Tudalen 1 o 5

S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Mer 15 Maw 2006 9:03 pm
gan Mali
Oes 'na rywun arall wedi edrych ar recordiad o rai o'r rhaglenni Cymraeg sydd ar gael ar S4C Band Llydan?
Yn gweld bod 'na fwy o raglenni yn cael eu ychwanegu bob yn hyn a hyn. Ond tybed ddaw y dydd pan fedrwn weld holl raglenni S4C /rhaglenni o Gymru ar gyfrifiadur yn unrhyw le yn y byd?
Mi fasa fo'n 8) !

PostioPostiwyd: Iau 16 Maw 2006 12:40 am
gan Tegwared ap Seion
Basa yn sicr! Dwi 'di bod yn meddwl am hyn yn ddiweddar a dwi wir yn gobeithio y bydd Eisteddfod yr Urdd ar y we!

PostioPostiwyd: Iau 16 Maw 2006 2:16 pm
gan Socsan
Doeddwn im yn gwybod bod rhaglenni i

PostioPostiwyd: Iau 16 Maw 2006 5:28 pm
gan Mali
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Basa yn sicr! Dwi 'di bod yn meddwl am hyn yn ddiweddar a dwi wir yn gobeithio y bydd Eisteddfod yr Urdd ar y we!


Dwi 'di bod yn gwylio cystadlaethau a seremoniau o'r Eisteddfod Genedlaethol yn fyw ar y we ers tua pum mlynedd bellach. Mae'n wir i ddweud fod y llifiad byw wedi gwella ers y dyddiau cynnar pan oeddwn yn stryffaglu drwy luniau oedd yn rhewi a lot lot o 'buffering'. :(

PostioPostiwyd: Iau 16 Maw 2006 5:37 pm
gan Mali
Socsan a ddywedodd: fyswn i ddim yn selio fy marn ar ITV ar ol gwylio Emmerdale! :rolio:


Na finna chwaith!
Dim ond un rhaglen Dudley dwi 'di edrych arno hyd yma , a diddorol oedd sylwi fod 'na isdeitlau ar gael os oedd angen. Handi iawn ar gyfer y dysgwyr. :)

PostioPostiwyd: Sul 26 Maw 2006 1:42 am
gan Mali
Newydd gael 'high speed internet', sydd wedi gwneud byd o wahaniaeth i safon y llun. :D Wedi bod yn gwylio 'Wedi 7' ...rhaglen hanner awr o hyd yn cynnwys storiau difyr o bob ran o Gymru , ac hefyd 'Wawffactor'.
Yn edrych ymlaen am weld mwy o raglenni S4C ar 'broadband' . 8)

PostioPostiwyd: Maw 07 Awst 2007 10:03 pm
gan Mali
Mae'n rhaid fod 'na rhywun 'di bod yn gwrando . :lol: Does dim rhaid mynd i'r steddfod bellach , gan fod y steddfod yn dod atom ni!
Llifiad byw drwy'r wythnos ar:
http://www.s4c.co.uk/c_watch.shtml
Rhowch glic ar 'gwyliwch yn fyw'...uchafbwyntiau ar gael o'r un dudalen hefyd.
Newid mawr o'r llifiad real audio...diolch amdano. :D

S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Iau 09 Awst 2007 3:04 am
gan CarwynLloyd
Mae'r gwasaneth yma yn gret enwedig i dysgwyr. Yma yn Arizona ni gallu chware y rhagleni efo is-deitlau cymraeg a saesneg y rhyn pryd!!

Ni gallu gwneud recordio y rhagleni a'r VHS. Ni yn y proses o adeiladu llyfrgell o rhaglenni S4C i unrhyw un sydd a diddordeb yn Arizona.

Hefyd ffaith fod rhagleni a'r y tudalen we S4C wedi diflanu o'r bod a'r y tudalen blaen ar ol amser. Mae nhw dal a'r y we!! Wyt ti jyst eisiau cofio neu gweithio allan y wahanol URL's i pob rhaglen!!

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Gwe 10 Awst 2007 9:11 pm
gan Mali
CarwynLloyd a ddywedodd:
Hefyd ffaith fod rhagleni a'r y tudalen we S4C wedi diflanu o'r bod a'r y tudalen blaen ar ol amser. Mae nhw dal a'r y we!! Wyt ti jyst eisiau cofio neu gweithio allan y wahanol URL's i pob rhaglen!!


Hmmm dyna glyfar . Sgin ti yn digwydd bod gyfeiriad we'r rhaglen ar Cae'r Gors ogydd? 8)

PostioPostiwyd: Sad 11 Awst 2007 7:01 pm
gan Blewyn
Wedi gweld yr edefyn yma heddiw a newydd wylio 5munud o "Y Lleill" a dwi'n damio a ***tio wan achos dwi newydd drefnu symud i dy newydd - rhywbeth sydd, yn Muscat, yn golygu deud ta-ta wrth y bandlydan achos mae'r cyfnewidiadau ffon mor blydi hen does dim lle i dai newydd gael bandlydan ! :drwg: :drwg: :drwg: :drwg: :drwg: &^%$#%^%^ !