GlâsSW17 a ddywedodd:'Dwi wedi bod yn siarad 'da nifer o'm ffrindiau ynglyn a cysylltiadau rhwng y dau clwb ac mae'n rhywbeth od iawn. Mae rhai yn credu achos safbwynt gwleidyddol y clwb (un gweriniaethol) a^'r cysylltiadau gyda Iwerddon. Mae rhai eraill yn credu taw achos prif elynion Celtic yw Rangers, a gyda'i baneri union jack, mae nhw'n cynrychioli grym Prydain canolog.
Oes gan unrhywyn teimladau ynglyn a hyn?
Dwi'm yn gweld lot o gysylltiad o Caerdydd a Celtic, i ddweud y gwir. Mae'n siwr bod loads o gefnogwyr Caerdydd yn ei hoffi am resymau cenedlaetholgar ayb, ond mae'n siwr bod yna'r un nifer sydd ddim particulary yn bothered un ffordd neu llall?
Beth ti'n meddwl am y "Cymreigeiddio" yma o CCFC? Ti'n credu gewn ni ein ailenwi i Cardiff Kelts neu rhywbeth eventually?
Dwi'n anghyfforddus iawn gyda datblygiadau tebyg. Tim o Gaerdydd ydy CCFC. Dylen ni ddim geisio cynrychioli "Welshness" fel mae Sam am weld. Mae'n cool cael clywed y PA yn dweud pethau dwyieithog, though.