Tudalen 1 o 4

Cymry ar wasgar...yn lle?

PostioPostiwyd: Sad 11 Maw 2006 5:20 pm
gan Socsan
Meddwl fysa hi'n neis cael edefyn ble allwn ni gyd ddeud ble yn union yn y byd ydan ni, ers pryd, a pam ydan ni yno ayyb. Wedyn fydd gan bawb gwell syniad ynglyn a'r cyd-destun mae pawb arall yn cyfrannu ohono...

Felly dowch yn eich blaenau, ble yn y byd ydach chi! :)

PostioPostiwyd: Sad 11 Maw 2006 5:26 pm
gan Socsan
Reit, wel, dwi yn Murcia yn Ne (ish) Sbaen.

Dwi yma ers mis Medi 2005, ond byddaf yn dychwelyd i Gymru yn mis Mehefin cyn mynd yn ol dros Glawdd Offa am y coleg yn Lerpwl i orffen fy ngradd yn Sbaeneg a Ffrangeg (felly byddaf dal yn gywmys i fod yn aelod o'r cylch!)

Fel dwi wedi egluro mewn edefyn arall yn barod, dwi yma fel cymhorthydd iaith yn gweithio mewn Ysgol Uwchradd. Prif bwrpas fy arhosiad yw i wella fy Sbaeneg - wedi bod yn gymharol lwyddianus hyd yma. Ond fel canlyniad o siarad Sbaeneg drwy'r amser, pan dwi'n dod i drio siarad Ffrangeg cwbwl sy'n dod allan o fy ngheg ydi geiriau Sbaeneg hefo acen Ffrangeg! Dwi'n dechrau panicio rwan - fydd *rhaid* i fi fynd i Ffrainc am wyliau haf yma i atgoffa fy hun dwi meddwl...diar mi, y pethau mae'n rhaid i ni wneud! :D

PostioPostiwyd: Sad 11 Maw 2006 7:49 pm
gan Tegwared ap Seion
Difyr! Myfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt (neu Caer-grawnt gan Krustysnacks :winc: ) ydw i. Dwi'n gwneud cwrs mewn Peirianneg...i mi gael bod yn beiriannydd! Yma ers mis Hydref dwytha, gobeithio gai aros tan Mehefin 2009! Mae'r tymor yn gorffen ddydd Mercher nesa' a dwi am fynd am dro i Gaerdydd dydd Sadwrn, cyn hwylio 'nol am y gogladd pell :)

Re: Cymry ar wasgar...yn lle?

PostioPostiwyd: Sad 11 Maw 2006 7:52 pm
gan Mali
Socsan a ddywedodd:
Felly dowch yn eich blaenau, ble yn y byd ydach chi! :)

PostioPostiwyd: Sad 11 Maw 2006 8:12 pm
gan Tegwared ap Seion
Hei, cofiwch am fap maes-e! Angen mwy o'r Cymry gwasgar yma wir, dim ond 5 sydd!

PostioPostiwyd: Sad 11 Maw 2006 10:26 pm
gan Mali
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Hei, cofiwch am fap maes-e! Angen mwy o'r Cymry gwasgar yma wir, dim ond 5 sydd!


Diolch am gyfeirio ni at hwn Teg....wyddwn i ddim byd amdano :wps:
Newydd ychwanegu ato !

PostioPostiwyd: Sul 12 Maw 2006 12:04 am
gan Blewyn
Yn Bahrain.
Ers dwy flynedd.
Achos fod Saudi Arabia wedi mynd braidd yn beryg.

:-)

PostioPostiwyd: Gwe 12 Mai 2006 7:18 pm
gan Arffinwé
Dwi mewn coleg yng nghanol y goedwig, ar ochr Pedder Bay, ger Metchosin, yn BC Canada, ond gna nad oes ned heblaw am efallai mali yn gwbod lle mae fama, dwi'n jest Deutha pawb mod I'n Victoria BC, Canada (sydd tua 45 mun - 1 awr i ffwrdd)

Yma yn y coleg ers dwy flynedd bellach, ond yn graddio menw pythefnos! Wedyn yn treulio 2 fis arall yng Nghanada menw llefydd gwahannol cyn dychwelyd i Hen Wlad Fy Nhadau.

Yn wreiddiol o Sir F

PostioPostiwyd: Mer 28 Meh 2006 3:17 pm
gan Aranwr
Dwi'n astudio ym mhrifysgol Durham, reit lan yng ngogledd Lloegr ger Newcastle. Lle braf a chymdeithas Gymraeg gref iawn! :D

PostioPostiwyd: Maw 06 Maw 2007 2:07 am
gan Boibrychan
Dwi'n astudio yn coleg Syri yn Guildford ers y hydref am flwyddyn ac gynt wedi byw yn Byfleet yn Surrey a cyn hynny yn y coleg yng Nghaerlyr.

O'n i'n trafod gyda ffrind heddiw mai hwn yw fy chweched blwyddyn allan o Gymru. Dal yn mynd nol bob rhyw bedwar mis am benwythnos. Tydi chwe blynedd dal heb stopio yr mwynhad ges i yn gwylio'r Gwyddelod yn rhoi cweir i'r Saeson yn y rygbi! :lol:

Mae yma dipyn o Gymry i fod, ond heb ffeindio gym gym na unrhywbeth felly eto! :?