Tudalen 1 o 3

Ydi Earnshaw ddigon da i bel-droed rhyngwladol ar hyn o bryd

PostioPostiwyd: Gwe 17 Ion 2003 7:37 pm
gan Ramirez
Heb os nac oni bai, mi fydd o yn y dyfodol, ond dwi ddim yn siwr tra mae o dal yn yr ail adran.

Hyd yn oed yn y gem yn erbyn yr Almaen lle sgoriodd o i ennill y gem, roedd o'n amlwg yn cymryd gormod o amser i feddwl pan oedd yn cael y bel, yn hytrach na bod un cam ar y blaen a gwybod beth i'w wneud a'r bel cyn ei derbyn e.e. Giggs.

FODD BYNNAG!:
Mae geni ffrind sy'n cefnogi Caerdydd a mae o'n meddwl bod fy honiadau'n pathetic.

Eich barn, hufen ein cymdeithas, os gwelwch yn dda?

PostioPostiwyd: Sad 18 Ion 2003 3:45 pm
gan Hedd Gwynfor
Mae'n bendant yn ddigon da i chwarae i Gymru ar hyn o bryd, ond gyda pawb yn ffit dyw y ddim wedi cyrraedd safon Bellamy, Hartson ac hyd yn oed Blake yn rhyngwladol eto. Mae e ychydig yn naive, ychydsig o headless chicken, ond fe wneith e wella llawer vunwaith fydd e'n chwarae yn erbyn chwaraewyr o safon gwell yn adran gyntaf Lloegr y flwyddyn nesaf.

Ar y llaw arall mae Gabbidon yn haeddu ei le nawr. Fe yw'r amddiffynwr canol gorau sydd gyda ni o bell. Mae'n well na Melville a Page. Druan fod Coleman wedi gorffen, bydde Gabbidon a Coleman yn bartneriaeth cryf iawn!

PostioPostiwyd: Llun 20 Ion 2003 7:39 pm
gan SbecsPeledrX
Cytuno hedd. Drychwch i'r chwith i weld fy "credensials" ar y pwnc yma ond dyw Earnshaw ddim y boi ar lefel rhyngwladol eto. Yn erbyn Coventry eleni, Yn Erbyn Leeds llynedd, dyw e ddim cweit digon da ar lefelau uwch na'r 2ail eto. Mae digon a amser gynno fo i wella ac rwyn siwr y fydd yn chwaraewr o safon rhyngwladol yn y dyfodol agos ond dyw ei feddwl ddim mor gyflym ai goesau eto.

Mae wedi arfer chwarae yn erbyn amddifynnwyr araf yr ail adran. Chwarae teg rwy'n gynt na Spencer Prior (Hei Jacks chi isio'i fenthyg o?).

Mae gynddo fo'r gallu i chwarae yn erbyn amddifynnwyr gyflymach ond dyw e ddim wedi arfer gorfod gwneud penderfyniadau yn gyfglym. Mae'n cael oes i rhoi'r bel yn y rhwyd ar ein lefel ni.

PostioPostiwyd: Llun 20 Ion 2003 7:50 pm
gan Ramirez
Dyna'n union yw fy mhwynt. Diolch i Dduw, dwi ddim ar ben fy hun.

Mewn 'chydig o flynyddoedd mi fydd y boi yn taro nw mewn left, right, centre yn y World Cup a'r Premiership.

PostioPostiwyd: Llun 20 Ion 2003 7:58 pm
gan SbecsPeledrX
Gyda Caerdydd.

Ti'n disgwyl i Gymru nid yn unig fod yn cwpan y byd ond yn sgorio Left Right and Centre felly gyfaill?

Cofia deud wrth dy ffrind dy fod yn derbyn ei fod ar dan i Gaerdydd ac yn gwneud y gwahaniaeth ein bod yn y llefydd dyrchafiad yn lle hanner isar tabl!

PostioPostiwyd: Llun 20 Ion 2003 11:15 pm
gan Di-Angen
Dwi'n credu ei fod yn ddigon da i ddod ymlaen fel sub am efallai cwarter awr ar ddiwedd gemau, ond nid i ddechrau. Does dim lle iddo yn y tim beth bynnag.

Dwi'n credu ei fod mynd i fod yn chwaraewr da iawn yn y dyfodol (mae yn barod!) ond mae lot ganddo i ddysgu. Mae'r nifer o siawnsiau mae gallu gwastraffu yn erchydus ar adegau.

Dyna barn fi beth bynnag.

Hwyl.

PostioPostiwyd: Maw 21 Ion 2003 1:18 am
gan Ramirez
Bydd, mi fydd Cymru'n sgorio left, right + centre.
Ond mi fydd Paul Jones wedi cael damwain echrydus a Gabbidon wedi troi'n fynach, fydd yn golygu ail-adfer Dai Davies rhwng y pyst a sticio Giggs yng nghanol yr amddiffyn (moral support i'r amddiffynwyr eraill)
ac felly allan yn y rownd gynta a ni ar ol colli 17-12 i'r USA.

PostioPostiwyd: Maw 21 Ion 2003 3:32 pm
gan Gruff Goch
Mi roedd Earnshaw ar goll braidd yn y gêm Azerbaijan- chwaraewr gwaetha Cymru ar y noson, ond mi oedd o'n chwarae allan o'i safle. Mae'n dda cael chwaraewr o'i safon o wrth-gefn gan fod Bellamy yn cael mwy o gardiau coch na dwi'n cael o gardiau dolig!

Gruff

nathan blake

PostioPostiwyd: Llun 17 Chw 2003 11:32 pm
gan saer eiriol
i ddyfynnu cefnogwyr cymru

he's black, he's fat, he's not that very good, nathan blake nathan blake

odd blake rioed yn ddigon da i gymru - gallai earnshaw redeg cylchoedd o'i gwmpas yn llythrennol, wel i ddweud y gwir, gallai pawb - peth mor fawr, a mewn crys oren = bolard

Re: nathan blake

PostioPostiwyd: Llun 17 Chw 2003 11:44 pm
gan Di-Angen
saer eiriol a ddywedodd:i ddyfynnu cefnogwyr cymru

he's black, he's fat, he's not that very good, nathan blake nathan blake

odd blake rioed yn ddigon da i gymru - gallai earnshaw redeg cylchoedd o'i gwmpas yn llythrennol, wel i ddweud y gwir, gallai pawb - peth mor fawr, a mewn crys oren = bolard


Na, y chant gorau yw:

He's black, he's mean, he robs the fruit machines, Nathan Blake, Nathan Blake.