Tudalen 1 o 1

Taith y Llewod

PostioPostiwyd: Mer 05 Meh 2013 7:39 pm
gan ceribethlem
Dyma'r tro cyntaf, yn yr oes broffesiynol, i daith y Llewod fynd i Awstralia heb i fi fynd mas i'w cefnogi.

Ta beth. Dau gêm wedi mynd a'r Cymry wedi perfformio'n arbennig o dda hyd yma. Yr unig Gymry sydd heb gael cyfle hyd yma yw Gethin Jenkins neu Warburton.

[anwybyddaf unrhyw gyfraniadau sy'n bango mlaen am faint o "fradwr" ydwyf - edefyn am y daith yw hon, nid gwleidyddiaeth]

Re: Taith y Llewod

PostioPostiwyd: Gwe 07 Meh 2013 9:35 am
gan ceribethlem
Nagon i'n meddwl lot o'r rheng ol yn y gem diwethaf (yn erbyn Grym y Gorllewin), ormod o geffyl gwedd a dim digon o waith caib a rhaw. Bydd rheng ol o'r fath yn methu dygymod gyda rheng ol Awstralia.

Sam Warburton yn gapten ddydd Sadwrn yn erbyn Cochion Queensland, yn chwarae ei gem gyntaf. Bydd e'n well na Sean O'Brien fel 7, er i fod yn deg i O'Brien odd e'n gorfod gwneud gwaith y rheng ol cyfan ar ben ei hunan ddydd Mercher.

Re: Taith y Llewod

PostioPostiwyd: Gwe 14 Meh 2013 1:31 pm
gan ceribethlem
Hmmm, Awstralia ddim yn cymryd pethau o ddifri, gan roi tim gwan arall mas i wynebu'r Llewod.
Oes pwrpas teithio Awstralia bellach? Mae taith y Llewod yn dod a symiau anferth o arian i'r wlad, ond mae Awstralia ddim i weld yn becso.

Re: Taith y Llewod

PostioPostiwyd: Gwe 21 Meh 2013 9:15 pm
gan ceribethlem
Prawf cynta fory. Anafiadau i'r ddau ochr. Rwy'n rhagweld buddugoliaeth agos i'r Llewod.

Re: Taith y Llewod

PostioPostiwyd: Mer 26 Meh 2013 12:16 am
gan Duw
Duw, gallet ti fod wedi sgrifennu'r sgript Cer.

Braidd yn ddiflas dwi'n gweld yr holl beth heb law y profion, ac yna dwi'n hanner cefnogi unrhyw un sy'n ware'r Llewod. Fel Lloegr :)

Re: Taith y Llewod

PostioPostiwyd: Gwe 05 Gor 2013 10:04 am
gan ceribethlem
Gem ola fory. Coeled o Gymry. Y Sais a'r Gwyddyl yn grac. Happy days :lol:

Re: Taith y Llewod

PostioPostiwyd: Maw 23 Gor 2013 9:32 am
gan ceribethlem
ceribethlem a ddywedodd:Gem ola fory. Coeled o Gymry. Y Sais a'r Gwyddyl yn grac. Happy days :lol:

Whare teg fe ddangoson nhw eu donie!
Y Sais a'r Gwyddyl dal yn grac. Happy days :lol: