Cyfanswm Cyflog
Postiwyd: Mer 21 Rhag 2011 5:00 pm
Mae "rhanbarthau" Cymru am osod cyfanswm cyflog (salary cap) ar y sgwadiau. Ymateb yw hwn i geisio cael URC i wneud rhywbeth am yr exodus o chwareuwyr safon uchaf i Ffrainc yn fy marn. Naill ai bydd URC yn gorfod cyfrannu'n fwy teg am wasanaeth y chwareuwyr yma, neu bydd rhaid newid y "polisi" o ddewis chwareuwyr o Gymru yn unig. Ar hyn o bryd mae'r chwareuwyr gorau yn chwarae cymaint (os nad mwy) o gemau i Gymru nac yr ydynt i'r rhanbarthau.
Sgil effaith hyn fydd y timoedd yn y gynghrair cenedlaethol, a fydd y Sgarlets a'r Gleision (mwy na'r ddau arall fi'n credu) yn diddymu'r timoedd lled-broffesiynol?
Pa fath o gynghrair fydd yn bodoli heb Llanelli a Chaerdydd (ac efallai heb Abertawe a Chasnewydd).