Tudalen 2 o 5

PostioPostiwyd: Sul 12 Awst 2007 4:39 pm
gan Mali
Blewyn a ddywedodd:Wedi gweld yr edefyn yma heddiw a newydd wylio 5munud o "Y Lleill" a dwi'n damio a ***tio wan achos dwi newydd drefnu symud i dy newydd - rhywbeth sydd, yn Muscat, yn golygu deud ta-ta wrth y bandlydan achos mae'r cyfnewidiadau ffon mor blydi hen does dim lle i dai newydd gael bandlydan ! :drwg: :drwg: :drwg: :drwg: :drwg: &^%$#%^%^ !


Dyna biti :( Mae bandllydan yn hanfodol ar gyfer gwylio S4C Digidol.
Heb weld 'Y Lleill' eto , ond wedi gwylio rhan o
Con Passionateneithiwr .....da iawn ! :D

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Maw 05 Chw 2008 5:01 pm
gan Mali
Bwmp i hwn .... :winc:
Mae 'na lot o newid wedi bod ers i mi gychwyn yr edefyn ar S4C dros y Byd bron i ddwy flynedd yn ôl. Erbyn hyn mae toraeth o raglenni ar gael , a dwi hyd yn oed yn medru eu gwylio ar fy ngliniadur sydd yn bedair blynedd oed ! Yn ddiweddar dwi 'di bod yn gwylio 'Alpau Eric Jones', a chyfres ddrama newydd 'Teulu'. Y ddau yn dda iawn. :D
Ydi'r gemau rygbi ar gael yn fyw rwan ? Meddwl am ddefnyddio'r gliniadur i'w gwylio ar y teledu....

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Maw 05 Chw 2008 5:32 pm
gan Rhodri Nwdls
Swn i'n lecio gwybod be di stats y rhan yma o wefan S4C ers ei gychwyn. O ran lleoliad gwylwyr yn arbennig, ac o ran hyd gwylio rhaglenni.

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Iau 07 Chw 2008 9:59 am
gan KJ
Mi fydda i'n edrych ar ambell i raglen ar wefan S4C. Dwi wedi mwynhau sioeau PC Leslie Wynne yn fawr ac hefyd Eric Jones. Braidd yn siomedig oedd SOS, Galw Gari Tryfan.
Pan oeddan ni'n byw yng Nghymru mi oedd fy ngwraig yn edrych ar Rownd a Rownd efo is-deitlau, a rwan mai'n gallu gwneud 'run fath ar y we. Cool.

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Iau 07 Chw 2008 11:36 am
gan Wylit, wylit Lywelyn
Plis, allwn ni gael stwff nostalgia o'r wythdegau a'r nawdegau cynnar ar y wefan?
Be oedd enw'r rhaglen yna o faes y Brifwyl i bobl ifanc? Swig?
Hel Straeon hefyd. Pam lai?! Be sydd gan S4C i'w golli drwy gynnig hyn? Gan obeithio nad oes yna ryw ganllawiau neu rheolau sych yn rhwystro hyn rhag digwydd.

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Iau 07 Chw 2008 12:11 pm
gan Rhodri Nwdls
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Be sydd gan S4C i'w golli drwy gynnig hyn?

Arian.

Mae'n rhaid talu pob actor, a weithiau pobol eraill oedd dan gontract ar y rhaglen, am ffioedd ailadrodd. Ma'n debyg fasa'n rhaid ail-negodi'r contractiau hyn ar gyfer
dangos ar y we a thalu nhw eto (crocbris ma'n siwr). Basa hyn yn golygu dipyn o waith i rywun yn S4C, a gyda mwy a mwy o'r gwaith yn cael ei all-gontractio - oes ganddyn nhw'r staff i wneud hyn rhagor?

Gwell canolbwyntio ar wario arian ar ddatblygu a chynhyrchu rhaglenni newydd na hyn yn fy marn i, gan taw cynulleidfa gyfyng fuasai yna o'i gymharu a rhaglenni newydd.

A p'un bynnag, mae hawliau'r rhaglenni'n ara bach yn mynd nôl i'r cwmniau a gynhyrchodd nhw'n y lle cyntaf - felly ella taw nhw iddyn nhw ddylia ti fod yn gofyn yn hytrach na S4C...

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Iau 07 Chw 2008 4:53 pm
gan nicdafis
Mali a ddywedodd:Yn ddiweddar dwi 'di bod yn gwylio 'Alpau Eric Jones', a chyfres ddrama newydd 'Teulu'. Y ddau yn dda iawn. :D


Mae adnoddau dda iawn ar gyfer dysgwyr yma hefyd, gyda dewis o is-deitlau Saesneg, Cymraeg syml neu'r sgript gwreiddiol. Un peth newydd (wel, dim ond yn diweddar dw i wedi sylwi arno) yw'r cyfle i edrych ar un olygfa a chael camu trwyddi llinell wrth linell, gyda neu heb is-deitlau. Handi iawn.

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Iau 07 Chw 2008 7:07 pm
gan Mali
Braf gweld fod 'na ddefnydd yn cael ei wneud o'r rhaglenni sydd ar gael ar safle we S4C , a nid yn unig gan Gymry dros glawdd offa. Hefyd mae'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer y dysgwyr wedi datblygu i fod yn rai arbennig iawn, a diolch amdano.
Gan fod 'na gymaint o raglenni ar gael ar y we rwan, dwi unwaith eto yn meddwl am drio eu gwylio ar y teledu drwy gysylltu'r gliniadur i'r teledu. Mi ddechreuais i edefyn ar hyn jyst iawn i ddwy flynedd yn ôl ,ac mi gefais ychydig o help gan dafydd chwarae teg , ond dwi dal heb fedru gorffen y project ! :wps:
Mae gen i'r cebl s video , a dwi wedi mynd drwy'r broses sydd yn cychwyn yn panel rheoli...wedi dewis y botwm coch ar gyfer y teledu ...ond wedyn dwi'n gweld 'Do you want to save this?' Ac mae hynny wedi gwneud fi'n nyrfys am ryw reswm . Ddim yn siwr os fasa fo'n newid pethau'n barhaol ...
Efo cyn gymaint o raglenni ar y we rwan , mi fasa fo'n handi medru eu gweld ar y teledu . :)
Help plîs...

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Gwe 08 Chw 2008 10:42 am
gan Rhodri Nwdls
nicdafis a ddywedodd:Un peth newydd (wel, dim ond yn diweddar dw i wedi sylwi arno) yw'r cyfle i edrych ar un olygfa a chael camu trwyddi llinell wrth linell, gyda neu heb is-deitlau. Handi iawn.

Falch bod hwn wedi cyrraedd. Nathon nhw son am hwn mewn cynhadledd nathon ni nol yn Ionawr llynedd. Oedd o'n edrych yn dda.

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Gwe 08 Chw 2008 10:55 am
gan Blewyn
OK sony projector, mac mini a band lydan - potel o win gwyn a dwi'n barod i wylio ! :D