Tudalen 2 o 4

PostioPostiwyd: Maw 06 Maw 2007 3:41 am
gan Blewyn
Dwi yn Muscat, Oman rwan. Bywyd cymdeithasol gwanach o lawer na Bahrain, a bwytai yn warthus, ond mae'n gae chwarae o fynyddoedd, wadis, anialwch, ogofeydd a traethau. Fel Gwynedd heb wair.

Re: Cymry ar wasgar...yn lle?

PostioPostiwyd: Gwe 25 Ion 2008 5:36 pm
gan Tom Parsons
Dw i yn Minneapolis, Minnesota. Mi ges i fy ngeni a magu yma.

Re: Cymry ar wasgar...yn lle?

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 6:31 pm
gan daievans
R'wy i yn De Califfornia - mewn tref fechan o'r enw Laguna Beach ...

Wedi byw yma am gwarter canrif bellach - yn hirach na cyfnod fy magwraeth yng nghefn gwlad Ceredigion ...

R'wyn mentro adre i Gymru dwy neu dair gwaith y flwyddyn fel arfer - dibynnu ar yr awydd a'r cyfrif banc ...

R'wyn credi mai yma fydda'i nawr, gan mhod i llawer rhy americanaidd fy ffordd i gael croeso mawr adre - mae'n well gennyn nhw Saeson i reoli acw!

dai

Re: Cymry ar wasgar...yn lle?

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 7:49 pm
gan Lôn Groes
daievans a ddywedodd:R'wy i yn De Califfornia - mewn tref fechan o'r enw Laguna Beach ...

Wedi byw yma am gwarter canrif bellach - yn hirach na cyfnod fy magwraeth yng nghefn gwlad Ceredigion ...

R'wyn mentro adre i Gymru dwy neu dair gwaith y flwyddyn fel arfer - dibynnu ar yr awydd a'r cyfrif banc ...

R'wyn credi mai yma fydda'i nawr, gan mhod i llawer rhy americanaidd fy ffordd i gael croeso mawr adre - mae'n well gennyn nhw Saeson i reoli acw!

dai


Dwy neu dair gwaith y flwyddyn? Bobol bach mae pobol Laguna Beach yn rowlio mewn arian. Mi fyddai'n ffodus i fynd adref unwaith pob pedair blynedd :winc:
Dim ond chwarter canrif? 'Dwyt ti ddim wedi bod i ffwrdd o Gymru yn hir iawn felly :)
Mae 'na wastad groeso i Americanwyr Cymraeg yng Nghymru greda i. Dim ond iti ymarfer dy iaith a dweyd dy fod yn falch i fod adref.
Mae'r Saeson erioed wedi meddwl eu bod nhw yn rheoli Cymru. Mae nhw'n teimlo ru'n fath am yr Alban. Diawcs mae rhai ohonyn nhw yn meddwl fod yr Ymerodraeth yn dal ar fynd :)

Re: Cymry ar wasgar...yn lle?

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 8:59 pm
gan daievans
"Dwy neu dair gwaith y flwyddyn? Bobol bach mae pobol Laguna Beach yn rowlio mewn arian."

Beth ti'n ddisgwyl gan Gardi? R'wyn byw fel llygoden eglwys drwy'r flwyddyn er mwyn llogu Gulfstream i lanio yn Aberporth!

A diolch am "Y Llwynog" gan RWP .... Rhaid i mi feddwl am fy hoff ddarn innau nawr, a'i ddefnyddio fel llofnod ....

Wyt ti ar Ynys Vancouver? R'wyn 'nabod sawl Cymro a Cymraes acw ...

dai

Beth am

"Niw Siland, Ynys Elis, - a Lahor,
Yn y Ffor, a Pharis
Yn Aran, a'r Caneris,
Yn Lourdes, a Los Anjelis"

Twm Morys - Y Gwyddel Gwyn a Du

Re: Cymry ar wasgar...yn lle?

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 9:26 pm
gan Lôn Groes
daievans a ddywedodd:"Dwy neu dair gwaith y flwyddyn? Bobol bach mae pobol Laguna Beach yn rowlio mewn arian."

Beth ti'n ddisgwyl gan Gardi? R'wyn byw fel llygoden eglwys drwy'r flwyddyn er mwyn llogu Gulfstream i lanio yn Aberporth!

A diolch am "Y Llwynog" gan RWP .... Rhaid i mi feddwl am fy hoff ddarn innau nawr, a'i ddefnyddio fel llofnod ....

Wyt ti ar Ynys Vancouver? R'wyn 'nabod sawl Cymro a Cymraes acw ...

dai

Beth am

"Niw Siland, Ynys Elis, - a Lahor,
Yn y Ffor, a Pharis
Yn Aran, a'r Caneris,
Yn Lourdes, a Los Anjelis"

Twm Morys - Y Gwyddel Gwyn a Du


Ar Ynys Vancouver yn wir ac yn byw ar yr ochor ddwyreiniol. Mi wnes ti'n dda i adnabod y llinellau o'r Llwynog.
Ddim yn rhy gyfarwydd a'r Gwyddel Gwyn a Du.
Mae hi'n oer iawn yma wythnos yma. Yr hen oerni 'na o'r Arctig wedi dod lawr i'n gweld ni.
Ple mae'r Cymry 'ma ar Ynys Vancouver yn byw felly?

Re: Cymry ar wasgar...yn lle?

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 9:51 pm
gan daievans
Mae Andrew Doyle yn dysgu mewn Ysgol Fonedd acw - Lake Shawnigan (sillafu)

http://www.sls.bc.ca/slsstaff.html

R'oedd yna Gymry arall acw, ond nid wy'n gweld nhw ar y rhestr bellach - falle bod nhw wedi dychwelyd i'r hen wlad ....

Mae Andrew yn dod o Lanbedr Pont Steffan, fel finnau, ond i fod e hanner yn oedran i ...!

Dai

"O bellter byd r'wyn dod o hyd
I'w gweld dan haul a gwlith,
A briw i'm bron fu cael pwy ddydd
Heb gennad yn eu plith, "

Re: Cymry ar wasgar...yn lle?

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 11:25 pm
gan Lôn Groes
daievans a ddywedodd:Mae Andrew Doyle yn dysgu mewn Ysgol Fonedd acw - Lake Shawnigan (sillafu)

http://www.sls.bc.ca/slsstaff.html

R'oedd yna Gymry arall acw, ond nid wy'n gweld nhw ar y rhestr bellach - falle bod nhw wedi dychwelyd i'r hen wlad ....

Mae Andrew yn dod o Lanbedr Pont Steffan, fel finnau, ond i fod e hanner yn oedran i ...!

Dai

"O bellter byd r'wyn dod o hyd
I'w gweld dan haul a gwlith,
A briw i'm bron fu cael pwy ddydd
Heb gennad yn eu plith, "


Ydi mae Shawnigan Lake School rhyw ddeugain munud i'r gogledd o Victoria. Dwi'n hoffi'r disgrifiad - Ysgol Fonedd.
O ble mae'r gerdd yn dod?
Wyt ti'n gyfarwydd a Skype? Mae pedwar ohonom yn sgwrsio ar Skype pob nos Lun.

Re: Cymry ar wasgar...yn lle?

PostioPostiwyd: Maw 29 Ion 2008 12:40 am
gan daievans
Hoff Gerdd fy nhad - Y Border Bach gan Crwys ...

Ydw - r'wyn defnyddio Skype - dyma fy enw ar Skype - David Morris Evans - yn Laguna Beach e-bost yw daievans@cox.{rho y gair saesneg am rhwyd yma!] - yna fydd ddim un bot yn llwytho'm blwch post efo spam!

faint o'r gloch mae'r sgwrs?


dai

"Segur faen sy'n gwlio'r fangre
Yn y curlaw mawr a'r gwynt,
Dilythyren garreg goffa
O'r amseroedd difyr gynt;
Ond does yma neb yn malu,
Namyn amser swrth a'r hin
Wrthi'n chwalu ac yn malu,
Malu'r felin yn Nhr-fin"

Re: Cymry ar wasgar...yn lle?

PostioPostiwyd: Llun 04 Chw 2008 7:03 pm
gan Cosyn
Dwi'n byw yn Dulyn ers Medi 2007.
Wrth fy modd yma.
Dwi wedi darganfod criw o bobol Cymraeg yn y ddinas i wylio rygbi efo.