gan Macsen » Sul 27 Tach 2011 7:55 pm
Mae'n anodd credu'r peth. Roedd yn dechrau gyrfa yn reolwr oedd yn siwr o fod yn un disglar, roedd yn llwyddo yn ei swydd, roedd yn ifanc, yn olygus, yn berson hyfryd, yn hapus i bob golwg, roedd ganddo wraig a plant. Maen debyg ei fod ar y teledu ychydig oriau ynghynt yn trafod dyfodol y tim.
Os mai dyna oedd yn gyfrifol mae'n dangos peth mor llechwraidd ac erchyll ydi iselder. Mae fel tarth sy'n disgyn ar y meddwl ac yn gwrthod clirio. Does dim byd allai'r dioddefwr ei wneud am y peth, beth bynnag arall sy'n mynd ymlaen yn ei fywyd. Wrth gwrs mae'n amhosib gwybod beth oedd wrth wraidd ei benderfyniad.