gan SbecsPeledrX » Llun 07 Ebr 2003 4:30 pm
Fedri di ddim a beio Lennie Di-Angen. Mae'r tim wedi gwella'n aruthrol ers iddo fe gymryd hi drosodd gan Corkie (He's got no brain but we don't care, Alan, Alan Cork!). Cover go iawn yn y gol, chwaraewyr o safon fel Mahon a Whalley i wella'r canol cae. OK ma Campbell di anafu ond dangosodd diwedd y tymor diwethaf beth oedd e'n gallu ei wneud. Dwi'n gwbod fod o'n lot o bres o cymharu a'r gorffennol ond dim ond miliwn o bunnoedd mae Lennie di'w wario. Campbell yw'r unig un ma di dod i fewn go iawn. Piti na gafodd o'r arian i'w wario yn lle Dorkie.
Ond, ma rhaid fi gyfaddef, mae'r pwysau'n dechrau dangos bellach a dwi'n amau fod y tim yma'n digon da yn digon cyson i enill drodd yn y gemau ail gyfle!