Phantom wheres your mask!

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Di-Angen » Iau 30 Ion 2003 11:00 pm

Aelod Llipa a ddywedodd:Dim ond eisiau gofyn i Di-Angen, pa reswm sydd gennyt i fod yn Pro-Saesnig ?
Tydw i ddim yn foi gwrth Saesnig fy hun, ond ar y llaw arall, fedra i ddim meddwl am UN ffafr, neu gymwynas y mae'r Saeson wedi ei wneud i'r Cymry neu i Gymru, ers iddynt lanio yma fel Sacsoniaid.
Am y rheswm yma, does gen i ddim cydymdeimlad a nhw, yn enwedig gan fod canran fawr o'r Saeson yn dal i'n sarhau, a'n coloneiddio.
Ddaru nhw ddim hyd yn oed dweud diolch yn fawr am ein llechi, glo, dwr.......


Ti'n ddoniol.

Dyw'r ffaith fy mod i'n casau hypocrites fel the elusive SbecsPeledrX , sy'n canu'r holl anti-English rybish mewn gemau, ond wedyn yn dechrau cwyno os mae Saeson yn gwneud yr un peth, ddim yn meddwl fy mod yn "Pro-Saesnig". O ran bod nhw wedi glanio yma - who fucking cares? A wyt ti'n 100% Welsh blood? Neu wyt am ei anfon nhw adre gyda'r Africans, Pakistanis, West Indians a'r gweddill?

A wyt ti wedi dweud diolch am yr holl bethau Seisnig mae pobl Cymru wedi defnyddio? Pa ffafr neu gymwynas ydy'r Cymru wedi rhoi i'r Saeson? O ran y ffaith bod nifer o bobl Saesneg yn sarhau Cymru/Cymry - ti'n iawn, mae hyn yn wrong a maent yn idiots. Yn union yr un peth a'r idiots Cymraeg sy;n sarhau Saeson neu unrhyw genedl/hil/gwlad arall.

Dwi'n credu ei fod yn dwp i son am y "Saeson" o 500 mlynedd yn ol fel rhyw fath o justification i gael go ar bobl NAD OEDD YN GYFRIFOL am y pethau yma.

Hwyl
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan Ramirez » Iau 30 Ion 2003 11:21 pm

OK then,
Stopia 'swattio' wasps just achos bo chdi wedi cael dy bigo,

neu, os nad wyt ti wedi cael dy bigo,

Stopia switchio'r channel pan mae Pobl y Cwm yn dod on, jysd am bo chdi ddim yn lecio be ti wedi weld hyd yma

Cym on, ti'n goro bod yn gwneud un o'r rheina :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan nicdafis » Gwe 31 Ion 2003 8:37 am

Di-Angen a ddywedodd:A wyt ti wedi dweud diolch am yr holl bethau Seisnig mae pobl Cymru wedi defnyddio? Pa ffafr neu gymwynas ydy'r Cymru wedi rhoi i'r Saeson?


Gyfeillion, peidiwch â gofyn beth mae Rhufeiniaid wedi wneud i ni, ond yn hytrach, beth <i>ydyn ni</i> wedi wneud i'r Rhufeiniaid?

Di-Angen, ti'n craco fi lan, ys dyweder ein ffrindiau dros y clawdd (eu syniad nhw oedd hwnna, hefyd - diawl maen nhw'n glyfar).
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Aelod Llipa » Gwe 31 Ion 2003 11:14 am

[quote]Neu wyt am ei anfon nhw adre gyda'r Africans, Pakistanis, West Indians a'r gweddill?

Nid dadl hiliol oedd gen i mewn golwg, does gen i ddim problem gyda neb yn dod i Gymru i fyw, dim ond eu bod yn parchu'r iaith frodorol, ac ddim yn trin y wlad fel estyniad o Loegr.
Gofynaist beth mae Cymru wedi ei wneud i'r Saeson, wel dim byd i haeddu'r diffyg parch, a'r holl agwedd 'colonists' yma.
Ond mae Cymru wedi aberthu tir ar gyfer ei foddi "tryweryn", ar gyfer Lerpwl, ac maen't hefyd wedi aberthu eu hiaith i'r Prydeinwyr !!!
50% Cymro ydw i, ond fuaswn i byth yn mynd i Loegr a mynu siarad Cymraeg a nhw, mae gen i'r cwrteisi a'r parch i siarad eu hiaith nhw, ac mae hynny'n wir ble bynnag yr af.

[/quote]
Rhithffurf defnyddiwr
Aelod Llipa
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 334
Ymunwyd: Llun 27 Ion 2003 4:57 pm
Lleoliad: Sir Ddinbych

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 31 Ion 2003 12:25 pm

jdj
Golygwyd diwethaf gan SbecsPeledrX ar Llun 22 Chw 2010 12:43 am, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Di-Angen » Gwe 31 Ion 2003 12:31 pm

Aelod Llipa a ddywedodd:
Neu wyt am ei anfon nhw adre gyda'r Africans, Pakistanis, West Indians a'r gweddill?

Nid dadl hiliol oedd gen i mewn golwg, does gen i ddim problem gyda neb yn dod i Gymru i fyw, dim ond eu bod yn parchu'r iaith frodorol, ac ddim yn trin y wlad fel estyniad o Loegr.
Gofynaist beth mae Cymru wedi ei wneud i'r Saeson, wel dim byd i haeddu'r diffyg parch, a'r holl agwedd 'colonists' yma.
Ond mae Cymru wedi aberthu tir ar gyfer ei foddi "tryweryn", ar gyfer Lerpwl, ac maen't hefyd wedi aberthu eu hiaith i'r Prydeinwyr !!!
50% Cymro ydw i, ond fuaswn i byth yn mynd i Loegr a mynu siarad Cymraeg a nhw, mae gen i'r cwrteisi a'r parch i siarad eu hiaith nhw, ac mae hynny'n wir ble bynnag yr af.



Ma'r mwyafrif o Gymry yn considro'r Saesneg fel ei "hiaith nhw". Dwi'n considro'r Saesneg fel un o fy ieithoedd i. Yr iaith frodorol, felly, i'r mwyafrif, yw Saesneg.

Ti'n iawn, dydy pobl Cymru heddiw ddim wedi gwneud dim i haeddu diffyg parch. A dylai pobl ddim dangos diffyg parch i eraill am bethau ddigwyddodd canrifoedd yn ol.

Mae Cymru wedi aberthu tir, ee Tryweryn. Great. A ydw i gredu, felly, nad oes un cymuned tebyg wedi'i foddi yn Lloegr?

Nol at dy bwynt wreiddiol, dwi'm yn gweld sut mae canu "England's full of shit" neu'r miliynau o variations gwahanol yn gwneud unrhywbeth i gefnogi Caerdydd neu Cymru. Pobl fel SbecsPeledrX sy'n ei wneud i geisio ymddangos yn hardcore fel y rest o'r Burberry muppets. Os ydych yn canu'r fath bethau yma, dwi'm yn gweld pam ddylech weld problem gyda pobl eraill yn canu'n ystod hen wlad fy nhadau, canu "Wales is full of shit" ayb ayb.

Di-Angen, ti'n craco fi lan, ys dyweder ein ffrindiau dros y clawdd (eu syniad nhw oedd hwnna, hefyd - diawl maen nhw'n glyfar).


Diolch. Mae'r feeling yn mutual.

OK then,
Stopia 'swattio' wasps just achos bo chdi wedi cael dy bigo...


Sori, dwi'm yn deall y neges yma.
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 31 Ion 2003 12:33 pm

Di Angen. Dwi ddim yn meindio nhw'n canu pethau felna mewn gemau pel droed. Mae'n rhan o'r Banter ac fei elwir yn awyrgylch.
Tri ddallt (Y gair Twlsyn wedi ei ddileu o fama).
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 31 Ion 2003 12:36 pm

Edefyn arall mae'n siwr Di Angen ond y gwahaniaeth am Dryweryn yw fod pob aelod etholedig o Gymru wedi dod allan yn erbyn y cynllun. Barn pobl Cymru yn glir yn erbyn y cynllun a gan ein fod y drfedigaeth i Loegr fe foddwyd y lle beth bynnag.

Petai pawb yn Lloegr yn pleidleisio yn erbyn rhywbeth yn digwydd yn lloegr fyddai ddim yn digwydd.

Os ti'n derbyn ein fod yn wlad yna ma rhaid i ti dderbyn anghyfiawnder y peth. Os nad wyt yn derbyn ein fod yn gwlad, wedyn ni byth yn fynd i gytuno. Ond dwi dal i fwynhau sgwrsio gyda ti.

Shake?
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Di-Angen » Gwe 31 Ion 2003 12:38 pm

SbecsPeledrX a ddywedodd:Wow - Elusive, s'neb di galw fi'n hwna or blaen.

:rolio:

Ar ba sail dwi'n elusive? Os ti'n ffeindio dy fod yn fy ngholli Di angen mae croeso i ti fy ebostio. Adarlas1927@Yahoo.co.uk.

O.N. Paid a galw fi'n hiliol. Dwi di gael digon o swadens gan ffasgwyr ar gwrthdystiadau gwrth hiliol ac wrth geisio cau lawr pencadlys y BNP i fedru lladd y bwgan yna. Dwi'n dy eitha licio di Di Angen. Dwi methu fod yn arsed esbonio canrifoedd o hanes prydain i chdi ond dwi yn ffeindio dy anwybodaeth yn eitha 'entertaining'.

Drycha - ar y peth caneuon peldroed yma. Dwi fel arfer yn cefnogi pwy bynnag sy'n chwarae Lloegr i weindio fyny bobl fel ti sy'n credu fod hawl gennyn nhw ddweud wrtha i pwy i gefnogi.

Tase Caerdydd yn mynd allan o gwpan FA Lloegr fyddwn i ddim yn cefnogi Abertawe gan eu fod nhw'n agos, dim mwy na fydde ffans Arsenal yn cefnogi Tottenham. Pam wyt ti'n disgwyl y ddyliwn i gefnogi gwlad arall jest chos mae'n agos.

Nath Brasil a'r Ariannin dim byd i geisio concro fy nghwlad a lladd fy iaith. Dydyn nhw ddim yn dwyn ein ffans na'n peldroedwyr ifanc. Paid a fod mor hawdd i dy gyffroi a fydda i ddim yn brifo dy deimladau sensitif gymaint.


Actually, dwi'n gwybod pwy wyt ti - dwi'n cofio ti'n ymddangos allan o'r blue ar cardiffcity.com rhyw flwyddyn yn ol gyda dy straeon gwych o doing the ayatollah, gweiddi ar blismyn a canu yn ystod minute silences. Hardcore mate.

Canrifoedd o hanes eh? Great. Dwi'm yn gweld beth sydd gan beth ddigwyddodd canrifoedd yn ol i wneud gyda pobl heddiw - heblaw dy fod yn credu dy fod di'n responsible am slavery, fod yr Almaenwyr ar fai am Natsiaeth.

Dwi'm yn dweud wrthot ti pwy i gefnogi. Ti'n obviously yn hardcore Bluebirds fan ers geni, a byddet ti byth yn cefnogi neb arall heblaw Cymru.

Oldham heno. I wonder os wneith rhai ganu "You're run by a paki" eto.
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 31 Ion 2003 12:44 pm

Mewn ffordd do, ond dim ond gan eu fod i fod yn Gymru. Wedi fy siomi yn hytrach na fy nigio oeddwn i. Roeddwn i wedi siomi llawer mwy o weld eu baneri BNP.

Ie dwi'n y gogledd rwan so dwi'n gorfod gwylio Oldham ar Sky. Dim ots met nai fod yn Hardcore rownd tafarndai fama :winc:

Gyda llaw dwi byth yn cofio fod ar cardiffcity.com yn son am weiddi ar heddlu. Nes i ganu "She's not Breathing anymore" pan fu farw'r fam frenhines. Ond gawn ni'r ddadl yna rhywbryd arall eh. Mae gen i waith i neud os dwi am gorffen cyn y gem heno.

Dwi ddim cweit yn siwr os oeddd sarcasm gen ti fana, ond dwi hefyd yn eitha hoff o dim peldroed yr Rhyl. Ella gawn ni beint bach distaw ar ol ryw (ai dyna'r sillafiad cywir???? Gobeithio felly!!!) gem rywbryd a gei di weld nad ydw i'n gwisgo Burberry nac yn berson anymunol.

Hwyl
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 9 gwestai

cron