Cymry ar wasgar...yn lle?

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymry ar wasgar...yn lle?

Postiogan Socsan » Sad 11 Maw 2006 5:20 pm

Meddwl fysa hi'n neis cael edefyn ble allwn ni gyd ddeud ble yn union yn y byd ydan ni, ers pryd, a pam ydan ni yno ayyb. Wedyn fydd gan bawb gwell syniad ynglyn a'r cyd-destun mae pawb arall yn cyfrannu ohono...

Felly dowch yn eich blaenau, ble yn y byd ydach chi! :)
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Postiogan Socsan » Sad 11 Maw 2006 5:26 pm

Reit, wel, dwi yn Murcia yn Ne (ish) Sbaen.

Dwi yma ers mis Medi 2005, ond byddaf yn dychwelyd i Gymru yn mis Mehefin cyn mynd yn ol dros Glawdd Offa am y coleg yn Lerpwl i orffen fy ngradd yn Sbaeneg a Ffrangeg (felly byddaf dal yn gywmys i fod yn aelod o'r cylch!)

Fel dwi wedi egluro mewn edefyn arall yn barod, dwi yma fel cymhorthydd iaith yn gweithio mewn Ysgol Uwchradd. Prif bwrpas fy arhosiad yw i wella fy Sbaeneg - wedi bod yn gymharol lwyddianus hyd yma. Ond fel canlyniad o siarad Sbaeneg drwy'r amser, pan dwi'n dod i drio siarad Ffrangeg cwbwl sy'n dod allan o fy ngheg ydi geiriau Sbaeneg hefo acen Ffrangeg! Dwi'n dechrau panicio rwan - fydd *rhaid* i fi fynd i Ffrainc am wyliau haf yma i atgoffa fy hun dwi meddwl...diar mi, y pethau mae'n rhaid i ni wneud! :D
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Postiogan Tegwared ap Seion » Sad 11 Maw 2006 7:49 pm

Difyr! Myfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt (neu Caer-grawnt gan Krustysnacks :winc: ) ydw i. Dwi'n gwneud cwrs mewn Peirianneg...i mi gael bod yn beiriannydd! Yma ers mis Hydref dwytha, gobeithio gai aros tan Mehefin 2009! Mae'r tymor yn gorffen ddydd Mercher nesa' a dwi am fynd am dro i Gaerdydd dydd Sadwrn, cyn hwylio 'nol am y gogladd pell :)Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Cymry ar wasgar...yn lle?

Postiogan Mali » Sad 11 Maw 2006 7:52 pm

Socsan a ddywedodd:
Felly dowch yn eich blaenau, ble yn y byd ydach chi! :)http://blogmali.blogspot.com/
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Tegwared ap Seion » Sad 11 Maw 2006 8:12 pm

Hei, cofiwch am fap maes-e! Angen mwy o'r Cymry gwasgar yma wir, dim ond 5 sydd!
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Mali » Sad 11 Maw 2006 10:26 pm

Tegwared ap Seion a ddywedodd:Hei, cofiwch am fap maes-e! Angen mwy o'r Cymry gwasgar yma wir, dim ond 5 sydd!


Diolch am gyfeirio ni at hwn Teg....wyddwn i ddim byd amdano :wps:
Newydd ychwanegu ato !
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Blewyn » Sul 12 Maw 2006 12:04 am

Yn Bahrain.
Ers dwy flynedd.
Achos fod Saudi Arabia wedi mynd braidd yn beryg.

:-)http://www.omanhash.com
http://blewog.blogspot.com
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Arffinwé » Gwe 12 Mai 2006 7:18 pm

Dwi mewn coleg yng nghanol y goedwig, ar ochr Pedder Bay, ger Metchosin, yn BC Canada, ond gna nad oes ned heblaw am efallai mali yn gwbod lle mae fama, dwi'n jest Deutha pawb mod I'n Victoria BC, Canada (sydd tua 45 mun - 1 awr i ffwrdd)

Yma yn y coleg ers dwy flynedd bellach, ond yn graddio menw pythefnos! Wedyn yn treulio 2 fis arall yng Nghanada menw llefydd gwahannol cyn dychwelyd i Hen Wlad Fy Nhadau.

Yn wreiddiol o Sir F
Arffinwé ap Orffindún

A fyno glod, bid farw.
Rhithffurf defnyddiwr
Arffinwé
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Gwe 08 Gor 2005 2:08 pm
Lleoliad: Victoria, BC, Canada / Toronto, ON, Canada / Sili, Morgannwg / Llangefni, Môn - AKA RHYWLE YN Y BYD

Postiogan Aranwr » Mer 28 Meh 2006 3:17 pm

Dwi'n astudio ym mhrifysgol Durham, reit lan yng ngogledd Lloegr ger Newcastle. Lle braf a chymdeithas Gymraeg gref iawn! :D
"Ma' llwyddiant yn dy wneud di'n glyfar ond ma' methiant yn dy wneud di'n ddoeth."

Gwefan Ha Kome!
Fisie prynu CD Ha Kome!
Rhithffurf defnyddiwr
Aranwr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 329
Ymunwyd: Sad 29 Ion 2005 6:43 pm
Lleoliad: Durham / Dinbych y Pysgod

Postiogan Boibrychan » Maw 06 Maw 2007 2:07 am

Dwi'n astudio yn coleg Syri yn Guildford ers y hydref am flwyddyn ac gynt wedi byw yn Byfleet yn Surrey a cyn hynny yn y coleg yng Nghaerlyr.

O'n i'n trafod gyda ffrind heddiw mai hwn yw fy chweched blwyddyn allan o Gymru. Dal yn mynd nol bob rhyw bedwar mis am benwythnos. Tydi chwe blynedd dal heb stopio yr mwynhad ges i yn gwylio'r Gwyddelod yn rhoi cweir i'r Saeson yn y rygbi! :lol:

Mae yma dipyn o Gymry i fod, ond heb ffeindio gym gym na unrhywbeth felly eto! :?
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Nesaf

Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron