Delwedd Cymru tu allan i Brydain

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Delwedd Cymru tu allan i Brydain

Postiogan Socsan » Sad 11 Maw 2006 4:39 pm

Ges i sioc pa mor styfnig ydi rhai pobl dwi wedi gyfarfod tu allan i'r Deyrnas Unedig ynglyn a chredu mai nid "Lloegr" ydi enw Prydain. Dwi wedi egluro tua 1,000 o weithiau mae'n siwr fod yna 4 gwlad o fewn y DU, ac mai dim ond un ohynyn nhw ydi Lloegr.

Cymhorthydd iaith mewn Ysgol Uwchradd yn Ne Sbaen ydwi ar y funud, a rhan o fy ngwaith ydi siarad am fywyd yn y DU hefo'r disgyblion. Ar y diwrnod cyntaf roedd rhaid i mi egluro ble oedd Cymru, ac mai Cymraeg yw fy iaith gyntaf i ayyb. Er fod yr athrawesau yn gwybod y sdori yn barod, roeddyn nhw'n cyfieithu i'r disgyblion fod Cymru i Loegr yr un fath a Catalunia i Sbaen (h.y. jyst ardal sydd a iaith eu hunain). Tydi o ddim siwr! Dim ots faint o weithiau roeddwn yn egluro, yr un fyddai'r cyfieithiad i'r Sbaeneg bob tro.

Mae'n debgyol mai'r rheswm eu bod methu derbyn mai nid rhan o Loegr yw'r Alban a Chymru yw oherwydd nad ydi delwedd yr un o'r ddwy wlad yn gryf iawn yn Ewrop - tydyn nhw ddim wedi clywed ryw lawer amdanynt, felly maent yn assiwmio nad ydynt yn bwysig. Mae'n fy nigalonni a bod yn onest, dwi'n teimlo fel fy mod yn cwffio yn erbyn ryw for mawr pan ma rywun yn deud "Gales? Donde esta?" bob tro dwi'n deud o ble dwi'n dod... :(

Beth yw profiadau pawb arall? Gwell na f'un i gobeithio!
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Postiogan Mali » Sad 11 Maw 2006 5:24 pm

Yr un peth yn wir yma hefyd .....ac fel ti'n deud, y dueddiad ydi i bobl feddwl mai dim ond un gwlad ydi Prydain, a'r wlad honno ydi Lloegr. Dwi 'di gorfod egluro sawl gwaith fod Cymru yn wlad arwah
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Delwedd Cymru tu allan i Brydain

Postiogan Tegwared ap Seion » Sad 11 Maw 2006 7:37 pm

Socsan a ddywedodd:Mae'n debgyol mai'r rheswm eu bod methu derbyn mai nid rhan o Loegr yw'r Alban a Chymru yw oherwydd nad ydi delwedd yr un o'r ddwy wlad yn gryf iawn yn Ewrop - tydyn nhw ddim wedi clywed ryw lawer amdanynt, felly maent yn assiwmio nad ydynt yn bwysig.


Wyt ti'n credu bod hyn yn fwy gwir i Gymru na'r Alban ynteu ydi'r sefyllfa'n debyg i'r ddwy wlad?
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Socsan » Sad 11 Maw 2006 10:34 pm

Wel tydwi ddim yn gwybod yn iawn, gan mai'r unig bryd y byddaf yn cyfeirio at yr Alban ydi pan dwi'n rhestru gwledydd y DU er mwyn egluro mai nid "Lloegr" ydi enw'r ynys...

Dwi'n meddwl ei fod yn wir fod mwy o bobl wedi clywed am yr Alban nag am Gymru, ond yn anffodus maen nhw wedi cymryd mai rhan o Loegr ydio. Dim ond fy mhrofiad i ydi hyn cofia - eisiau gwybod oeddwn i os oedd rhywun arall wedi cael profiad gwahanol. Efallai mewn ardaloedd Sbaeneg eraill fel y Wlad Basg neu Gatalunia fod y cenedlaetholwyr yn eu mysg yn fwy tebygol o wybod am y gwahaniaeth, oherwydd y tebygolrwydd gyda sefyllfaoedd eu iaithoedd nhw...wnim wir.
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Postiogan Tegwared ap Seion » Sad 11 Maw 2006 10:57 pm

Ia digon posib. O'm profiad i, mae mwy yn ymwybodol, wel ella dim ymwybodol, ond yn cydnabod bod yr Alban yn "arwahanach" i Loegr nag ydi Cymru. Mae'n debyg mai rhesymau hanesyddol sydd tu
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan docito » Llun 13 Maw 2006 9:48 am

Ma'n wir bod y mwyafrif o pobl ar draws y byd yn ystyried Lloegr i fod y term am Brydain yn gyfan gwbl a bod Cymru yn rhan o Loegr.
Odd hyn yn arfer wylltio'n ofnadwy. Ond yn ddiweddar rwy dechre meddwl 'Pam ffyc dyle nhw wybod y gwahaniaeth rhwng y ddau!!!' Does gen i ddim ffycin syniad am sefyllfa cenedlaetholdeb affrica ac rwy'n siwr y baswn i'n rhoi indiaid cyntefig Bolivia yn yr un blwch a gweddill trigolion y wlad. Bellach rwy'n ymfalchio ar y cyfle i addysgu pobl ynghlyn a'r wlad rwy'n falch ohoni. Pam bod pobl yn gwneud y camgymeriad na'i jyst esbonio'r gwahaniaeth mewn ffordd syml.

Ma un o fy atgofion melysaf ynghlyn a Chymru yn dod o pan nes i weithio mewn cartref i bland amddifad yn Buenos Aires. Doedd y plant hyn yn methu sgwennu ond odd nifer wedi clywed am David Beckham a 'Inglaterra'. O'n i'n ddigon hapus i nhw neud y cysylltiad hyn da fi. beth bynnag nes i rhoi gwers daearyddol i nhw ar faneri cenedlaethol. Fe rhedo ni allan o goch a gwyrdd o fewn hanner awr. Roedd pob un plentyn yn ymladd i gael peintio'r ddraig goch achos ma hwna oedd y banner mwya cwl o'n nhw byth di gweld. Bellach ma'r plant yn fy nghofio fel 'Docito de Gales el pais de Dragon!' (Docito o Gymru - gwlad y ddraig)
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Tegwared ap Seion » Llun 13 Maw 2006 4:16 pm

Ooo ciwt! :)Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Lôn Groes » Llun 13 Maw 2006 5:01 pm

Fuaswn i ddim yn colli llawer o gysgu dros y camargraff cyffredin mai England ydi Britain.
Anwybodaeth a diffyg diddordeb sydd wrth wraidd hyn i gyd. A Duw a'n helpo mae 'na ddigonedd o'r elfennau yma yn ein byd ni.
Synnwn i ddim ein bod ni'r Cymry hefyd yr un mor euog ac yr un mor anwybodus a digyffro am gyflwr gwledydd eraill.
Ond rhaid imi gyfaddef mae'r disgrifiad o Gymru fel: 'jyst ardal gyda'i hiaith ei hun' yn taro'n reit agos i'r gwir ac yn rhoi halen ar y briw rhywsut.
Hwyrach y gallwn ddweyd yr un peth am Quebec yn Canada.
Ond y gwir ydi mae Quebec fel talaith yn mwynhau mwy o hunan lywodraeth na Chymru fel gwlad.
Ac fel hyn y bydd hi hefyd i'r mwyafrif sy'n edrych i mewn arnom.
Mae gwlad heb ei Senedd ei hun; gwlad heb lywodraeth dros ei thynged ei hun yn wlad ddigon od i'r mwyafrif yn Ewrop.
Ond ar y funud yr hyn sy'n bwysig yw i Gymru, er gwaetha ei diffygion gwleidyddol, barhau i gadw ei chymeriad unigryw o fewn y Deyrnas Unedig ac ymhlith gwledydd y byd.
Ac nid Senedd sy'n bwysig bob amser chwaith. Mae iaith yn bwysicach, a dyma sydd yn ein gwneyd yn wahanol ac yn unigryw.
Mae Seneddau yn bymtheg y dwsin yn Ewrop ond does ond un iaith Gymraeg.
Y rhyfeddod yw bod yr iaith a'n diwylliant wedi parhau cyhyd a ninnau 'dim ond ardal efo'n hiaith ein hunain'.
Boed ini felly ymladd a goleuo tywyllwch pobl am Gymru pa le bynnag y byddom efo llond c
'.............Yna heb frys na braw
Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib;
Digwyddodd,darfu,megis seren wib.'
Lôn Groes
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Sul 18 Gor 2004 11:31 pm
Lleoliad: Glannau'r Tawelfôr: Canada

Postiogan Mali » Llun 13 Maw 2006 7:07 pm

docito a ddywedodd:
Ma un o fy atgofion melysaf ynghlyn a Chymru yn dod o pan nes i weithio mewn cartref i bland amddifad yn Buenos Aires. Doedd y plant hyn yn methu sgwennu ond odd nifer wedi clywed am David Beckham a 'Inglaterra'. O'n i'n ddigon hapus i nhw neud y cysylltiad hyn da fi. beth bynnag nes i rhoi gwers daearyddol i nhw ar faneri cenedlaethol. Fe rhedo ni allan o goch a gwyrdd o fewn hanner awr. Roedd pob un plentyn yn ymladd i gael peintio'r ddraig goch achos ma hwna oedd y banner mwya cwl o'n nhw byth di gweld. Bellach ma'r plant yn fy nghofio fel 'Docito de Gales el pais de Dragon!' (Docito o Gymru - gwlad y ddraig)


Difyr!
Ydi , mae'n rhaid cyfaddef fod y Ddraig Goch yn 'faner cŵl' iawn. Ac hefyd yn symbol cryf y medr pobl ei adnabod a'i gysylltu
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Tegwared ap Seion » Llun 13 Maw 2006 7:16 pm

Gyda criw o Eidalwyr yng Ngwlad Pwyl 2 haf yn
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Nesaf

Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai

cron