Tudalen 5 o 6
Postiwyd:
Maw 26 Rhag 2006 3:45 pm
gan gronw
diolch am y croeso Mali! yng nghymru dwi'n byw, dwi jyst yma i fusnesa..!
Postiwyd:
Maw 26 Rhag 2006 11:27 pm
gan Mali
gronw a ddywedodd:diolch am y croeso Mali! yng nghymru dwi'n byw, dwi jyst yma i fusnesa..!
he he
Mae'r croeso run fath !
Postiwyd:
Gwe 02 Maw 2007 11:59 pm
gan Mali
Taith i Guildford rwan , a chroeso i Boibrychan.
Lle mae Guildford ogydd?
Postiwyd:
Maw 06 Maw 2007 2:25 am
gan Boibrychan
Diolch
Sneb yn gwybod!
Tua 40 munud ar y tren i'r dde orllewin o lunden, ddim mor bell o Reading ac i'r gogledd o Portsmouth!
So ddim yn bell o Lludain a dwi'n trio gwneud yn fawr o unrhyw gyfle i fynd yno gan ei fod dipyn bach mwy ecseiting na'r dre fach yma!
Postiwyd:
Gwe 20 Ebr 2007 3:49 pm
gan Mali
Reit ...da ni'n mynd ar ryw fath o 'mystery tour' rwan at Dafydd Iwanynyglaw.
Croeso i ti ble bynnag ti'n byw !
Postiwyd:
Maw 24 Ebr 2007 1:56 pm
gan Dafydd Iwanynyglaw
Dee all kin vower.
Dwi'n byw yn Ngorllewin Swydd Efrog - cyn hynny wedi byw yn Rutland, yr unig le sydd yn fwy od nag Eryri.
Postiwyd:
Gwe 22 Meh 2007 10:39 pm
gan Mali
Da ni'n cael mynd ar daith faith unwaith eto , o Orllewin Swydd Efrog i rywle yn America at Cwmdonkin Special.Croeso i ti...
Ymhle yn America wyt ti ar hyn o bryd?
Postiwyd:
Sad 23 Meh 2007 3:07 am
gan Mali
Yn aros ar yr un un cyfandir tro yma at Arwen , hefyd at Carwyn yn Arizona.
Croeso i'r ddau ohonoch.
Cymry Ar Wasgar
Postiwyd:
Sad 23 Meh 2007 3:16 am
gan CarwynLloyd
Diolch am y croeso! Mae wedi cymeryd amser i mi dod i hyd i fy password. Fy prif problem efo fforwms siarad ma!!
Ond rwan dwi ychydig bach mwy drefnus. Dwi bron llawn amser chwilio am Cymry alltud a trio helpu nhw dod i hyd i rhai eraill sydd byw yn cyfagos. Mae rhywun o Bala yn pob gornel o'r byd!! Pawb dal ati!!!
Postiwyd:
Sad 23 Meh 2007 8:26 am
gan Hazel
Croeso, Carwyn.Gobeithio eich bod chi'n mwynhau Maes-e.
Hazel