Tudalen 3 o 5

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Sad 09 Chw 2008 3:07 am
gan Mali
Blewyn a ddywedodd:OK sony projector, mac mini a band lydan - potel o win gwyn a dwi'n barod i wylio ! :D


Gwyn dy fyd di Blewyn ... :D
Mwynha !

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Maw 12 Chw 2008 5:34 am
gan Mali
Wedi cael llwyddiant o'r diwedd !
Grêt medru gweld y rhaglenni Cymraeg ar y teledu.... yeeeeeeeeees :D

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Gwe 15 Chw 2008 11:35 am
gan Wylit, wylit Lywelyn
Byddai'n ddiddorol gweld ar y wefan faint sydd wedi gwylio rhaglen arbennig (fel mae rhywun yn cael yr ystadegyn ar youtube).
Hynny yw, S4C yn cyfiawnhau'r gost o gynnig yr arlwy. Arian trethdalwyr Prydain(?)

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Mer 27 Awst 2008 10:29 pm
gan Blewyn
Typical blydi Cymro ! :rolio:

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Mer 17 Rhag 2008 8:34 pm
gan asuka
S4C dros y Byd?

Dim bellach, y cythreuliaid tyn. :(

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Mer 17 Rhag 2008 9:38 pm
gan Mali
asuka a ddywedodd:S4C dros y Byd?

Dim bellach, y cythreuliaid tyn. :(


:drwg:
Rhyfedd i ti ychwanegu at yr edefyn hwn heddiw .....wedi gyrru i S4C yn bore 'ma gan obeithio y byddai rhai rhaglenni ar gael dros y Nadolig , ac wedi cael yr ateb yma ganddynt :

Annwyl Linda

Diolch i chi am gysylltu.

Ar hyn o bryd, oherwydd hawliau, yr unig raglenni sydd ar gael i wylio y tu allan i'r DU yw'r rhaglenni Ffeil, Yr Wythnos ac CF99.

Diolch i chi eto am eich diddordeb ac rydym yn wir obeithio y bydd rhagor o raglenni ar gael yn fyd eang yn faun.

Yn gywir

Elisabeth Garrod

Gwifren Hotline

Gwifren Gwylwyr S4C


Gawn ni weld :(

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Mer 17 Rhag 2008 9:54 pm
gan asuka
wi'n ffili deall pa reswm da a allai fod dros hyn. rhesymau hurt, cyfreithiol? mae hyn'na'n ddigon rhwydd ei gredu - ond rhesymau go iawn? oes ofon y gwnaiff rhyw gwmni yn tsieina gynhyrchu miloedd o dvds o "rownd a rownd" a'u gwerthu nhw 'nôl i bobl cymru, gan dwyllo'r sianel?

i want my s4c :ing:
Delwedd

wyt ti'n gwybod oes 'na ryw ddeiseb o gwmpas y gall cymry a dysgwyr y byd ei llofnodi?

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2008 2:29 am
gan Emma Reese
Rôn i'n hoff iawn o Wedi 7 ac Oli Dan y Don! Diolch i ti Mali am sgwennu i S4C beth bynnag.

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2008 2:18 pm
gan Rhodri Nwdls
Os mae costau clirio hawliau rhyngwladol yn ormod yna efallai dylai S4C ystyried system pay per view ar gyfer gwylwyr tramor?

Dwi ddim yn credu taw ofn pobol yn copio rhaglenni yw'r broblem ond diffyg arian ar gyfer talu actorion / cerddorion etc am y gost ychwanegol o ddangos y gwaith mewn gwledydd eraill. Mae'n gallu mynd yn ddrud iawn yn fuan iawn pan da chi'n ystyried clirio pethau i chwarae ar y we. Ma hawliau yn blydi minefield, ond mae hi'n biti bod y diaspora Cymraeg ddim yn gallu gwylio rhaglenni. Fuasai hi'n ddiddorol gwybod faint o wylwyr rhyngwladol sydd yna, a faint wedyn yw'r gost o roi gwasanaeth iddyn nhw.

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2008 4:31 pm
gan asuka
ie, diolch i mali am gysylltu 'da nhw. a diolch i ti, rhodri, am egluro ychydig. drueni nad oes modd talu am raglenni neu danysgrifio neu rywbeth tebyg. wrth sôn am "hawliau", beth yw'r gwahaniaeth rhwng rhaglenni teledu a chynnwys radio cymru, sy'n darlledu dros y we am ddim?