Tudalen 1 o 1

Sut i gael mwy o sylw i'ch hysbyseb

PostioPostiwyd: Mer 23 Awst 2006 10:14 am
gan nicdafis
Yn syml iawn, newid ei gynllun bob hyn a hyn.

Wrth bori trwy ystadegau y sustem hysbysebu, dw i wedi sylwi bod hysbysebion newydd yn enu lot mwy o sylw na'r hen rai, ond mae'r un effaith i'w gweld gyda cynllun newydd hysbyseb sy'n rhedeg ers sbel.

Os dych chi'n hysbysebu ar y maes eisioes, does dim tâl arnoch chi i newid eich hysbyseb i gynllun newydd, neu i ychwanegu hysbysebion newydd i'ch ymgyrch presennol.

Cysylltwch รข fi trwy neges sydyn neu ebost (nicdafis@gmail.com) os oes diddordeb.

Cofiwch bod rhaid i'r hysbysebion fod yn 468x60 neu'n 125x125 picsel (tip bach arall - mae lot llai o'r rhai bach sgwar yn y sustem, felly maen nhw'n ymddangos yn fwy aml.)

PostioPostiwyd: Mer 23 Awst 2006 10:28 am
gan Tegwared ap Seion
Ydi'r rhai sgwar bach yn cael eu clicio cyn amled a'r rhai mawr? Dwi'n meddwl mai unwaith ella dwywaith erioed dwi 'di clicio ar rheiny. Ond ella bod hynny gan bod llai ohonynt, fel ti'n deud.

PostioPostiwyd: Mer 23 Awst 2006 11:14 am
gan nicdafis
Mae'n anodd cymharu, gan eu bod nhw'n hysbysebu pethau gwahanol, ond mae'n edrych fel bod GCT (graddfa clicio trwyddo, CTR) y rhai fel Clwb Ifor a Galeri yn debyg, neu'n well na'r rhai seis baner a ddechreuodd ambyti'r un amser. Mae'r raddfa yn tueddu cwympo dros amser, oni bai am y rhai (fel Siwl Di Mwl) sy'n newid o bryd i'w gilydd.

Yr hysbyseb gyda'r GCT uchaf, gyda'r llaw, yw'r un am Glaw Cynnar. A fyddai'n deg i ddweud taw hwnna yw un o'r hysbysebion pertaf hefyd? ;-)