Cardiff City a Glasgow Celtic

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cardiff City a Glasgow Celtic

Postiogan GlâsSW17 » Gwe 24 Ion 2003 12:41 pm

'Dwi wedi bod yn siarad 'da nifer o'm ffrindiau ynglyn a cysylltiadau rhwng y dau clwb ac mae'n rhywbeth od iawn. Mae rhai yn credu achos safbwynt gwleidyddol y clwb (un gweriniaethol) a^'r cysylltiadau gyda Iwerddon. Mae rhai eraill yn credu taw achos prif elynion Celtic yw Rangers, a gyda'i baneri union jack, mae nhw'n cynrychioli grym Prydain canolog.

Oes gan unrhywyn teimladau ynglyn a hyn?

:D
Rhithffurf defnyddiwr
GlâsSW17
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Maw 21 Ion 2003 5:27 pm
Lleoliad: De Llundain (yn anffodus)

Postiogan Aelod Llipa » Llun 03 Chw 2003 9:25 am

Pan oeddwn yn sgio yn Ffrainc mis ddiwethaf, nes i gyfarfod a chriw o Glaswegians oedd yn cefnogi Rangers. Roeddent yn gweld eu hunain fel Albanwyr ac nid fel Prydeinwyr.
Rydw i hefyd wedi clywed fod cefnogwyr Rangers yn dod a baneri Jac yr Undeb i'r gemau, felly rwyf wedi drysu.
Roeddwn i wastad yn cysidro Albanwyr i fod yn eithaf Cenedlaetholgar, fel y criw a gwrddais i yn Ffrainc.
Dwi hefyd wedi drysu.......... Llosgwch Jac yr Undeb bob tro !!!![/b]
Rhithffurf defnyddiwr
Aelod Llipa
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 334
Ymunwyd: Llun 27 Ion 2003 4:57 pm
Lleoliad: Sir Ddinbych

Re: Cardiff City a Glasgow Celtic

Postiogan Di-Angen » Maw 04 Chw 2003 10:54 pm

GlâsSW17 a ddywedodd:'Dwi wedi bod yn siarad 'da nifer o'm ffrindiau ynglyn a cysylltiadau rhwng y dau clwb ac mae'n rhywbeth od iawn. Mae rhai yn credu achos safbwynt gwleidyddol y clwb (un gweriniaethol) a^'r cysylltiadau gyda Iwerddon. Mae rhai eraill yn credu taw achos prif elynion Celtic yw Rangers, a gyda'i baneri union jack, mae nhw'n cynrychioli grym Prydain canolog.

Oes gan unrhywyn teimladau ynglyn a hyn?

:D


Dwi'm yn gweld lot o gysylltiad o Caerdydd a Celtic, i ddweud y gwir. Mae'n siwr bod loads o gefnogwyr Caerdydd yn ei hoffi am resymau cenedlaetholgar ayb, ond mae'n siwr bod yna'r un nifer sydd ddim particulary yn bothered un ffordd neu llall?

Beth ti'n meddwl am y "Cymreigeiddio" yma o CCFC? Ti'n credu gewn ni ein ailenwi i Cardiff Kelts neu rhywbeth eventually?

Dwi'n anghyfforddus iawn gyda datblygiadau tebyg. Tim o Gaerdydd ydy CCFC. Dylen ni ddim geisio cynrychioli "Welshness" fel mae Sam am weld. Mae'n cool cael clywed y PA yn dweud pethau dwyieithog, though.
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Cymreigeiddio CCFC

Postiogan GlâsSW17 » Iau 06 Chw 2003 8:48 am

Cytuno'n llwyr. Rwy wedi bod yn cefnogi city am y 11 mlynedd dwetha, ac rydw i yn teimlo'n eitha anghyfforddus ynglyn a'r ffordd mae Sam yn siarad. Rwy'n diolchgar iawn achos heb sam, mae'n debygol fydd y clwb wedi mynd i'r wal. OND, mae darlledu swn defaid cyn gemau, a'r ffordd mae'n siarad am y clwb fel cynrychilowyr Cymru yn RONG!! dydw i ddim yn credu fod yjacs a'r gogs yn cytuno o gwbwl am hyn! yn anffodus, yr unig pobol sy'n cymryd Sam o ddifri yw'r wancers sydd yn credu eu fod yn 'real welshmen', hynny yw - di-Gymraeg, gwrth-sesnig (i raddau sydd bron yn hiliol) a heb unrhyw anwybyddiaeth o hanes na diwylliant Cymru tu fas i'w tafarn Brains agosaf.
efallai bydd hi'n well i mi dechray cefnogi tim o'r prif adran cynghrair cymru!
Rhithffurf defnyddiwr
GlâsSW17
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Maw 21 Ion 2003 5:27 pm
Lleoliad: De Llundain (yn anffodus)

Postiogan SbecsPeledrX » Iau 06 Chw 2003 2:58 pm

Ffyc dwi'n teimlo'n sal. Dwi'n cytuno a ti Di Angen.

Dwi yn meddwl fod lle i codi delwedd Cymraeg y clwb ond dwi'n credu mae'r ffordd i wneud hynnu yw arwyddion dwyieithog. Llythyrau tocyn tymor dwyieithog a ballu. Fyddai ddim yn gostus nac yn waith caled pegai ei gynllunio. Dim ond trwy neud ar hap a damwain mae dwyieithrwydd yn ddrud.

Dwi ddim yn dweud fod yr iaith yn "be all and end all" o gymreictod ond fyddai dangos parch i'n heniaith yn ffordd llawer mwy adeiladol o ddangos cymreictod na rafflo blydi dafad a mynnu fod Slipshod Prior yn byta ceillie defaid!
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan SbecsPeledrX » Iau 06 Chw 2003 3:01 pm

Glas dwi'n gog sy'n cefnogi Caerdydd felly y lleia gelli di ei wneud yw dewis Y Rhyl fel dy tim Cynghrair Cymru!

:P

Dwi jyst yn ofni pan mae Rhyl a Caerdydd yn cyfarfod yn ffeinal y Premier Cup! Cai fy waldio gan y rupert the bears. lol!
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Rhyl yn y ffeinal

Postiogan GlâsSW17 » Gwe 07 Chw 2003 2:42 pm

A dyna peth arall, rwy'n credu fod y 'Premier Cup' yn top stuff! Fedrai ddim deall cefnogwyr Caerdydd sydd yn sarhau'r peth. Os ystyriwch maint yr arian sydd i'w ennill, mae'n fyddiol iawn i timau o'r Prif adran. Ac Abertawe! :D
Rhithffurf defnyddiwr
GlâsSW17
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Maw 21 Ion 2003 5:27 pm
Lleoliad: De Llundain (yn anffodus)


Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron