gan Cardi Bach » Maw 04 Chw 2003 10:04 am
O safbwynt hanesyddol yr hyn sy'n cael ei drafod, yr hyn sy'n cael ei dderbyn erbyn hyn yw mai yr un bobl ydym ni o ran ein gwneithiriad genetaidd a'r rhai oedd yn byw yn yr ynysoedd yma cyn y chwyldro 'Celtaidd', hynny yw yn enetaidd ni yw brodorion ynysoedd Prydain ers 2000 cc OND yn ddiwylliannol Celtiaid ydym ni. Nid symudiad pobloedd oedd y mudo Celtaidd ond symudiad diwylliannol (er fod y Celtiaid, fel pobl wedi mudo hefyd - ond nid dyma oedd eu dylanwad mwyaf.). Mae'n rhaid deall hynny yn gyntaf. ( byddai'n ddiddorol gwneud arbrawf tebyg i'r hyn a wnaed i'r bbc gyda'r gyfres am y Feiciniaid dwy flynedd yn ol).
Yna mae'n rhaid deall fod Saesneg, efallai ddim yn ei ffurf bresennol, ond Saesneg yr un modd, wedi cael ei siarad yn y darn o dir yma a elwir yn Gymru ers y ddeuddegefed ganrif. Mae Saesneg felly yn iaith frodorol i Gymru. Gellir dadlau a ydi hi'n iaith 'legit' yma, gan iddi gael ei orfodi ar y boblogaeth, ond mae hi wedi datblygu i fod yn iaith ddosbarth werinol o Gymry, a hynny'n arbennig yn ystod y chwyldro diwydiannol.
Yr hyn y credaf i y mae'n rhaid i ni wneud yw derbyn ein bod ni yn byw mewn cenedl 'ddwy-ieithog' - er fod y canrhannau yn newid yn ddrastig o ardal i ardal gyda pa mor ddwy-ieithog yw'r gymdeiaths, ac er fod tua 80% yn uniaith Saesneg, MAE HI'n genedl ddwy-ieithog, a hynny wedi bod ers 900 mlynedd. Mae'n rhaid i ni wedyn barchu y ddwy ochr - ond mae'n rhaid i' gwleidyddion dyfu lan wrth ddadlau'r pwnc (llew smith a huw lewis [a.c. merthyr] yn enghreifftiau) a pheidio a chodi bwganod. beth sydd yn bod ar ddwy-ieithrwydd? - pam fod y gwleidyddion hyn yn ofni hynny gymaint? mae dwy-ieithrwydd yn fanteisiol ac yn creu cymdeithas mwy gwaraidd. mae hi hefyd yn gwneud cenedl yn fwy llewyrchus (yn ddiwylliannol ac yn ariannol) - Swisdir a Denmarc ee.
Ond gyda rhwbeth fel 'Phantom...', mae 'banter' o fewn chwaraeon yn naturiol - mae sarhau gyda'r bwriad o ddolurio ar y llaw arall yn beth gwahanol.