Hysbysebu ar maes-e.com

Mae prynu hysbysebion ar maes-e yn sicrhau dyfodol y wefan, ac yn ffordd wych o gyrraedd cynulleidfa eang newydd. Mae'r holl wybodaeth ar gael yma.
Rheolau’r seiat
Mae prynu hysbysebion ar maes-e yn sicrhau dyfodol y wefan, ac yn ffordd wych o gyrraedd cynulleidfa eang newydd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Hysbysebu ar maes-e.com

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 16 Ion 2008 12:00 am

Hysbysebu ar maes-e.com

Mae hysbysebu ar maes-e.com yn ffordd fforddiadwy iawn o gyrraedd cynulleidfa o siaradwyr Cymraeg byd-eang. Gall brynu hysbys ar y maes helpu hybu eich gwefan, lledu gair am ddigwyddiad, hysbysebu swyddi gwag, neu godi ymwybyddiaeth cyffredinol o'ch cynnyrch, sefydliad, neu wasanaeth.

Ac i gyd am £10 y mis.

Pa fath o hysbyseb?

Ar hyn o bryd, mae dau fath o hysbyseb ar maes-e, sef baner i fynd ar frig pob tudalen (graffeg hirsgwar, 468x60 picsel) neu faner mwy o faint i fynd ar waelod pob tudalen (graffeg hirsgwar, 728x90 picsel).

Derbynnir graffeg mewn fformat JPG, GIF neu PNG, ac mae rhai sy wedi'u hanimeiddio'n iawn.

Ar hyn o bryd mae un baner 468x60 picsel ac un baner 728x90 picsel yn ymddangos ar bob tudalen o'r wefan.

Os nad oes gyda chi wefan, mae modd cychwyn edefyn yn cynnwys manylion am eich cwmni, neu unrhyw wybodaeth arall, a rhoi dolen o'r faner at yr edefyn.

Os ydych chi am hysbysebu swyddi, gellir rhoi dolen o'r faner at adran o'ch wefan sy'n cynnwys manylion y swydd, neu gellir cychwyn edefyn yma yn cynnwys holl fanylion y swydd, a gosod dolen o'r faner at yr edefyn. Gall unrhyw gwmni sydd eisoes wedi talu am hysbysebu ar maes-e, osod manylion unrhyw swyddi gwag yma am ddim yn ystod cyfnod yr hysbyseb

Faint?

Mae pob hysbysebwr ar y maes yn talu £10 y mis. Caiff hysbysebwyr sy'n talu am 12 mis ymlaen llaw ostyngiad a byddant yn talu dim ond £100.

Darlunio hysbysebion

Chi, yr hysbysebwr, fydd yn gyfrifol am gynllunio'r hysbyseb. Gallwn ni neud rhywbeth drosoch chi, ond nid oes sgiliau cynllunio graffeg gyda ni.

Sut mae talu?

Unwaith bydd eich hysbyseb wedi'i dderbyn, cewch chi anfoneb am y cyfnod dan sylw. Bydda angen talu am bob hysbyseb gyda siec, a bydd yr hysbyseb yn mynd yn fyw unwaith bydd y siec wedi clirio. Dyn ni'n gofyn i chi brynu gwerth £20, sef dau fis, o hysbysebion oleiaf ar y tro.

Mwy nag un hysbyseb?

Rydych chi'n talu am "slot" hysbysebu, a cewch chi gynnwys mwy nag un hysbyseb yn y slot hwnnw. Er enghraifft, os ydych chi'n trefnu gigs, cewch chi osod hysbyseb gwahanol am bob gig; efallai bydd tri neu bedwar yn rhedeg yr un pryd. Does dim tâl ychwanegol am hyn: cewch chi hysbysebion tra bod credyd gyda chi. Mae'n syniad da i newid/ychwanegu at eich hysbysebion o bryd i'w gilydd er mwyn denu mwy o ddiddordeb.

Faint o argraffiadau?

Rydym ni'n ceisio sicrhau bod pob "slot" yn cael ei arddangos o leiaf 10,000 o weithiau bob mis.

Hysbysebu ar wefannau Cymraeg eraill

Ar hyn o bryd mae rhai o'n hysbysebion yn ymddangos ar wefannau eraill - does dim tâl ychwanegol am hyn.

Mwy o gwestiynnau?

Cysylltwch trwy ebost - hedd@maes-e.com - i archebu slot hysbysebu, neu am fwy o wybodaeth. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Hysbysebu ar maes-e.com

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 13 Chw 2008 12:04 am

Wedi diweddaru hwn gan mai hysbysebion maint 468x60 picsel fydd yn ymddangos ar dop pob tudalen a maint 728x90 picsel ar waelod pob tudalen o nawr ymlaen.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Dychwelyd i Hysbysebu ar maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron