Tudalen 1 o 1

Gary Speed

PostioPostiwyd: Sul 27 Tach 2011 5:25 pm
gan dil
pam?
bechod anferth.

Re: Gary Speed

PostioPostiwyd: Sul 27 Tach 2011 7:55 pm
gan Macsen
Mae'n anodd credu'r peth. Roedd yn dechrau gyrfa yn reolwr oedd yn siwr o fod yn un disglar, roedd yn llwyddo yn ei swydd, roedd yn ifanc, yn olygus, yn berson hyfryd, yn hapus i bob golwg, roedd ganddo wraig a plant. Maen debyg ei fod ar y teledu ychydig oriau ynghynt yn trafod dyfodol y tim.

Os mai dyna oedd yn gyfrifol mae'n dangos peth mor llechwraidd ac erchyll ydi iselder. Mae fel tarth sy'n disgyn ar y meddwl ac yn gwrthod clirio. Does dim byd allai'r dioddefwr ei wneud am y peth, beth bynnag arall sy'n mynd ymlaen yn ei fywyd. Wrth gwrs mae'n amhosib gwybod beth oedd wrth wraidd ei benderfyniad.

Re: Gary Speed

PostioPostiwyd: Llun 28 Tach 2011 10:46 am
gan dil
dwn im be oedd de ond sut uffer ma rwyn mor llwyddianus ac yn gymaint o arwr yn arbenig ar y funud yn gallu meddwl bo nhw isio neud hune?
dwi'n cydymdeimlo yn llwyr os mae iselder oedd arno.
ond allai ddim a helpu meddwl bod ffactor arall.
am golled.
gobeithio ellith Cymru a tim peldroed Cymru gymrud riwfaint o ysbrydolaeth o'i gofio.
Delwedd

Uploaded with ImageShack.us

Re: Gary Speed

PostioPostiwyd: Llun 28 Tach 2011 4:33 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Diolch o galon iddo am serennu i Gymru fel chwaraewr, capten a rheolwr. Pob dymuniad gorau i'w deulu a'i ffrindiau. Heddwch i'w lwch. Dwi dal methu credu'r newyddion trist yma. Sioc fawr wrth wylio'r newyddion ddoe.

Re: Gary Speed

PostioPostiwyd: Mer 30 Tach 2011 6:25 pm
gan dewi_o
Dwi erioed wedi teimlo mor isel am rhywun doeddwn i ddim yn ei adnabod
Dwi dal ddim yn deall na methu credu beth sydd wedi digwydd.

Cofion cynnes i'w deulu a Heddwch i'w lwch

Re: Gary Speed

PostioPostiwyd: Gwe 02 Rhag 2011 8:37 pm
gan Chickenfoot
Newyddion trist ofnadwy, a dw i'n gobeithio nad oedd y sibrydion am "tabloid sting" yn wir. Dw i'n cydnabod bod y tabloids yn gweithredu ar lefel llai nac egwyddorol weithiau, ond buasai hynna'n gywilyddus, os yn wir.
O bob son, roedd Speed yn enghraifft i chwaraewyr ifanc o "model pro", a gobeithio fod y teyrngedau sydd wedi'u talu wythnos yma yn ryw fath o godiad calon i'w teulu ar amser hunllefus