Dwi'n gobeithio neith o ddim mynd i Man U, faswni methu diodde gweld o da'r crys coch na mlaen
A dwi ddim am weld Earnie yn ymuno a 'sinking ship' ar ol i Giggs a Beckham adael.
Dwi'n meddwl fasen well i Earnshaw fod da clwb mawr Premiership am dymor. Falle geith o lai o gemau, ond fe fydd yn dysgu llawer o'i gyd chwaraewyr, yr hyfforddwyr, a chwarae erbyn amddiffynwyr da. Wneith llai o gemau golygu llai o sawns o cael ei anafu. Mi fydd hefyd wedi chwarae yn erbyn rhai or chwaraewyr all wynebu yn Euro 2004, e.e., Ferdinand, Campbell, Gallas, Alpay, ac yn y Champions league efallai Nesta, Stam ayb.