Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Maw 18 Chw 2003 9:53 am
gan nicdafis
Wel o leia mae honna'n odli!

PostioPostiwyd: Maw 18 Chw 2003 10:20 am
gan Hogyn o Rachub
2 gôl mewn dwy gêm, a dwy gôl hynnod o dda hefyd. Dwi'n meddwl ei fod yn ddigon da i chwarae i Gymru, ac mi eith o nerth i nerth yn y dyfodol.

PostioPostiwyd: Maw 18 Chw 2003 10:37 am
gan Geraint
Mi fyddai'n llawer gwell i Gymru os byddai Earnshaw yn chwarae y y Premiership bob wythnos erbyn amddiffynwyr o safon uwch. Er fy mod eisaiu weld o'n chwarae i Gaerdydd yn y Premiership,mae Euro 2004 dim ond blwyddyn i ffwrdd, a byddai blwyddyn yn y Premiership yn dda iawn i Earnshaw a Chymru. Dewch mlaen Lerpwl, seinwich fo!

PostioPostiwyd: Mer 19 Chw 2003 10:21 am
gan SbecsPeledrX
Ond fydde fe ddim yn gael i fewn i tim cyntaf y clybiau mawr fel man u a lerpwl a fydde blwyddyn ar y fainc yn niweidiol cyn ewro 2004. Os nad yw yn mynd i ymuno a arsenal neu Man u beth yw'r pwynt gadael Caerdydd? Pam fydde fo eisiau arwyddo i ryw tim dim byd fel West Ham neu Southampton?

Gyda llaw, y chant gorau yw

He's White, He's Mean he's older than your Queen Stevie White, Stevie White.

PostioPostiwyd: Mer 19 Chw 2003 10:22 am
gan Hogyn o Rachub
Yn de, mae'n well iddo chwarae pob gêm â Chaerdydd na rhyw 10-15 y flwyddyn gyda clwb o'r Uwch Adran.

PostioPostiwyd: Mer 19 Chw 2003 10:27 am
gan SbecsPeledrX
Efallai fod Alex Ferguson yn anghytuno a ni. S'rhywyn arall wedi clywed y si fod ManUre wedi cytuno del i fynd a fo i Manceinion diwedd y tymor. Balls mae'n debyg fydde nhw ddim yn cytuno del wedyn gadael iddo fynd fynnu yn erbyn cloggers yr ail adran am weddill y tymor fyddwn i ddim yn meddwl. Ella mai "cytundeb mewn egwyddor" sydd rhwng y ddau glwb.

£6M medde nhw. A Luke Chadwick i ddod ffordd arall!

PostioPostiwyd: Mer 19 Chw 2003 10:53 am
gan Geraint
Dwi'n gobeithio neith o ddim mynd i Man U, faswni methu diodde gweld o da'r crys coch na mlaen :x A dwi ddim am weld Earnie yn ymuno a 'sinking ship' ar ol i Giggs a Beckham adael.

Dwi'n meddwl fasen well i Earnshaw fod da clwb mawr Premiership am dymor. Falle geith o lai o gemau, ond fe fydd yn dysgu llawer o'i gyd chwaraewyr, yr hyfforddwyr, a chwarae erbyn amddiffynwyr da. Wneith llai o gemau golygu llai o sawns o cael ei anafu. Mi fydd hefyd wedi chwarae yn erbyn rhai or chwaraewyr all wynebu yn Euro 2004, e.e., Ferdinand, Campbell, Gallas, Alpay, ac yn y Champions league efallai Nesta, Stam ayb.

PostioPostiwyd: Mer 19 Chw 2003 10:58 am
gan SbecsPeledrX
Sut ma Ferdinand a Campbell yn mynd i chwarae yn Ewro 2004? Ydy nhw'n ymuno a'r mewnlifiad ac am cymathu neu oed taid Cymraeg genddynt?

PostioPostiwyd: Mer 19 Chw 2003 11:03 am
gan Geraint
Ma gan Lloegr dal ddigon o amser i qualifio, dim ond dwy gem ma nhw wedi chwarae. Yn anffodus.

PostioPostiwyd: Llun 24 Chw 2003 7:00 pm
gan saer eiriol
Mi fydd hefyd wedi chwarae yn erbyn rhai or chwaraewyr all wynebu yn Euro 2004, e.e., Ferdinand, Campbell, Gallas, Alpay, ac yn y Champions league efallai Nesta, Stam ayb.


Pam enwi Alpay? Mae o mor gyflym â ma gary slaymaker yn cael dymp, a da'r un steil hefyd.