Yn syml iawn, newid ei gynllun bob hyn a hyn.
Wrth bori trwy ystadegau y sustem hysbysebu, dw i wedi sylwi bod hysbysebion newydd yn enu lot mwy o sylw na'r hen rai, ond mae'r un effaith i'w gweld gyda cynllun newydd hysbyseb sy'n rhedeg ers sbel.
Os dych chi'n hysbysebu ar y maes eisioes, does dim tâl arnoch chi i newid eich hysbyseb i gynllun newydd, neu i ychwanegu hysbysebion newydd i'ch ymgyrch presennol.
Cysylltwch â fi trwy neges sydyn neu ebost (nicdafis@gmail.com) os oes diddordeb.
Cofiwch bod rhaid i'r hysbysebion fod yn 468x60 neu'n 125x125 picsel (tip bach arall - mae lot llai o'r rhai bach sgwar yn y sustem, felly maen nhw'n ymddangos yn fwy aml.)