Heb os nac oni bai, mi fydd o yn y dyfodol, ond dwi ddim yn siwr tra mae o dal yn yr ail adran.
Hyd yn oed yn y gem yn erbyn yr Almaen lle sgoriodd o i ennill y gem, roedd o'n amlwg yn cymryd gormod o amser i feddwl pan oedd yn cael y bel, yn hytrach na bod un cam ar y blaen a gwybod beth i'w wneud a'r bel cyn ei derbyn e.e. Giggs.
FODD BYNNAG!:
Mae geni ffrind sy'n cefnogi Caerdydd a mae o'n meddwl bod fy honiadau'n pathetic.
Eich barn, hufen ein cymdeithas, os gwelwch yn dda?