Reit, wel, dwi yn Murcia yn Ne (ish) Sbaen.
Dwi yma ers mis Medi 2005, ond byddaf yn dychwelyd i Gymru yn mis Mehefin cyn mynd yn ol dros Glawdd Offa am y coleg yn Lerpwl i orffen fy ngradd yn Sbaeneg a Ffrangeg (felly byddaf dal yn gywmys i fod yn aelod o'r cylch!)
Fel dwi wedi egluro mewn edefyn arall yn barod, dwi yma fel cymhorthydd iaith yn gweithio mewn Ysgol Uwchradd. Prif bwrpas fy arhosiad yw i wella fy Sbaeneg - wedi bod yn gymharol lwyddianus hyd yma. Ond fel canlyniad o siarad Sbaeneg drwy'r amser, pan dwi'n dod i drio siarad Ffrangeg cwbwl sy'n dod allan o fy ngheg ydi geiriau Sbaeneg hefo acen Ffrangeg! Dwi'n dechrau panicio rwan - fydd *rhaid* i fi fynd i Ffrainc am wyliau haf yma i atgoffa fy hun dwi meddwl...diar mi, y pethau mae'n rhaid i ni wneud!