Cymru / Azerbaijan - Da iawn y 'rogia, nid glasur o bell ffordd ond nid dyna sy'n bwysig ond y 3 pwynt. Roedd yn galonogol gweld y 'kids' yn dod drwadd, ac yn dangos eu bod yn gallu dal eu tir ar y scene rhyngwladol.
Yr unig chwaraewr oedd ddim yn gyfforddus oedd Trollope,bloody awful, yn drifftio allan oi safle yn amal iawn.
Diolch i Dduw , yn edrych nol, fod gem Belgrade wedi ei ohurio. Mi fuasa 'Sparky' wedi gorfod chwarae yr un tim a orffenodd gem ddoe,(dim Savage, Delaney , Speed , Koumas, etc ) mi fuasa Mihalovich ai griw wedi malu ni. Ond rwan mae gennym y dasc o chwarae 3 gem anodd mewn rhywbeth fel 16 diwrnod, a dydy squad ni ddim digon cryf os mae pobol yn dechrau cael injuries, Yr unig 'saving grace' ydi fod o ar ddechrau ein tymor domestic, felly fydd nhw ddim wedi dechrau blino eto.
A watchwch allan am yr Eidalwyr, ennill 2-0 neithiwr yn erbyn Ffindir heb, yn ol pob son, trio (ymdrechu), gyda'i chwraewyr mawr allan wedi brifo(Del Piero a Inzaghi). 2 gol mewn 22 munud i Viera a wedyn 'foot off the gas' a just joggio a pashio yn hamddenol iw gilydd. Mae nhw yn dechrau cael ei act at ei gilydd a dwi ddim yn gweld nhw yn colli lot o bwyntiau o hyn ymlaen, felly fydd September yr 8 fed yn play off match rhwng ni a nhw, a wneith probably unionir ddau dim ar pwyntiau fydd yn gadael ni i orfod ennill yn erbyn Yougoslavia adref (ddim yn hawdd o gwbwl - cofio Paul Bodin type Scenario) oherwydd mae'r Eidal am hammro Azerbaijan yn eu gem ola nhw .