi fod Arian Castell Howell ac Llandarcy Parc sy'n talu i Caerfyrddin a Phenybont aros yn y Brif adran, dim problem gyda hyn o herwydd mae'r ddau ardal yn cynhyrchu chwaraewyr i'r ranbarth.

Os mae clybiau angen gemau 'darbi' yn hytrach na fod yn adran genedlaethol, rhaid i nhw aros yn Gorllewin 1 neu Dwyrain 1, bydd mwy o gemau 'darbi' os bydd Chaerfyrddin a Llanymddyfri heb wedi disodli Penarth ac Abertilleri, ond feithrin chwaraewyr ydi'r nod yr Uwch Gynghrair heddiw. Os bydd bob Academi Cymru wedi osgoi yr Uwch Gynghrair a chwarae yn erbyn timau Academi Lloegr, bydd Rob Mac, George North, Rhod Jones, Aron Evans, Iolo Evans etc, rwan yn chwarae i Sale a bydd rhaid i'r Scarlets gwario arian mawr i llenwi'r bwlch.

Re: Parc Eirias

PostioPostiwyd: Llun 28 Tach 2011 8:38 pm

Nid dyna wedes i.

Re: Parc Eirias

PostioPostiwyd: Sul 18 Rhag 2011 11:05 pm
gan rygbigog
Rhan fwyaf o'r 2,000 set yn yr eisteddle newydd wedi llenwi heddiw, gem dan oed gyda tywydd warthus fellu roedd y gefnogaeth yn boddhaol.

http://northwalesruc.pitchero.com/news/ ... n-thr-825/

Lluniau o'r dorf a'r gem ar waelod y tudalen, ond mae'n cymeryd ambell eiliad i lawrlwythio.

Re: Parc Eirias

PostioPostiwyd: Sad 31 Rhag 2011 10:56 am
gan rygbigog
Hysbys bur am gemau ryngwladol yn y stadiwm:

Cymru o dan 20 v Alban o dan 20,
Dydd Gwener 10ed o Chwefror 2012 @ 7.35pm
Parc Eirias, Bae Colwyn.

Cymru o dan 20 v Eidal o dan 20,
Dydd Gwener 9ed o Fawrth 2012 @ 7.10pm
Parc Eirias, Bae Colwyn.

Cymru o dan 20 v Ffrainc o dan 20,
Dydd Gwener 16eg o Fawrth 2012 @ 7.35pm
Parc Eirias, Bae Colwyn.