Ges i sioc pa mor styfnig ydi rhai pobl dwi wedi gyfarfod tu allan i'r Deyrnas Unedig ynglyn a chredu mai nid "Lloegr" ydi enw Prydain. Dwi wedi egluro tua 1,000 o weithiau mae'n siwr fod yna 4 gwlad o fewn y DU, ac mai dim ond un ohynyn nhw ydi Lloegr.
Cymhorthydd iaith mewn Ysgol Uwchradd yn Ne Sbaen ydwi ar y funud, a rhan o fy ngwaith ydi siarad am fywyd yn y DU hefo'r disgyblion. Ar y diwrnod cyntaf roedd rhaid i mi egluro ble oedd Cymru, ac mai Cymraeg yw fy iaith gyntaf i ayyb. Er fod yr athrawesau yn gwybod y sdori yn barod, roeddyn nhw'n cyfieithu i'r disgyblion fod Cymru i Loegr yr un fath a Catalunia i Sbaen (h.y. jyst ardal sydd a iaith eu hunain). Tydi o ddim siwr! Dim ots faint o weithiau roeddwn yn egluro, yr un fyddai'r cyfieithiad i'r Sbaeneg bob tro.
Mae'n debgyol mai'r rheswm eu bod methu derbyn mai nid rhan o Loegr yw'r Alban a Chymru yw oherwydd nad ydi delwedd yr un o'r ddwy wlad yn gryf iawn yn Ewrop - tydyn nhw ddim wedi clywed ryw lawer amdanynt, felly maent yn assiwmio nad ydynt yn bwysig. Mae'n fy nigalonni a bod yn onest, dwi'n teimlo fel fy mod yn cwffio yn erbyn ryw for mawr pan ma rywun yn deud "Gales? Donde esta?" bob tro dwi'n deud o ble dwi'n dod...
Beth yw profiadau pawb arall? Gwell na f'un i gobeithio!