Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.
Hwrê! Mae Wrecsam wedi gwneud hi, i'r ail difisiyn. Ond fy nheimlad i yw, fod nhw'n rhy dda i'r trydydd ond ddim digon da i adael yr ail. Mae'r Barret yma'n edrych fel y wneith o gymyd Wrecsam yn gweddol bell, ond siwr neith o symud oherwydd y pres, cyn i Wrecsam fod mewn sefyllfa i ddenu mwy o chwaraewyr.
huwwaters a ddywedodd: fy nheimlad i yw, fod nhw'n rhy dda i'r trydydd ond ddim digon da i adael yr ail.
os arhosw ni yn yr ail gynrair am dymor neu ddau, fydd na ddigon o arian i gryfhau a gwella'r y tim, a pwy a wyr, ella welwn ni Wrexam yn y gynrhair cynta yn fuan.
Nid Gwyddonydd ydw i, a sgenaim beibl yn y ty, dwin enaid sydd yn troedio!
Dwi'n edrych ymlaen at weld Wrecsam yn ôl yn 'Prenton Park' (Tranmere) , Wrecsam ydy tim fy Nhad a Thranmere ydy tim fi.
Roedd dipyn o awyrgylch fel gêm 'darbi' dwi'n cofio pan chwaraeom nhw.
Beth bynnag llongerfarchiadau i'r bois mewn coch, mae lle bach o hyd yn fy nghalon iddyn nhw.
"You're a scouser, an ugly scouser,
you're only happy on giro day!
You're dad's out thieving,
You're mam's drug dealing,
Please don't take my hub caps away!"