Tudalen 3 o 6

PostioPostiwyd: Maw 11 Ebr 2006 7:21 am
gan Chwadan
Mynd adre heno am chydig ddyddia fel mae'n digwydd :D

PostioPostiwyd: Mer 12 Ebr 2006 12:02 am
gan Mali
Hwyl fawr i ti , a mwynh

PostioPostiwyd: Iau 27 Ebr 2006 4:10 pm
gan Mali
Cymro arall ar wasgar....croeso i Arffinwe ! :)

PostioPostiwyd: Gwe 05 Mai 2006 3:57 pm
gan Mali
Taith arall, yr holl ffordd o Victoria B.C i Gaeredin, Yr Alban.
.....a chroeso mawr i garik . :)

PostioPostiwyd: Sad 13 Mai 2006 9:43 pm
gan Mali
Da ni'n dal i drafeilio bois.....y tro yma i Gateshead at Macsen.
Croeso i'r Cylch. :)

PostioPostiwyd: Sad 13 Mai 2006 9:59 pm
gan Macsen
I fod yn gwbwl onest er fy mod i wedi bod 'ar wasgar' am bedwar mis bellach yn byw yn Noocastle, dim ond am wythnos arall ydw i yma cyn symud nol i Gymru felly bydd fy amser yn y cylch yma'n fyr iawn! :)

PostioPostiwyd: Maw 27 Meh 2006 7:11 pm
gan Mali
Ar y ffordd eto , a'r tro yma i Durham at Aranwr!
Croeso i'r Cylch Aranwr . :)

PostioPostiwyd: Iau 06 Gor 2006 4:16 pm
gan Mali
Ddim yn siwr i ble da ni'n crwydro rwan , ond croeso i ti Mephistopheles. :)

PostioPostiwyd: Sul 09 Gor 2006 4:42 pm
gan Aranwr
Hei, diolch am y croeso Mali! Dim ond rhyw chwarter awr lawr hewl ydw i, yn Durham, o Macsen yn Gateshead! (... er mod i ar wylie Haf ar hyn o bryd ac felly sawl can milltir i ffwrdd yn Sir Benfro!) :D

PostioPostiwyd: Sul 13 Awst 2006 10:35 pm
gan Mali
Ymlaen a ni i Frwsel ac at Dafydd ap Iago!
Croeso .. :)