gan Duw » Llun 13 Medi 2010 9:42 pm
SBAM!
Efallai bo rhai ohonoch wedi sylwi ar lu o sbamwyr yn ddiweddar. Yn anffodus, mae rhai ohonynt wedi mewngofnodi gan law yn hytrach na defnyddio spambots, naill ai ni, neu mae'r Captcha wedi'i gracio. Beth bynnag, dwi wedi gosod cwestiwn yn y Gymraeg at y sgrin cofrestru i geisio ag atal sbamwyr rhag ymaelodi. Mae'r defnydd hwn dal yn arbrofol, felly byddwn yn ddiolchgar os allech chi anfon NB i mi os ydych chi'n dod ar draws unrhyw beth sy'n edrych fel sbam. Diolch
//GER LLAW
Oherwydd y cwestiwn hwn, fe welwch chi blwch ychwanegol yn eich proffil (ugain tynnu pedwar) - stim angen i chi wneud unrhyw beth ynghylch â hwn - anwybyddwch e.