Tudalen 1 o 1

Y gamp genedlaethol

PostioPostiwyd: Sul 06 Ion 2013 1:22 am
gan Dewyrth Jo
Sioc braidd bod neb wedi codi'r pwnc difyr hwn ar y maes.

Re: Y gamp genedlaethol

PostioPostiwyd: Sul 06 Ion 2013 4:30 am
gan Hen Rech Flin
Os mae'r hen sgerbwd yna am Rygbi v Pêl droed sydd gen ti dan sylw, 'dwi ddim yn synnu na fu yn bwnc llosg ar y Maes, byddwn yn tybio y byddai'r rhan fwyaf o aelodau'r Maes am gefnogi Cymry yn y ddwy gamp.

Yn bersonol mae'n well gennyf rygbi, ond am resymau ych a fi braidd. Mi fûm yn ddisgybl mewn ysgol a sefydlwyd gyntaf yn y 1600'au a drodd o fod yn ysgol tlodion i ysgol fonedd i ysgol ramadeg ac erbyn i mi gyrraedd yno yn ysgol gyfun. Fel ysgol gyfun yr oedd yn ceisio cadw rhywfaint o naws ei rhagflaenwyr trwy gyflwyno Rygbi fel ei brif gêm academaidd yn hytrach na ffŵtbol y werin datws. O herwydd hanes yr ysgol y mae gennyf gwell ddealltwriaeth o rygbi a gan hynny yn cael mwy o fwynhad o em o rygbi. Ond mae'r hyn a greodd fy ffafriaeth tuag at gampau'r bêl hirgron yn drewi, ac yr wyf yn mawr obeithio nad yw'r fath agweddau yn bodoli yn ein hysgolion bellach.

Re: Y gamp genedlaethol

PostioPostiwyd: Sul 06 Ion 2013 4:38 am
gan Hen Rech Flin
Newydd sylwi ar y faner goch uwchben sy'n cynnwys rolau’r seiat "Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffennol at ffraeo a checru hurt". WPS!

Gwell newid y pwnc yn sydyn. (Er, hwyrach, byddai cyfnod o gecru hurt yn ail fywiogi'r Maes!)

Pam bod gan yr Alban tîm yng Nghwpan Byd Polo Eliffantod a Chymru dim?

Re: Y gamp genedlaethol

PostioPostiwyd: Sul 06 Ion 2013 2:16 pm
gan Josgin
Bob tro i mi fentro beirniadu'r duw wy mawr, ta-ta i'r sylw. Mi oedd pobl yn gallu rhegi, enllibio, cableddu a dweud celwyddau noeth -ond paid ac awgrymu fod yna Gymry sydd yn well ganddynt beldroed.

Re: Y gamp genedlaethol

PostioPostiwyd: Sul 06 Ion 2013 5:08 pm
gan ceribethlem
Mae rhai yn lico rygbi a dim pêl-droed.
Mae eraill yn lico pêl-droed a dim rygbi.
Mae trydydd carfan yn lico'r ddau gamp.
Mae yna rai â chas ganddynt y ddau.

Mae dadle "mae fy hoff gamp i yn well na dy hoff gamp di" yn ddi-werth a braidd yn blentynaidd. Croeso i unrhywun dechrau edefyn yn clodfori eu camp.

Pawb at y peth a bo.

Re: Y gamp genedlaethol

PostioPostiwyd: Mer 03 Ebr 2013 4:02 pm
gan Chickenfoot