Tudalen 3 o 4

Re: Cymry ar wasgar...yn lle?

PostioPostiwyd: Maw 29 Ion 2008 12:40 am
gan daievans
Hoff Gerdd fy nhad - Y Border Bach gan Crwys ...

Ydw - r'wyn defnyddio Skype - dyma fy enw ar Skype - David Morris Evans - yn Laguna Beach e-bost yw daievans@cox.{rho y gair saesneg am rhwyd yma!] - yna fydd ddim un bot yn llwytho'm blwch post efo spam!

faint o'r gloch mae'r sgwrs?


dai

"Segur faen sy'n gwlio'r fangre
Yn y curlaw mawr a'r gwynt,
Dilythyren garreg goffa
O'r amseroedd difyr gynt;
Ond does yma neb yn malu,
Namyn amser swrth a'r hin
Wrthi'n chwalu ac yn malu,
Malu'r felin yn Nhr-fin"

Re: Cymry ar wasgar...yn lle?

PostioPostiwyd: Llun 04 Chw 2008 7:03 pm
gan Cosyn
Dwi'n byw yn Dulyn ers Medi 2007.
Wrth fy modd yma.
Dwi wedi darganfod criw o bobol Cymraeg yn y ddinas i wylio rygbi efo.

Re: Cymry ar wasgar...yn lle?

PostioPostiwyd: Maw 05 Chw 2008 6:15 am
gan Mali
Helo Cosyn,
Yn gweld dy fod yn newydd i maes-e , felly croeso mawr i ti . :D
Da clywed dy fod ti wrth dy fodd yn Dulyn, a dy fod wedi cael cwmpeini da i wylio'r gemau rygbi ! Ddim yn meddwl y medrwn i wylio'r gemau yma yng Nghanada, er ein bod yn medru gweld nifer o raglenni S4C ar y cyfrifiadur. Ond fel arfer , fedrwn ni eu dilyn ar Radio Cymru ar y we. :)

Re: Cymry ar wasgar...yn lle?

PostioPostiwyd: Maw 05 Chw 2008 5:04 pm
gan Cosyn
Mali a ddywedodd:Helo Cosyn,
Yn gweld dy fod yn newydd i maes-e , felly croeso mawr i ti . :D
Da clywed dy fod ti wrth dy fodd yn Dulyn, a dy fod wedi cael cwmpeini da i wylio'r gemau rygbi ! Ddim yn meddwl y medrwn i wylio'r gemau yma yng Nghanada, er ein bod yn medru gweld nifer o raglenni S4C ar y cyfrifiadur. Ond fel arfer , fedrwn ni eu dilyn ar Radio Cymru ar y we. :)


Dwi wedi bod yn aelod o maes-e ers tro o dan enw arall. Wnes i feddwl : gwlad newydd - enw newydd.
Does gen i ddim 'Sky' felly dwi'n methu allan ar S4C digidol ond fyddai'n mynd nol i Gymru bob mis.

Re: Cymry ar wasgar...yn lle?

PostioPostiwyd: Maw 05 Chw 2008 5:15 pm
gan Mali
Cosyn a ddywedodd:
Dwi wedi bod yn aelod o maes-e ers tro o dan enw arall. Wnes i feddwl : gwlad newydd - enw newydd.
Does gen i ddim 'Sky' felly dwi'n methu allan ar S4C digidol ond fyddai'n mynd nol i Gymru bob mis.


Croeso i ti beth bynnag dan dy enw newydd. :)
Hei , dwi'n licio'r llgada ..... 8)

Re: Cymry ar wasgar...yn lle?

PostioPostiwyd: Gwe 27 Meh 2008 12:12 am
gan Pedr
Byw yn Nhe California, Monrovia, tu fas o' Los Angeles. Llanelli yn wreiddiol. Cwrddais i Americanes pan oedd hi ar gwyliau yn Llundain ac yn nawr. Wel, priodais i un o'r diawled ac mae'n rhaid byw gyda nhw.
Deunaw flwyddyn yma ac i fod onest dwy'n mwynhau llawer mwy na beth dwy'n dweud. Mae America wedi fod yn dda i ni ond 'sai credi fyddwn ni'n parhau. Mae'r hiraeth yn tynni'n cryf weithiau.
Briodais ni yma ac oedd y priodas yn dwy-ieithog, Saesneg a Cymraeg. Y Gweinidog o'r Capel Cymraeg Los Angeles. Rhai o'r teulu wraig yn uniaeth sbaeneg ac oedd nhw ddim yn ddeall beth a digwyddod. :D

Re: Cymry ar wasgar...yn lle?

PostioPostiwyd: Gwe 27 Meh 2008 12:18 am
gan Mali
Croeso cynnes i ti Pedr.
Yn gweld ein bod ni ar yr un cyfandir ar un amser ! :D

Re: Cymry ar wasgar...yn lle?

PostioPostiwyd: Gwe 27 Meh 2008 5:47 pm
gan Pedr
Diolch yn fawr iawn am dy chroeso Mali. Dwy 'di fod aelod y meas am sbel fach ond jest i ddarllen a gofyn am cymorth nawr ag eto.
Shwd ydy chi'n fwynhau y cyfandir hyn? ydych chi 'di cael y cyfle i teithio allan o Canada?

Re: Cymry ar wasgar...yn lle?

PostioPostiwyd: Sad 28 Meh 2008 2:30 am
gan Mali
Helo eto !
Wedi teithio i Alaska a Hawaii hyd yma , hynny ydi ar wahan i deithio o fewn Canada . Ac wrth gwrs , mae'n rhaid cael taith bach i Gymru bob yn hyn a hyn . :) Mis Medi yma , mi fyddwn yn crwydro eto .....y tro yma i California, Nevada ac Arizona.
Wedi bod yn dilyn hanes y tanau mawr yn California . Oes 'na rai yn dy yml di ?

Re: Cymry ar wasgar...yn lle?

PostioPostiwyd: Sad 28 Meh 2008 12:10 pm
gan Chickenfoot
Dydi Morfa Bychan ddim yun teimlo fel Cymru - ydw i'n cyfri?