Problemau gyda maes-e

Mae prynu hysbysebion ar maes-e yn sicrhau dyfodol y wefan, ac yn ffordd wych o gyrraedd cynulleidfa eang newydd. Mae'r holl wybodaeth ar gael yma.
Rheolau’r seiat
Mae prynu hysbysebion ar maes-e yn sicrhau dyfodol y wefan, ac yn ffordd wych o gyrraedd cynulleidfa eang newydd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Problemau gyda maes-e

Postiogan Hazel » Mer 07 Gor 2010 7:52 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:
xxglennxx a ddywedodd:Dwi newydd geisio darllen ambell i byst dim ond i gael yr ymateb, "Dyw’r pwnc yna ddim yn bodoli."

Jyst ichi wybod :)
Os allet ti roi wybod pa rai / p'un?


Newydd ddarganfod rhai hefyd lle mae'n dweud neges ddim yn bodoli. Pob un yma:

viewforum.php?f=14 'Croeso a Chyfarchion' e.e. hwn viewtopic.php?f=14&t=28376


Fi hefyd, y bore 'ma. Dim ond unwaith. Nid allaf i'n dweud ble nawr. Sori.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Problemau gyda maes-e

Postiogan Duw » Mer 07 Gor 2010 8:45 pm

OK, wedi dod o hyd i'r broblem. Ni wnaeth y diweddariad tabl 'posts' ddigwydd yn gywir. Mae llawer o byst ar goll i gymharu a'r tabl wreiddiol. Mae'r topigau i weld fel eu bod yn iawn - jest ambell bost. Roedd yn rhaid i mi ei ddiweddaru gan law (bron a bod!) - rhyw 380000 o byst. Edrychaf am ffordd arall o ddiweddaru sydd yn caniatau i mi ei ddiweddaru sydd ddim yn tarfu ar gyfyngiad maint y ffeil i'w lanlwytho. :(

Allai ofyn am amynedd pawb? Dwi'n gorfod gwneud yr holl gwaith hwn tu allan i'n swydd llawn amser - felly anodd yw gweld sut gallaf ei gyflawni cyn diwedd y penwythnos. Gwnâf fy ngorau. :ffeit:

Diolch.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Problemau gyda maes-e

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 08 Gor 2010 7:17 am

Diolch Duw. Popeth i weld yn gweithio'n iawn :-)
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Problemau gyda maes-e

Postiogan Duw » Gwe 09 Gor 2010 3:09 pm

OK, dwi wedi tracio lawr rhyw 58,000 o byst a aeth ar goll. Wedi eu lanlwytho. Glitch??

Plîs rhowch wybod os oes rhagor o byst ar goll. Roedd hwn yn weddol hawdd i'w dracio oherwydd roedd y pyst mewn bloc. Bydd ambell post fan hyn fan draw yn llawer mwy anodd i'w tracio. Diolch am eich cydweithrediad.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Problemau gyda maes-e

Postiogan sian » Gwe 09 Gor 2010 3:22 pm

Hwn ar goll dwi'n meddwl - o Digwyddiadau:
CWRS CYMRAEG ADDAS AR GYFER Y CYFRYNGAU
gan RIB » Llun Meh 21, 2010 2:25 pm

Hefyd, os ydw i'n treio chwilio am rywbeth a'r amser mewngofnodi wedi dod i ben, mae'n dweud rhywbeth fel "Does gennych chi ddim hawl i chwilio".
Fyddai hi'n well dweud rhywbeth fel "Rhaid i chi fewngofnodi er mwyn chwilio"?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Problemau gyda maes-e

Postiogan Hazel » Gwe 09 Gor 2010 3:25 pm

Duw a ddywedodd:OK, dwi wedi tracio lawr rhyw 58,000 o byst a aeth ar goll. Wedi eu lanlwytho. Glitch??

Plîs rhowch wybod os oes rhagor o byst ar goll. Roedd hwn yn weddol hawdd i'w dracio oherwydd roedd y pyst mewn bloc. Bydd ambell post fan hyn fan draw yn llawer mwy anodd i'w tracio. Diolch am eich cydweithrediad.


viewtopic.php?f=9&t=28478
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Problemau gyda maes-e

Postiogan Duw » Gwe 09 Gor 2010 8:56 pm

Diolch chi'ch dwy. Mae chwilio wedi'i droi bant os nac ydych wedi mewngofnodi. Rydym wedi gorfod ystyried taw ymosodiadau trwy 'chwilio' sydd wedi bod yn gyfrifol am y safle'n wynebu 'meltdown'. Stim un o'r gweisteiwyr diweddar (teimlo fel cannoedd o'r diawled!) lwyddo i ddatrys ein problem. Hyd yma, mae'n edrych fel bod yr ymosiadau DDOS (neu beth bynnag oedden nhw) wedi'u hatal.

Parthed y pyst cynt, dwi wedi tracio rhyw 2000 post ychwanegol fanyn a fanco. Mae'r rhain wedi'u llwytho nawr. Gobeithio bo'r cyfan yn iawn nawr. Parhaf i fonitro, er croesawaf mewnbwn aelodau parthed pyst coll.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Problemau gyda maes-e

Postiogan sian » Gwe 09 Gor 2010 9:17 pm

Diolch yn fawr - gwerthfawrogi dy waith yn fawr!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Problemau gyda maes-e

Postiogan Duw » Gwe 09 Gor 2010 9:43 pm

Diweddariad: fel roeddwn yn gofidio, mae pyst canol Mehefin hyd at ein hailymddangosiad wedi'u colli - posib yn barhaol. Newidiom y gwesteiwr tua'r amser hwn. Roeddent mor ddi-siap ag wn i beth. Yn anffodus, nid oedd modd tynnu gwybodaeth cyflawn o'r gronfa ddata yn y cyfnod hwn. Cawsom ein taflu allan yn ddi-seremoni oherwydd yr ymosodiadau yr oeddwn yn eu hwynebu. Dau fys i nhw hefyd! :x

Gallaf ond ymddiheuro am hyn. Yr unig gysur yw bod ychydig iawn o byst wedi'u cyflwyno yn y cyfnod hwn oherwydd y problemau ennill mynediad i'r safle - gall fod llawer mwy difrifol. Posib gwnewch ddarganfod ambell post coll o ganol edefyn hefyd - unrhyw bost reli a gafodd ei gyflwyno yn y cyfnod uchod. :ing: Short rope - long drop.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Problemau gyda maes-e

Postiogan Duw » Mer 14 Gor 2010 3:46 pm

Diweddariad - dwi wedi datrys problem 'Pynciau Bywiog'. Dylai fod yn gweithio nawr. Os oes anhwysterau, rhowch wybod yma neu drwy NB.

I adael neges yma - ewch drwy is-seiad 'Croeso a Chyfarchion' a dewis 'Problemau gyda maes-e'.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

NôlNesaf

Dychwelyd i Hysbysebu ar maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai