Tudalen 3 o 5

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Mer 17 Rhag 2008 9:38 pm
gan Mali
asuka a ddywedodd:S4C dros y Byd?

Dim bellach, y cythreuliaid tyn. :(


:drwg:
Rhyfedd i ti ychwanegu at yr edefyn hwn heddiw .....wedi gyrru i S4C yn bore 'ma gan obeithio y byddai rhai rhaglenni ar gael dros y Nadolig , ac wedi cael yr ateb yma ganddynt :

Annwyl Linda

Diolch i chi am gysylltu.

Ar hyn o bryd, oherwydd hawliau, yr unig raglenni sydd ar gael i wylio y tu allan i'r DU yw'r rhaglenni Ffeil, Yr Wythnos ac CF99.

Diolch i chi eto am eich diddordeb ac rydym yn wir obeithio y bydd rhagor o raglenni ar gael yn fyd eang yn faun.

Yn gywir

Elisabeth Garrod

Gwifren Hotline

Gwifren Gwylwyr S4C


Gawn ni weld :(

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Mer 17 Rhag 2008 9:54 pm
gan asuka
wi'n ffili deall pa reswm da a allai fod dros hyn. rhesymau hurt, cyfreithiol? mae hyn'na'n ddigon rhwydd ei gredu - ond rhesymau go iawn? oes ofon y gwnaiff rhyw gwmni yn tsieina gynhyrchu miloedd o dvds o "rownd a rownd" a'u gwerthu nhw 'nôl i bobl cymru, gan dwyllo'r sianel?

i want my s4c :ing:
Delwedd

wyt ti'n gwybod oes 'na ryw ddeiseb o gwmpas y gall cymry a dysgwyr y byd ei llofnodi?

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2008 2:29 am
gan Emma Reese
Rôn i'n hoff iawn o Wedi 7 ac Oli Dan y Don! Diolch i ti Mali am sgwennu i S4C beth bynnag.

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2008 2:18 pm
gan Rhodri Nwdls
Os mae costau clirio hawliau rhyngwladol yn ormod yna efallai dylai S4C ystyried system pay per view ar gyfer gwylwyr tramor?

Dwi ddim yn credu taw ofn pobol yn copio rhaglenni yw'r broblem ond diffyg arian ar gyfer talu actorion / cerddorion etc am y gost ychwanegol o ddangos y gwaith mewn gwledydd eraill. Mae'n gallu mynd yn ddrud iawn yn fuan iawn pan da chi'n ystyried clirio pethau i chwarae ar y we. Ma hawliau yn blydi minefield, ond mae hi'n biti bod y diaspora Cymraeg ddim yn gallu gwylio rhaglenni. Fuasai hi'n ddiddorol gwybod faint o wylwyr rhyngwladol sydd yna, a faint wedyn yw'r gost o roi gwasanaeth iddyn nhw.

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Iau 18 Rhag 2008 4:31 pm
gan asuka
ie, diolch i mali am gysylltu 'da nhw. a diolch i ti, rhodri, am egluro ychydig. drueni nad oes modd talu am raglenni neu danysgrifio neu rywbeth tebyg. wrth sôn am "hawliau", beth yw'r gwahaniaeth rhwng rhaglenni teledu a chynnwys radio cymru, sy'n darlledu dros y we am ddim?

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2008 4:13 am
gan Mali
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Os mae costau clirio hawliau rhyngwladol yn ormod yna efallai dylai S4C ystyried system pay per view ar gyfer gwylwyr tramor?


Wel mi fuaswn i'n fodlon talu am wylio rhai rhaglenni mae'n debyg tasa rhaid...tebyg i'r system 'pay per view ' sydd gennym ar Shaw cable rwan. Ond beth sydd yn gwneud fi'n flin am hyn ydi bod y rhan fwyaf o'r rhaglenni ar S4C ar gael i ni ar y we tan ychydig yn ôl , a mwya sydyn pfft ! :drwg: mae nhw i gyd [ mwy neu lai ] wedi diflannu !
Asuka , Emma .....a fuasech yn fodlon sgwennu i S4C hefyd ogydd. i leisio'ch barn ? :)

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2008 2:27 pm
gan asuka
byddwn. dylwn. gwnaf! p'un fyddai'n well, ti'n meddwl - llenwi'r ffurflen fach sydd ar eu gwefan nhw neu hala llythyr go iawn at y bois yng nghaerdydd? yr ail, mae'n debyg. neu y ddau!
mae ddi yn drist. trist i ni oedd yn arfer joio'u rhaglenni ar y we, ac i'r sawl oedd yn iwsio s4c wrth addysgu cymraeg tramor.

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2008 3:35 pm
gan Emma Reese
Dw i newydd sgwennu i S4C. Mi na i sgwennu i'r grwp ddysgwyr dw i'n aelod ohono hefyd ac annog yr aelodau eraill i sgwennu i S4C.

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2008 4:59 pm
gan Mali
Diolch Asuka , Emma . :D
Gyda llaw, defnyddio'r ffurflen ar wefan S4C wnês i , ond efallai buasai llythyr go iawn yn rhoi mwy o glowt ! :crechwen:

Asuka :
trist i ni oedd yn arfer joio'u rhaglenni ar y we, ac i'r sawl oedd yn iwsio s4c wrth addysgu cymraeg tramor.


Mae hynny'n bwynt pwysig iawn !

Re: S4C dros y Byd?

PostioPostiwyd: Sad 20 Rhag 2008 6:50 pm
gan asuka
ie, ombai bod neb yn malio ddim am ddysgwyr tramor, mae'n debyg.
hei, aros eiliad. does 'da neb ots am ddysgwyr tramor... yn unman ond... Y WLADFA!
os gallwn ni gael hyd i ddosbarth yn yr ariannin oedd yn arfer gwylio s4c yn gyson ond sy ddim yn gallu erbyn hyn, waw - gwelwn erthygl yn GOLWG... barn y cyhoedd o'n plaid ni... gwir newidiadau! :P