'Mae rhywbeth bach yn poeni pawb
Ac nid yw'n nef ymhobman.'
Ydi mae America yn wlad fawr ond mae Canada yn fwy.
Ond o safbwynt poblogaeth, bychan iawn ydi Canada o'i chymharu ac America.
Mae 'na 32 miliwn o bobl yng Nghanada a 295.7 miliwn yn America.
Mae America yn newynog iawn am adnoddau amrwd o bob math ac yn wastad yn edrych o gwmpas am wledydd i ddiwallu ei chwant.
Gan ein bod yn wlad eang efo poblogaeth fechan mae America yn wastad wedi chwenych cyfoeth Canada.
Mae 80% o fasnach Canada efo'r America. Mae hyn yn dda i ni wrth gwrs ond nid yw gor ddibynnu ar America o safbwynt economaidd yn gwneyd i bawb deimlo'n gyfforddus. Gall hyn yn ei dro arwain i America fusnesa ym materion gwleidyddol Canada ac o ganlyniad tanseilio annibyniaeth ein gwlad.
Dyma'r math o ofnau ddaru ddal ein sylw yr wythnos hon:
Mae 'na yng Nghanada yr hyn a elwir yn 'think tanks' a 'chorfforaethau' sy'n edrych yn garedig iawn ar America ac yn dymuno mwy o agosatrwydd rhwng y ddwy wlad.
Mae hyn yn golygu bydd Canada yn gwarantu America ychwaneg o olew, a mwy o drydan a nwy. Gall hyn olygu y bydd Canada yn colli gafael ar ei hynni, ac yn barod mae 60% o'n nwy naturiol yn gwneyd ei ffordd i America.
Gall byw yng nghesail America olygu colli llywodraeth dros ein dŵr ffres; colli ein Cyfundrefn Iechyd Genedlaethol i'r sector breifat a mabwysiadu doler America fel ein harian breiniol.
O Canada My home and Native land!
Na nid yw yn nef ymhobman!