S4C dros y Byd?

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: S4C dros y Byd?

Postiogan Blewyn » Sad 04 Ebr 2009 7:54 pm

Dyfais ar gyfer pobl sydd eisiau gwylio teli o adre tra mae nhw dramor ydy Slingbox - mae'n creu ffrwd fideo breifat o dy gysylltiad satellite a ti'n ei wylio efo meddalwedd arbennig ar dy declyn tra ti ffwrdd. Mi fysa'n gwneud y tro yn handi iawn wrth gwrs ond mae gofyn i ti gael mynediad at focs satellite ym Mhrydain, cysylltiad broadband yno, a bod pwy bynnag sy'n rhannu'r satellite efo ti yn fodlon i ti newid sianeli o ffwrdd....
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Re: S4C dros y Byd?

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 11 Ebr 2009 12:21 pm

Ydych chi wedi trio hwn - mms://s4c.unique-media.tv/s4c_uk_live

Mae'n gweithio gyda Real player. Ddim yn gwybod os yw'n dangos POB rhaglen, na chwaeth os yw ar gael trwy'r byd.

(Mae'n wahanol i'r cyfeiriad sydd ar wefan S4C gyda llaw sef hwn - mms://s4clive.unique-media.tv/s4c_uk_live )
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: S4C dros y Byd?

Postiogan Mali » Sad 11 Ebr 2009 4:12 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Ydych chi wedi trio hwn - mms://s4c.unique-media.tv/s4c_uk_live

Mae'n gweithio gyda Real player. Ddim yn gwybod os yw'n dangos POB rhaglen, na chwaeth os yw ar gael trwy'r byd.

(Mae'n wahanol i'r cyfeiriad sydd ar wefan S4C gyda llaw sef hwn - mms://s4clive.unique-media.tv/s4c_uk_live )


Newydd ei drio fo Hedd , ac mae'n dweud fod y tywydd ymlaen. Mi af yn ôl ato ymhen chwarter awr i weld os oes 'na lun. Ai linc i S4C yn fyw ydi hwn ?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: S4C dros y Byd?

Postiogan Mali » Sad 11 Ebr 2009 4:28 pm

WOW.....MAE GEN I S4C YN FYW AR Y WE UNWAITH ETO !!!!!!!!!!! :D :D
Diolch i ti Hedd !
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: S4C dros y Byd?

Postiogan KJ » Mer 15 Ebr 2009 4:59 am

Reit dda Hedd, diolch am ddangos hwnna.
Shhh Mali, paid a deud gormod ne na nhw ffendio ffordd arall i sdopio ni weld o !! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
KJ
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Llun 27 Tach 2006 10:00 pm
Lleoliad: Awstralia

Re: S4C dros y Byd?

Postiogan Mali » Mer 15 Ebr 2009 4:34 pm

KJ a ddywedodd:Reit dda Hedd, diolch am ddangos hwnna.
Shhh Mali, paid a deud gormod ne na nhw ffendio ffordd arall i sdopio ni weld o !! :winc:



Ia sori am hynna ...gobeithio na wnês i weiddi gormod . :lol: Ond 'roeddwn i mor ecseited o weld S4C eto . Welish i gip o'r gem beldroed rhwng Rhyl a Llanelli , Dechrau Canu Dechrau Canmol o Eglwys Ty Ddewi, a syrpreis hollol o weld omnibws Pobl y Cwm . Heb ei weld ers 13 mlynedd...lot o wynebau newydd yno , yn ogystal a rhai hen wynebau hefyd ..... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Nôl

Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai